Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 23 Mai 2006
Y Swistir
Popeth fydd angen i chi wybod am dîmÌýY SwistirÌýar gyfer Cwpan y Byd 2006


Gemau Grŵp G:

v Ffrainc
13 Mehefin 1700 BST,ÌýStuttgart

v Togo
19 Mehefin 1400 BST, Dortmund

v De Corea
23 Mehefin 2000 BST, Hanover




Mae hyfforddwr Y Swistir, Kobi Kuhn, wedi dewis gadael un o'i brif sêr allan o'r garfan fydd yn teithio i'r Almaen.

Nid oedd lle i Hakan Yakin, dreuliodd gyfnod anhapus â Stuttgart yn y Bundesliga cyn ymuno â Young Boys Berne, ac roedd siom i'w frawd, yr amddiffynnwr, Murat Yakin, hefyd, sydd yn colli'r bencampwriaeth ag anaf.

Ac wedi Benjamin Huggel gael ei wahardd am chwe gêm gan Fifa am ei ran yn y ffraeo ar ddiwedd eu gêm ail gyfle yn Nhwrci, a chyda'u prif sgoriwr, Alex Frei, yn cael llawdriniaeth yn ddiweddar, nid yw eu paratoadau wedi bod ymysg y gorau.

Hanes yng Nghwpan y Byd:
Mae'r Swistir wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ar dri achlysur - 1934, 1938 a 1954 - ond maent wedi methu â chyrraedd y rowndiau terfynol ers 1994.

Sêr y tîm:
Bydd yn hanfodol bwysig bod Alex Frei, yn holliach ar gyfer y bencampwriaeth os yw'r Swistir am danio. Cafodd ymosodwr Rennes, sydd wedi rhwydo 23 gôl ryngwladol, lawdriniaeth ar ei goes ym mis Mawrth.

Barn Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd:
Mae'r Swistir yn ffodus eu bod mewn grŵp cymharol hawdd, ac er bod trechu De Corea a Togo yn debygol o sicrhau eu lle yn yr ail rownd, bydd camu ymhellach yn fwy o broblem.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý