主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
主播大秀 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwenynen Gwent  (o wefan y Gymdeithas) Dathlu prysurdeb Gwenynen Gwent

Cymdeithas newydd yn tynnu sylw at weithgarwch Arglwyddes Llanofer

Hydref 2003

Mae cymdeithas wedi ei sefydlu i goffau un o Gymry hynotaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg - Arglwyddes Llanofer.

Dawnswyr gwerin mewn digwyddiad yn Llanofer i sefydlu Cymdeithas Gwenynen GwentEr o dras Seisnig a'i gwreiddiau yn Swydd Nottingham, fe'i ganwyd yn ferch i ddyn busnes ariannog yn Nhy Uchaf, Llanofer ger Y Fenni a dysgodd Gymraeg a gwneud popeth nid yn unig i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ond y wisg Gymreig draddodiadol. Yr oedd hefyd yn selog dros ddawnsio gwerin Cymreig.

Pan oedd hi'n Arglwyddes Llanofer gorchmynnodd weision a morynion yr ystad i wisgo dillad traddodiadol o frethyn Cymreig.

Byddai'r Arglwyddes hithau yn gwisgo'r wisg hon hefyd a'r hetiau uchel hynny a gysylltir 芒'r cyfnod hwnnw.

Fe'i hysyriwyd yn wladgarol gan rai ond yn esentrig gan eraill - ond nid oedd neb na fyddai'n cydnabod maint ei brwdfrydedd heintus.

Ennill gwobr
Nid yn unig byddai'r Arglwyddes yn cynnal gweithgareddau diwylliannol Cymreig ar ei hystad ond byddai'n cystadlu ei hun mewn eisteddfodau.

Ar 么l ennill gwobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd mabwysiadodd yr enw Gwenynen Gwent ac ni fu i neb erioed ddadlau 芒'r disgrifiad hwnnw ohoni gan ei fod yn adlewyrchu'n llwyr ei phrysurdeb dihafal ynglyn 芒'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.

Nid yw'r gymdeithas newydd, Cymdeithas Gwenynen Gwent, mewn bodolaeth ond ers dechrau'r flwyddyn wedi ei sefydlu gan athrawes wedi ymddeol a anwyd ym Mhenygraig, Rhondda, Helen Forder, i gydfynd a deucanmlwyddiant geni'r Arglwyddes ym 1802.

Gwobr Mamgu
Meddai Helen sy'n awr yn byw yng Nghaerdydd: "Fe ddechreuodd fy ymchwiliadau rhyw chwe blynedd yn 么l wrth imi geisio canfod ym mha Eisteddfod y bu fy nain yn fuddugol ar ganu'r delyn deires ym 1886.

"Yr oedd yr wyrion i gyd yn gwybod fod Mamgu yn un o delynorion Llanofer a dyna'r cyfan ond ar 么l cael yr wybodaeth o Swyddfa Archifau Gwent mi gydiodd yr holl beth ynof ac mi ddechreuais i ffoli ar weithgarwch Arglwyddes Llanofer ei hun.

"Pan sylweddolais i ein bod ar drothwy dau canmlwyddiant ei geni mi ddechreuais i annog pobol 'i wneud rhywbeth' ac fe fu yna gymaint o ddiddordeb mewn arddangosfa a darlithoedd yn Y Fenni fe deimlais i y byddai'n syniad da sefydlu cymdeithas i ddod 芒 rhai 芒 ymddiddorai yn Arglwyddes Llanofer ar ei gilydd ."

Elizabeth Murray yn siarad mewn digwyddiad i lansio'r Gymdeithas fis Hydref 2003Dywedodd mai'r cam nesaf oedd gofyn i or, gor, gor wyres yr Arglwyddes, Mrs Elizabeth Murray, i fod yn llywydd.

Bu'r cyfarfod cyntaf yn Nhy Uchaf, Llanofer, gyda'r delynores, Ann Griffiths, yn gadeirydd, Elonwy Wright yn drysorydd a Helen yn ysgrifennydd.

Gweddill y pwyllgor ydi. Ross Murray, Brian Forder, Rachael Rogers, curadur Amgueddfa'r Fenni, Luned Davies a Frances Younson, o Archifdy Gwent, Robin Davies, golygydd, Newyddion Gwent a chynrychiolwyr Cymdeithas Carnhuanawc.

O Aberystwyth i Lanofer
Yn gynnar yn yr 1880au yr oedd hen daid Helen, wedi symud o Aberystwyth gyda'i deullu i weithio ar yr ystad a dyna fan cychwyn ei diddordeb hi yn yr ystad mewn gwirionedd.

Yr oedd Augusta Waddington Hall yn briod 芒 Benjamin Hall yr enwyd cloch Big Ben ar ei 么l yng nghloc y senedd gan mai efo oedd y Minister of Works a'i comisiynodd.

Yng Nghymru bu'n ymgyrchydd blaellaw dros hawl y werin Gymraeg i gael gwasanaethau crefyddol yn ei hiaith ei hun ac ef oedd y diwydiannwr cyntaf i ddatgysylltu 芒'r eglwys sefydledig.

Pan yn aelod seneddol dros Sir Fynwy bu'n gyfrifol am ddwyn y Ddeddf Trwco gerbron y senedd yn 1831 mewn ymgais i ddileu y system drwco a oedd wrth wraidd Gwrthryfel Merthyr.

I'w feddiant ef 芒'i wraig y daeth Llawysgrifau Llanofer a luniwyd yn bennaf gan Iolo Morganwg ac yn cynnwys llawer o'i bapurau. Maen nhw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Annog mamau
Ym 1834 enillodd Gwenynen Gwent ddeg gini yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd am draethawd yn trafod manteision diogelu'r iaith Gymraeg a'r wisg Gymreig.

Dawnswyr mewn digwyddiad i lansio Cymdeithas Gwenynen Gwent fis HydrefYn Y Gymraes, bum mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd yn annog mamau Cymru i siarad Cymraeg a'u plant gan ddweud mai oddi wrth eu mamau yn hytrach na'u tadau y mae plant yn dysgu'r iaith

Yr oedd yn wraig egniol a phenderfynol a fyddai'n mynnu ei ffordd ei hun yn hyrwyddo'r idiwylliant a garai gymaint

Gwenynen Gwent (yn Saesneg)

Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy