|
Newidiwyd diwethaf:
07
Ebrill
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Siapan ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp F: v Awstralia 12 Mehefin 1400 BST, Kaiserslautern
v Croatia 18 Mehefin 1400 BST, Nuremburg
v Brasil 22 Mehefin 2000 BST, Dortmund
Mae cyn arwr Brasil, Zico, o dan bwysau i lwyddo yn Yr Almaen wedi perfformiad cystal gan Siapan ar eu tomen eu hunain bedair blynedd yn ôl.
Mae'r tîm yn bencampwyr Asia a sicrhawyd eu lle yn Yr Almaen yn gymharol hawdd â pherfformiadau disgybledig.
Mae cryn dipyn o chwaraewyr Siapan â phrofiad o chwarae yn Ewrop ond gan fod nifer yn cynhesu meinciau led led Ewrop, mae posibilrwydd bydd Zico yn cadw ffydd â selogion y J League.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Llwyddodd Siapan i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ym 1998 cyn cynnal y bencampwriaeth yn 2002.
Wedi colli eu tair gêm ym 1998, cafwyd cryn welliant erbyn 2002 pan lwyddodd y tîm i gyrraedd yr ail rownd cyn colli yn erbyn Twrci.
Sêr y Tîm: Nid yw chwaraewr enwocaf Siapan, Hidetoshi Nakata, wedi chwarae llawer o gemau i Bolton Wanderers tymor yma, ond mae Zico y siwr o'i gynnwys yn y tîm ar gyfer ei drydedd Cwpan y Byd.
Wedi cyfnod ar fenthyg â Chaerdydd, mae Junichi Inamoto wedi dychwelyd i West Bromwich Albion a bydd ei brofiad yn werthfawr i Siapan a bydd chwaraewr canol cae Celtic, Shunsuke Nakamura, yn fygythiad â chiciau gosod.
Barn Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd: Er gallu Zico i ysbrydoli'r tîm, mae'n gofyn gormod i Siapan geisio cyrraedd yr ail rownd mewn grŵp sydd yn cynnwys Brasil, Croatia ac Awstralia.
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|