Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 14 Hydref 2010

Dyddiadur Delhi

Gareth Rhys Owen yw gohebydd Ö÷²¥´óÐã Cymru yn Delhi ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. Fe fydd ei argraffiadau personol ef o'r Gemau i'w gweld ar y dudalen hon yn ystod y pythefnos nesaf.

Dydd Iau, 14 Hydref 2010

Pythefnos yn ôl, roedd yna nifer yn dweud na ddyle'r Gemau wedi cael eu rhoi i India o gwbl.

Wrth i'r Gemau ddirwyn i ben ma' 'na ganran sylweddol ohonyn nhw sydd dal heb eu darbwyllo.

Yn bersonol, mae'r profiad wedi bod yn un arbennig. Heb os, mae'r amser wedi bod yn un gwallgo' ac ar adegau mae bywyd yma yn teimlo fel taith o amgylch set Pobl y Cwm - o flaen y camera mae pob dim yn slic; yr ochr arall i'r camera ma'r olygfa yn un gwahanol iawn.

Fel Pobl y Cwm a phob stori chwaraeon o safon, mae'r Gemau wedi cael uchafbwyntiau ac ambell i eiliad llai deniadol. Dyma fy medalau i felly am rai o'r digwyddiadau mwyaf cofiadwy:

Medal Usain Bolt am y waw ffactor
a'r stadiwm yn wenfflam.

Medal y tywysog Phillip am ddiplomyddiaeth ryngwladol
Cyfartal rhwng camgymeriad pennaeth y Gemau, Suresh Kalmadi, wnaeth ddiolch i'r Dywysoges Diana am gadw cwmni i'r tywysog Siarl yn y seremoni agoriadol; a chyflwynydd sianel deledu o Seland Newydd wnaeth gam ynganu enw Prif Weinidog Delhi, Sheila Dikshit, yn fwriadol. Colli ei swydd o ei hanes e.

Dynion aur: Robert Weale a Dai GreeneMedal Lyn Davies am berfformiad arbennig gan Gymry
Fe enillodd Cymru ddwy fedal aur diolch i gampa a . Dyna'ch ateb.

Medal John Redwood am berfformiad cerddorol
Cafodd nifer eu synnu pan enillodd Cydonie Mothersill fedal aur yn y ras 200 metr. Roedd hi'n cynrychioli Ynysoedd y Cayman ac yn anffodus doedd yna ddim sôn o anthem y wlad yn y stadiwm. O ganlyniad, cafodd y gerddoriaeth ei chwarae gan yr organydd gwaetha i ni glywed erioed.

Medal John Sergeant am y dawnsiwr gwaetha'
Y Cymro Brett Morse yn dawnsio i'r camera wrth iddo gael ei gyflwyno cyn rownd derfynol y ddisgen. Fel edrych ar ewythr yn ceisio bod yn cŵl.

Medal Dafydd Iwan am wladgarwch
Y cefnogwyr lleol yn stadiwm y Jawaharlal Nerhu. Hyd yn oed petasai Jesse Owens wedi dychwelyd i'r trac athletau fe fyddai'r Indiaid wedi bod yn gwylio'r gŵr lleol yn gorffen yn ola' yn y naid driphlyg.

Medal 'Eric the Eel' am roi o'r galon yn hytrach na rhoi'r ffidil yn y to
Y nofiwr o'r Maldives a nofiodd mewn amser o 1 munud 45 eiliad yn y 100 metr dull pili-pala. Ma'r record byd yn llai na 50 eiliad. A beth am o Bapua Guinea Newydd yn y ras 3,00 metr dros y clwydi? Yn bell ar ei hol hi fe ddefnyddio e blanhigyn i ddringo clwyd ar y lap ola'. Fe orffennodd dau funud tu ôl yr enillydd cyn cael ei ddiarddel.

Medal Gavin Henson am hunan hyder
Ein cyd-weithwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon oedd wrth eu bodda yn brolio am nifer y medalau aur oedd ganddyn nhw.

Becky JamesMedal Aaron Ramsey am wneud i ni deimlo'n hen ac yn ddidalent
, 18 oed, ac yn hawlio dwy fedal yn erbyn gwrthwynebwyr o safon ar y trac beicio. Ond mae James fel mam-gu o gymharu â'r nofwraig o Awstralia Yolane Kukla. Aur iddi hi yn y pwll wythnos ar ôl troi'n bymtheg mlwydd oed.

Medal Crazy Frog am y gan sy'n mynd ar nerfau dyn
Anthem Awstralia. Yn cael ei chwarae llawer rhy aml.

