主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
主播大秀 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathlu yn y Bae Steddfod y Bae

Carwn innau
ddweud diolch!

Sylwadau wythnosol Aled Edwards

Mehefin 4, 2005

Aled Edwards, awdur yr erthygl hon
Eisteddfod Dda
Cefais fwynhad mawr yr wythnos hon yn crwydro o stondin i stondin ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Peth braf oedd cael gweld ambell wyneb cyfarwydd o sawl man yng Nghymru yn teithio i Fae Caerdydd.

Ceir lle i longyfarch pawb a fu'n gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod arbennig hon.
Carwn innau ddweud diolch.

Cadernid y Gymraeg
Yn fwy na dim, daeth y llif pobl a llawer mwy o Gymraeg i'r brifddinas.

Rhyddhad hefyd oedd cael gweld y Gymraeg yn meddiannu Canolfan y Mileniwm o'r diwedd. Nid wyf am swnio'n feirniadol, ond prin fu'r cerdd dant yng nghanolfan diwylliannol y Cymry hyd yma.

Tybed, beth oedd y grymoedd diwylliannol yn ei feddwl wrth weld y theatr yn llawn trwy'r dydd dros gyfnod o wythnos gyfan ac yn dwyn talent yn gyson i'r llwyfan?

Yn hyn o beth, y mae'n rhaid llongyfarch yr Urdd yn gynnes. Dangoswyd cadernid y Gymraeg i sawl un.

Cymry'r cwyno
Ers yn blentyn, bum dan yr argraff bod eisteddfota a chwyno yn gyfystyr.

O gael fy llusgo o le i le ar gyfer sawl 'prilim' i wrando ar fy chwaer yn canu ac yn adrodd cefais y cyfle i feithrin y grefft o gwyno.

Gorfod eistedd trwy'r hyn a oedd yn teimlo fel miloedd o chwiorydd yn perfformio barodd i mi gwyno.
Addewais na fyddwn byth yn cystadlu.

Cefais fy hun yn cwyno ar fore cyntaf yr Eisteddfod gan nad oedd y trenau yn rhedeg o Orsaf Heol y Frenhines ar Wyl y Banc.

O grwydro ymhellach i orsaf canol Caerdydd, siom oedd deall nad oedd bws ar gael cyn deg o'r gloch.

Cefais gyfle i gwyno wrth neidio i'r tacsi. Efallai bod y cwyno yn fath o ddefod cyn eisteddfodol.

Cerddi dadleuol
Cafwyd trafodaeth bellach yn ystod yr wythnos ynghylch addasrwydd ambell gerdd yng nghyswllt dinas aml ddiwylliant fel Caerdydd lle y mae mwyafrif y plant a ddaw i'r ysgolion Cymraeg yn deillio o gartrefi di-Gymraeg.

Dwi'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd ambell un am ddehongli'r cerddi mewn ffordd amlwg Gymreig sy'n cyfleu gwirioneddau am ein hanes a'n profiad a'n parodrwydd i barchu'r gwahanol.

Ceir lle i sensitifrwydd ynghylch cyswllt hefyd. Gobeithiaf yn fawr y bydd modd dysgu o drafodaethau o'r fath.

Yr hyn sy'n dda yw ein bod yn cael trafodaeth o'r fath. Y mae'r Gymraeg yn ymestyn ei thiriogaeth.

O'n ty ni daeth cwyn gryno ac arbennig iawn.
Nid yw eisteddfod yn eisteddfod heb fwd. Mae'n debyg y gellir beio'r trefnwyr am ofalu nad oeddem yn troedio drwy'r mwd.

Sesiwn y Cynulliad
Da oedd gweld siambr y Cynulliad yn llawn ar gyfer y sesiwn holi ddiwedd yr wythnos. Yn anffodus, nid oedd modd i gynrychiolydd y Blaid Lafur fod yno oherwydd gwaeledd.
Roedd hynny'n biti.

Erbyn hyn, wrth wrando ar aelodau'r Cynulliad wrthi, byddaf yn teimlo rhwystredigaeth.

Rhoddwyd ambell ateb da i gwestiynau da, ond aeth ambell beth ar goll yn fy nhyb i.

Hyn, mae'n debyg, yw baich dyn sydd wedi troi diddordeb yn obsesiwn.

Er gwaethaf fy amheuon, gwelodd mwyafrif llethol y cynrychiolwyr ifanc werth yn y drafodaeth a gafwyd. Yn 么l ei arfer, fe wnaeth Llywydd y Cynulliad ei waith yn dda.

Gwerth y cyfan
Cefais gyfle ganol yr wythnos i grwydro'r maes gyda newydd-ddyfodiad o Loegr sy'n awyddus i gartrefu yn ein plith.

gwobr SteddfodolCredaf y daw fy nghyfaill i ddeall a gwybod rhywbeth amdanom ni'r Cymry ac i'n gwerthfawrogi.

Ar hyn o bryd ni all ond rhyfeddu bod 'foreign language' mor rymus i'w chlywed yn y tir. Nid oedd yn disgwyl hyn.

Diolch i Eisteddfod yr Urdd am gynnal a hyrwyddo rhyfeddod yr hen 'foreign language' yma ymysg yr ifanc.

Yr wythnos hon, llwyddwyd i wneud hyn yn y modd mwyaf 'ffantastig'.

O Faes y Steddfod
.
I ddarllen Sgyrsiau Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf



Ebostiwch ymateb




Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy