Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 23 Medi 2010

Thomas allan o Gemau'r Gymanwlad

Mae'r beiciwr Geraint Thomas wedi penderfynu peidio â chystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad oherwydd pryderon ynglŷn â'i iechyd.

Geraint Thomas

Daw'r newyddion ychydig oriau wedi i swyddogion Tîm Cymru yn India er gwaethaf y gofid ynglŷn â safon glendid a diogelwch y cyfleusterau.

Ond yn ôl Thomas, oedd yn un o'r ffefrynnau yn nhîm Cymru i ennill medal aur, mae'r posibilrwydd o gael ei daro gan salwch wrth gystadlu yn Delhi yn ormod o risg i'w gymryd.

Yr afiechyd deng, sy'n cael ei gario gan fosgitos, yw'r prif bryder.

"Roeddwn am fod yna am amser hir yn cystadlu ar y trac ac ar y ffordd ac mae yna siawns uchel o fynd yn sâl," meddai Thomas, sy'n 24 mlwydd oed.

"Mi fydd yna dipyn o bwysau ar ben yr holl rasio a 'dw i ddim yn meddwl bod modd i unrhyw un berfformio i'w lawn botensial mewn amgylchiadau felly."

Roedd Thomas wedi penderfynu peidio â chystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Awstralia er mwyn canolbwyntio ar ei uchelgais o ennill medal aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Ond dywed y gŵr o Gaerdydd bod hi'n bwysicach sicrhau ei fod yn holliach er mwyn hyfforddi yn drylwyr dros y gaeaf er mwyn paratoi yn drylwyr am y tymor nesaf.

"Mi roedd hi'n benderfyniad anodd ei wneud felly mi wnes i drafod y peth gyda swyddogion tîm Prydain - ond fe mhenderfyniad i yw e," ategodd Thomas, ennillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing.

"Roeddwn yn awyddus iawn i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad oherwydd dim ond unwaith bob pedair blynedd mae cyfle i mi gystadlu dros Gymru.

"Ond wrth ddweud hynny, mae yna bethau pwysicach i'w hystyried."

chwaraeon
Hanes y Gemau
Ìý
Medalau Cymru
Ìý


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý