主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleoedd
Hayley Thomas Hill yn edmygu'r cerflun newydd Abaty Tyndyrn
Cerflun newydd o Fair a'i Phlentyn
Mae cerflun o Fair a'r Baban Iesu yn Abaty Tyndyrn unwaith eto - yr Abaty sydd wedi cadw orau o holl abatai canoloesol Cymru.

Gosodwyd y cerflun newydd yn eglwys yr abaty fis Chwefror 2008.

Fe'i cerfiwyd gan Philip Chatfield a gomisiynwyd gan Gristnogion lleol, The Friends of our Lady of Tintern a ffurfiwyd i arolygu y gwaith y dechreuwyd arno yn Awst 2006.

Mair a'i PhlentynDim ond gweddillion
Gwnaed y cerflun o dywodfaen Fforest y Ddena ac mae'n ail gread o gerflun o'r drydedd ganrif ar ddeg nad oes ond ei weddillion ar 么l yn yr Abaty sydd erbyn heddiw dan ofal CADW.

Meddai Hayley Thomas Hill, ceidwad yr Abaty am y cerflun:

"Rydym ni gyd wrth ein boddau i weld cwblhad y prosiect.

"Mae'r cerflun yn arwyddocaol achos mae pob abaty Sisteraidd wedi ei gysegru i Fair a'i Phlentyn felly mae hwn yn gerflun gwerthfawr sy'n dal yma."

Sefydlwyd Abaty Tyndyrn gan fyneich Sisteraidd yn 1131 ac mae'n nodedig am ei bensaern茂aeth goeth a godidog. Fe'i hailadeiladwyd yn helaeth ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg gan Roger Bigod, arglwydd Castell Cas-gwent sydd gerllaw.

Ynmweliad Wordsworth
Ymhlith yr enwogion y gwnaeth yr olion mawreddog argraff arnyn nhw yr oedd y bardd Saesneg William Wordsworth a ymwelodd 芒'r abaty gyda'i chwarae, Dorothy, yng Ngorffennaf 1798.

O Fryste, lle'r oedden nhw yn aros gyda chyfeillion, y teithiodd y ddau yno gan groesi Afon Hafren ar y fferi a cherdded wedyn i fyny Dyffryn Wysg gan dreulio dwy noson yn Nhyndyrn ond gan gerdded yn 么l i Gas-gwent rhwng y ddwy noson!

Dychwelodd y ddau wedyn i Fryste.

Yn dilyn yr ymweliad hwnnw y cyfansoddodd ei gerdd adnabyddus y bu cenedlaethau o blant ysgol yn ei hastudio, Lines Composed a Few Miles Above Tintern Abbey.

Pan ymwelodd y dyddiadurwr Francis Kilvert a'r Abasy dywedodd ei fod bron a bod yn "rhy berffaith" i fod yn ddarlun hyd yn oed!


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy