Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 07 Ebrill 2006
Yr Iseldiroedd
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Yr Iseldiroedd ar gyfer Cwpan y Byd 2006


Gemau Grŵp C:

v Serbia a Montenegro
11 Mehefin 1400 BST, Leipzig

v Cote d'Ivoire
16 Mehefin 1700 BST, Stuttgart

v Yr Ariannin
21 Mehefin 2000 BST, Frankfurt



Mae'n deg dweud fod Marco van Basten wedi creu tîm da iawn yn Yr Iseldiroedd ers cymryd yr awennau ym mis Gorffennaf 2004.

Ac nid yw cyn arwr yr Oranje wedi bod ofn gadael sêr fel Clarence Seedorf, Patrick Kluivert, Edgar Davids a Mark van Bommel allan o'i dîm pan nad oeddent yn perfformio.

Cyrhaeddodd Yr Iseldiroedd Gwpan y Byd heb golli gêm yng Ngrŵp 1, ond mae diffyg profiad rhai aelodau'r garfan yn boen meddwl i van Basten, tra bo ei brif seren, Arjen Robben wedi ei anafu'n aml.

Hanes yng Nghwpan y Byd:
Y '70au oedd oes aur Yr Iseldiroedd, cyfnod cyffrous 'Total Football' pan fo enwau Johan Cruyff, Johan Neeskens a'r brodyr René a Willy van de Kerkhoff yn gyfarwydd i pob cefnogwr pêl-droed.

Cyrhaeddodd yr Oranje y rownd derfynol ddwywaith yng Ngorllewin yr Almaen ym 1974 ac Yr Arianin ym 1978, ond iddynt golli yn erbyn y timau cartref.

Dyma fydd yr wythfed tro i'r Iseldiroedd gystadlu yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd, ond nid oeddynt yn bresennol bedair blynedd yn ôl yn y Dwyrain Pell.

Sêr y Tîm:
Yn ogystal ag asgellwr chwith Chelsea, Arjen Robben, mae'r hen ben, Phillip Cocu, yn allweddol i'r Iseldiroedd yng nghanol cae.

Penderfynodd Cocu barhau â'i yrfa rhyngwladol wedi Ewro 2004, er i van Basten benodi'r golwr, Edwin van der Sar, yn gapten yn ei le.

A bydd cefnogwyr Manchester United yn ymwybodol iawn o allu Ruud van Nistelrooy, rwydodd saith gôl yn ystod y gemau rhagbrofol.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý