主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 08 Hydref 2010

Efydd i Carlin a Davies yn y pwll

Roedd rhagor o lwyddiant i ferched Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad wrth i Jazz Carlin a Georgia Davies gipio medalau efydd yn y pwll.

Jazz Carlin (ar y dde) gyda Rebecca Adlington
Cael a chael oedd hi i Carlin wrth iddi frwydro yn y 10 metr olaf yn y ras 400m dull rhydd i gyrraedd y nod modfeddi o flaen Anne Bochmann o Loegr.

Ac roedd hi'n agosach fyth yn y 50m dull cefn wrth i Davies rannu'r trydydd safle gyda'r ffefryn Emily Seebohm wrth orffen gydag union yr un amser.

Dyma oedd ail lwyddiant Carlin yn y pwll ar 么l i'r ferch 20 oed gipio'r fedal arian yn y ras 200m ddydd Llun, wrth orffen tu 么l i Kylie Palmer ac o flaen Rebecca Adlington.

A'r dair yna hawliodd y medalau dros 400m, ond roedd y drefn yn hollol wahanol.

Adlington ddaeth i'r brig y tro yma, wrth i'r bencampwriaeth Olympaidd greu record newydd yn y Gemau wrth orffen mewn amser o bedwar munud 05.68 eiliad.

Gorffennodd Palmer bron i ddau eiliad yn ddiweddarach, gyda Carlin yn ymestyn i'r eithaf i sicrhau medal arall.

"Roeddwn yn teimlo'n ofnadwy bore 'ma," meddai Carlin wedi'r ras. "Felly mae ennill medal arall yn wych."

Sophie Edington o Awstralia a Gemma Spofforth o Loegr oedd o flaen Davies yn y 50m dull cefn.

Gorffennodd David Roberts yn bedwerydd yn rownd derfynol 100m yr S8 dull rhydd - categori gwahanol i'r hyn y mae'n arfer cystadlu.

Ac fe orffennodd Marco Loughran hefyd yn bedwerydd yn rownd derfynol y 100m dull cefn.

Ond roedd ymdrechion Ieuan Lloyd i gyrraedd rownd derfynol y ras gymysg unigol dros 200m yn aflwyddiannus.

Mae David Davies wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol yn 1500m dull rhydd ar 么l gorffen yn bedwerydd yn ei ragras ddydd Gwener.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Medalau Cymru


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy