主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 13 Hydref 2010

McGoldrick yn colli allan ar fedal aur

Roedd tor calon i'r bocsiwr ifanc Sean McGoldrick wrth iddo fethu o drwch blewyn i sicrhau medal aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Sean McGoldrick

Gorffennodd rownd derfynol y pwysau bantam rhwng McGoldrick a Manju Wanniarachchi o Sri Lanka yn gyfartal ar bwyntiau, 7-7.

Ond wedi i'r beirniaid ail gyfri'r pwyntiau fe ddyfarnwyd mai'r paffiwr 30 mlwydd oed o Sri Lanka oedd yn haeddu'r aur.

Yr oedd y Cymro 18 oed wedi bod ar y blaen am y rhan fwyaf o'r ornest ond Wanniarachchi oedd yn fuddugol wedi rownd olaf gryf.

Erbyn hynny roedd McGoldrick, aelod ieuengaf t卯m bocsio Cymru yn Delhi a disgybl yn Ysgol Uwchradd Duffryn yng Nghasnewydd, wedi dechrau blino.

"'Dwi'n siomedig ond eto'n hapus fy mod wedi ennill medal arian yng Ngemau'r Gymanwlad," meddai McGoldrick.

"'Dwi wedi curo gwrthwynebwyr gwych a tydi hi ddim 'di bod yn hawdd. Fe wnes i wneud fy ngorau ond doedd hynny ddim yn ddigon.

"Mae 'na lot o bobl yn y cefndir sydd wedi fy helpu i gyflawni hyn."

Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru ennill medal yn yr adran pwysau bantam ers i Howard Winstone hawlio aur yng Ngemau'r Ymerodraeth yng Nghaerdydd ym 1958.

Dyma oedd medal aur cyntaf erioed Sri Lanka yn y bocsio ac aur cyntaf y wlad mewn unrhyw gamp ers 72 mlynedd.

Roedd dau focsiwr arall o Gymru, Jermaine Asare yn y pwysau is-drwm a Keiron Harding yn y pwysau canol, eisoes yn sicr o fedalau efydd.

Ddydd Llun yn y rowndiau gynderfynol collodd Asare yn erbyn Callum Johnson o'r Alban gyda Eamonn O'Kane o Ogledd Iwerddon yn trechu Harding.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Medalau Cymru


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy