Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Togo ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp G: v De Corea 13 Mehefin 1400 BST,ÌýFrankfurt
v Y Swistir 19 Mehefin 1400 BST, Dortmund
v Ffrainc 23 Mehefin 2000 BST, Cologne
Mae'n deg dweud mai Togo yw un o'r gwledydd gwanaf erioed i gyrraedd Cwpan y Byd.
Er iddynt lwyddo i drechu Senegal a Zambia wrth gyrraedd Yr Almaen, roedd diffyg cryfder eu carfan yn amlwg ym Mhencampwriaeth Gwledydd Affrica yn gynharach yn y flwyddyn wrth iddynt golli eu tair gêm yn y rownd gyntaf.
Hanes yng Nghwpan y Byd:
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Togo yng Nghwpan y Byd
Sêr y tîm:
Yr unig chwaraewr byd enwog yn nhîm Togo yw tmosodwr Arsenal, Emmanuel Adebayor. Ymunodd Adebayor â Monaco pan yn 15 mlwydd oed, ac ers cael ei alw i garfan rhyngwladol Togo mae wedi profi ei werth gan rwydo 10 gôl yn ystod y gemau rhagbrofol.
Barn Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd:
Mae'n anodd gweld Togo yn llwyddo i sicrhau un buddugoliaeth yn y gystadleuaeth heb son am gyrraedd yr ail rownd.
|