Medal Dudley am fwyta'n iach
Y Saethwr o Gymru David Phelps pan ofynnwyd iddo pe bai'n bwyta cyri neu ddau. Ei ateb: " Na, mi fyddai'n bwyta'r diet arferol o basta, salad a phitsa!"

Medal Erica Rowe am gamu ar y cae heb groeso
Y ci wnaeth grwydro ar y trac athletau yn ystod y cystadlu. Dim syndod gweld mai prin oedd y gwirfoddolwyr i'w dynnu oddi yno.

A dyna ni. Mae Delhi di bod yn waith galed ond dyna ran o'r apêl. A fydd Gemau'r Olympaidd yn dod yma yn y dyfodol agos? Na fydd, yn fwy na thebyg. A fydda i'n dychwelyd? Heb os nac oni bai.

Dydd Llun, 11 Hydref 2010

Hon oedd yr awr fawr i Gymru.

Dai Greene yn ennill aur a Rhys Williams yr efydd yn y 400 metr dros y clwydi.

Dai Greene

Roedd camerâu sianel deledu o Seland Newydd yn canolbwyntio ar wyneb llawn emosiwn oedd yn canu'n falch i Hen Wlad fy Nhadau.

Yn anffodus i filoedd o Giwis, nid Greene oedd yn cael ei ffilmio ond myfi.

Roedden nhw wrth eu boddau yn gweld ni'n canu. Yn ôl pob sôn dyw'r gohebwyr ddim yn fod i ganu.

Sut oedden ni i wybod? Wedi'r cwbl nos Sul oedd y tro cyntaf i ni glywed yr anthem.

Roedd gweddill y camerâu yn gywir i ganolbwyntio ar Greene, wnaeth gyfaddef ei fod e bron a chrio wrth dderbyn ei fedal.

Mae 'na nifer sydd wedi beirniadu'r gemau am faint y torfeydd. Roedd yna bron i 60,000 yn gwylio Greene a Williams.

Roedd yna awyrgylch arbennig yn y stadiwm yn enwedig pan yr oedd athletwr o India yn cystadlu. Yn anffodus prin iawn oedd dealltwriaeth nifer o'r campau.

Roedd yna floedd anferthol wrth i Tintu Luka groeso'r llinell derfyn gyntaf wedi un lap o'i ras rhagbrofol. Yn anffodus roedd hi'n rhedeg yn y 800m ac fe ddechreuodd hi'r ail gyda'r dorf wedi eu drysu'n llwyr

Mae teithio ar draws y ddinas yn boen. Roedd pethau'n waeth fyth ar ddydd Sul gan fod rhan helaeth o Delhi ar gau ar gyfer y ras feicio.

Yn anffodus roedd y ddarpariaeth ddiogelwch llym a'r diffyg diddordeb yn y gamp yn golygu bod y strydoedd bron yn debycach i set ffilm Mad Max.

Fe basiodd Nicole Cooke, nath orffen yn bumed, fwy o fwncïod a chŵn na phobl.

Wrth i mi ysgrifennu, mae Cymru yn bymthegfed yn nhabl y medalau. Mae'n fwy o hwyl edrych ar y tabl sy'n cyfri'r nifer o fedalau am bob person sy'n byw mewn gwlad. Mae Cymru yn ddegfed yn yr un yna.

Er hynny mae Seland Newydd, Awstralia a'r ynys fechan Nauru ymhlith y gwledydd sy'n bell o flaen Cymru. Mae 14,000 yn byw yn Nauru sydd hefyd wedi ennill aur diolch i Peter Yukio yn y codi pwysau,

I basio Nauru, mae angen o leiaf 200 medal arall.

Beth am gynghrair sy'n cyfri'r nifer o fedalau am bob siaradwr Cymraeg sy'n byw yn y wlad?

Dydd Iau, 07 Hydref 2010

Mae bywyd yn boen i rywun trwsgl fel fi.

I ddechrau mae dyn yn anafu ei hun... yn aml! Yn ail, mae ffrindiau a theulu wastad yn cymryd hi'n ganiataol mae fy mai i yw unrhyw ddamwain.

Doedd hi ddim syndod felly clywed yr esboniad yna pan gwympais yn y pwll nofio yn Delhi gan frifo fy mhen-glin.

Ond am unwaith nid fy mai i oedd e!

Mae'r cyfleusterau yn y pwll yn beryg bywyd. Stepiau sydd yn rhy fach i draed moch heb sôn am fy sgidiau maint 11. A llawr marmon sy'n cael ei sgleinio pob hanner awr.

Mae'r ffaith bod y lloriau'n cael eu glanhau mor aml yn adlewyrchu'r ymdrech gan y trefnwyr i greu argraff arnom ni'r tramorwyr.

Yr hyn hoffant nhw i ni gofio yw'r India o'r seremoni agoriadol. Hyderus, pwerus ac yn llawn sglein.

Nid y wlad sydd â rhyw 700 miliwn yn byw mewn tlodi

Roeddem ni yma am wythnos cyn gweld cardotyn am y tro cynta'. Eiliadau'n ddiweddarach fe gawsom ni'n hebrwng i ffwrdd. Dyma'r ochr o Delhi nad yw'r awdurdodau eisiau i ni weld.Seddi gwag yn Delhi yn ystod gêm bêl-rwyd

Tridiau'n ddiweddarach ac mae'r cyfryngau yma yn parhau i ganolbwyntio ar lwyddiant y seremoni; ac yn anwybyddu'r ffaith mai prin iawn yw'r niferoedd sydd yn gwylio'r gemau.

Roedd yna fwy o newyddiadurwyr yn gwylio'r Gymraes ifanc Becky James yn ennill efydd yn y trac seiclo nag o gefnogwyr.

Fe ofynnes i gydweithiwr o India am esboniad o'r diffyg diddordeb honedig yma. Y cyfan wnaeth e oedd pwyntio bys at y seddi gwag yn y gêm griced rhwng India ag Awstralia ar y teledu.

Os nad yw India yn gallu llenwi stadiwm griced, pa obaith am gampau megis seiclo ble mae prin yw eu gobeithion o lwyddiant?

Mae yna docynnau ar gael yma am gyn lleied â £1.50. Ond mae hynny yn ormod i ran helaeth o'r boblogaeth.

Yr ateb symlaf fydd i ganiatáu mynediad am ddim. Ond y peryg yw y gwelwn ni rhagor o'r "ochr arall" o India.

Dydd Mercher roedd yna 'na Gymry yn ceisio am fedalau ar draws Delhi. Ond roeddwn i yn garcharor yn 'stafell wely y gwesty gan fy mod i'n diodde' o'r 'Delhi Belly'.

Nes i awgrymu wrth ffrind cyn gadael y base salwch yn ffordd dda o golli pwysau. Am gamgymeriad. Mae'r peder awr ar hugain ddiweddaf wedi bod yn ofnadwy.

Ond nid fi yw'r unig un i fod yn sâl. Mae'r mwyafrif o'r nofwyr yn cwyno bod nhw di bod yn dioddef o ryw fath o broblemau. Problem a waethygwyd gan y ffaith bod y toiledau'r nofwyr wedi torri yn y ganolfan.

Roedd Tom Haffield yn feirniadol iawn o'r sefyllfa. Wrth sgwrsio 'da Adrian Moorehouse, wnaeth ennill aur yn Seol yn 1988, wnaeth e ddweud na fase fe eisiau cystadlu o dan amodau o'r fath.

Anaf i fy mhen-glin a salwch yn nyddiau cynta'r gemau. Ond dwi'n addo - nid fi oedd ar fai.

Dydd Sadwrn, 02 Hydref 2010

Beth yw gwerth balŵn?

Fy ddychwelodd fy ewythr o'i wyliau i barc Disney ym Mharis rhai blynyddoedd yn ôl yn cwyno'i fod e wedi talu bron i ddeg punt am Mickey Mouse llawn heliwm.

Mae'n siŵr y bydd e'n agos i gael harten 'da'r newyddion bod trefnwyr Gemau'r Gymanwlad wedi gwario 500 miliwn Rupee (7 miliwn o bunnau) ar...ie...balŵn!

Nid balŵn cyffredin mohonoOnd nid balŵn cyffredin mohono. Dyma fydd canolbwynt y seremoni agoriadol fydd yn cael ei chynnal nos Sul.

Mae gan y trefnwyr broblem - ceisio cystadlu gyda'r seremonïau anhygoel a welwyd yng Ngemau Olympaidd Bejing dwy flynedd yn ôl. Ond ma' nhw am wneud eu gorau glas.

Fe gyhoeddodd tîm Cymru yr unigolyn fydd yn cario'r ddraig goch yn y seremoni yn y pwll nofio yn gynnar fore Sadwrn. Y tro cynta' i mi fod mewn canolfan nofio oedd yn llai cynnes y tu fewn i'r adeilad na thu allan.

Ond prin iawn oedd yr awydd ymhlith nofwyr Cymru i wrando arna'i yn cwyno am y tymheredd 35 gradd Celsius. Ma' Delhi yn gyfforddus, medde nhw, i gymharu â'r tywydd crasboeth yn Doha, Qatar, lle buon nhw'n ymarfer cyn cyrraedd India.

Roedd y Cymry yn edrych yn iach, gyda'r pryder am afiechyd ymysg y tîm yn hen atgof. Ac roedd 'na wynebau hapus wrth i ni gael gwybod mai'r gŵr enillodd fedal arian yn Bejing, David Davies, fydd yn cario banner Cymru nos Sul.

Y tro cynta' i Davies greu argraff oedd yng ngemau Manceinion yn 2002. Pedair blynedd yn ddiweddarach, fe hawliodd aur yn Melbourne.

Mae Davies yn cydnabod mai'r seremoni wobrwyo honno oedd un o'r eiliadau gorau yn ei fywyd. Ac mae e'n cyfaddef iddo fod yn agos at grio wrth glywed Hen Wlad Fy Nhadau.

A dyna yn ei hanfod yw gwerth y gemau i ni'r Cymry - balchder cenedlaethol yn ogystal â llwyddiant unigol.

Un o'r Cymry balchaf yma yn Delhi yw'r athletwr Rhys Williams. Mae e'n cyfaddef elfen o eiddigedd tuag at ei dad, JJ, wnaeth chwarae rygbi i'w wlad.

Fe glywodd JJ Williams yr anthem genedlaethol ar 55 achlysur gwahanol. Fydd ei fab mond yn cael yr un profiad os yw'n ennill aur.

Cafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chwarae ar dri achlysur gwahanol yn Melbourne. Dyna'r llinyn mesur i'r tîm yn Delhi

Dydd Iau, 30 Medi 2010

Dyma chi sioc.

Mae pethau yn Delhi yn gweithio. Os ychydig yn araf.

Fe lanio ni yn y maes awyr yn disgwyl y gwaethaf. Ond mae'n braf cael dweud i ni gael ein siomi ar yr ochr orau.

Er hyn dyw popeth ddim yn berffaith.

Y broblem fwyaf yw cyrraedd llefydd - yn enwedig os oes angen bod yna'n gyflym.
Fel yn y mwyafrif o wledydd yn Asia mae'r traffig yn echrydus. Anghofiwch y boen o eistedd yn llonydd ar Bont Britannia neu yn nhwnneli Bryn Glas. Delhi yw'r lle i fod os am gynyddu'r pwysau gwaed yng nghefn tacsi.

Dim ond dau gyflymder sydd i'w weld ar yr heolydd - llonydd a gwyllt.

Aelodau tîm Cymru yn cyrraedd Delhi

Ond nid y broses o deithio'n unig sydd yn effeithio ar y gallu i symud o un lleoliad i un arall. Mae'r ddarpariaeth diogelwch yma yn hynod o lym.

Dychmygwch y system ddiogelwch sydd yn cael ei ddefnyddio yn ein meysydd awyr ym mhob un o'r lleoliadau cystadlu a'r gwestai.

Fe all y daith i'r siop leol gymryd awr. Rhaid neilltuo diwrnod cyfan os am deithio i ben arall y ddinas. 'Smygwyr, anghofiwch seibiant o bum munud am sigarét.

Mae'r ddarpariaeth ddiogelwch ym mhentref yr athletwyr yn llymach fyth nac yng ngweddill y lleoliadau. Bu bron i ni fethu'r seremoni i groesawu tîm Cymru o ganlyniad i'r faith bod y milwyr lleol yn amau bygythiad pecyn o fatris yn fy mag.

Rhaid i mi gyfaddef i mi gael fy siomi yn rhinwedd fy swydd fel newyddiadurwr i glywed tîm Cymru yn unfrydol wrth roi clod i safon y llety.

Anghofiwch ddillad gwely budr a thoiledau afiach roedd y Cymry yn cyfeirio at deledu Plasma a system awyru o'r radd flaena.'

Mae'r tîm rheoli yn cyfaddef yr hoffe nhw fod wedi treulio llai o amser dros y pythefnos diwethaf yn trwsio problemau'r adeiladau.

Y cwestiwn mawr oedd a fydde nhw'n bwyta'r cynnyrch lleol. Ma' atebion yn dibynnu ar y gamp.

Fydd y tîm reslo yn aros tan ar ôl cystadlu. Ond ma'r timau saethu a saethyddiaeth yn hapus i fwyta cyri neu ddau.

Fe enillodd David Phelps aur yn y saethu pedair blynedd yn ôl. Mae e'n cyfadde nad yw cael stumog ansefydlog yn helpu wrth gadw'i lygad ar y targed.

A ma'r bwyd sydd ar gael yn y pentref yn golygu ei fod e'n gallu cadw at ei ddiet arferol o Basta, Salad a Pitsa.

Ond o ran yr athletwyr, yn anffodus iddyn nhw, prin iawn yw'r esgusodion bellach.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Ìý
Medalau Cymru
Ìý


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý