主播大秀

Patagonia

Matthew Rhys

24 Ionawr 2011

15Pedair seren allan o bump

  • Y S锚r: Matthew Rhys, Nia Roberts, Matthew Gravelle, Marta Lubos, Nahaul Perez Biscayart , Rhys Parry-Jones a Duffy .
  • Cyfarwyddo: Marc Evans.
  • Sgrifennu: Marc Evans a Laurence Coriat.
  • Hyd: 118 munud

Dilyn dwy daith

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Anaml iawn y bydda i'n mynychu sinema orlawn ond pan gyrhaeddais i dderbynfa Theatr Mwldan, Aberteifi, ar ganol eu G诺yl Ffilm flynyddol, roedd hi'n anodd symud diolch i'r niferoedd oedd yno'n llawn cyffro ar gyfer y dangosiad cynta yng Nghymru o Patagonia gan Marc Evans.

Y tro diwethaf imi fynychu'r 诺yl ffilm hynod ddifyr hon oedd ar noson lawog tu hwnt, union ddwy flynedd yn 么l i weld cynhyrchiad diwetha'r cyfarwyddwr o Gaerdydd, In Prison My Whole Life - dogfen wahanol o fywyd un dyn ar Death Row yn yr Unol Daleithiau.

Serch yr elfennau, roedd honno'n sicr yn siwrne werth chweil ond o gofio i mi ganmol Separado! gan Gruff Rhys a Dyl Goch i'r entrychion y llynedd, rhaid cyfadde imi betruso braidd cyn eistedd i wylio ffilm arall am road-trip yn Y Wladfa.

Hyfryd a hawdd

Dwi'n falch iawn dweud nad oedd angen poeni mewn gwirionedd gan fod Patagonia yn ffilm fach hyfryd, hawdd iawn i'w gwylio, sy'n cynnig perfformiadau cryfion, golygfeydd ysblennydd a stori ddifyr sy'n reit ddirdynnol mewn mannau, gyda thrac sain ardderchog.

Gwell sefydlu yn y lle cynta mai dilyn dwy daith mewn dwy iaith y gwnawn yn Patagonia - un yn y Wladfa, yng nghwmni Gwen a Rhys o Gymru - a'r llall yma yng Nghymru, trwy gyfrwng y Sbaeneg, gyda'r Archentwyr Cerys ac Alejandro.

Y mae'r ddwy stori gyfochrog , er yn gwbl annibynnol, yn rhannu them芒u reit debyg sy'n adleisio'i gilydd.

I Gymru

Cerys yw'r cymeriad 芒 gyfarfyddwn gynta; dynes oedrannus sy'n byw yn Mhatagonia ac sy'n deffro o freuddwyd wedi'i gosod yn "Gales".

Mae a'i bryd ar deithio i Gymru am y tro cyntaf - i fferm ei mam, Nant y Briallu - ond oherwydd anfodlonrwydd ei theulu, rhaid cyflawni hyn yn gyfrinachol - dan gochl llawdriniaeth yn Buenos Aires - yng nghwmni cymydog o'r enw Alejandro - dyn ifanc sy'n gaeth i'w lyfrau gwyddonias, sydd ag ofn ei fam ac ofn byw.

Newyddion drwg

Yna, dilynwn stori Gwen - actores mewn amgueddfa werin sy'n derbyn newyddion drwg gan yr ysbyty a hynny'n ei sbarduno i ymuno 芒 thaith ffotograffiaeth ei chymar, Rhys, sy'n bwriadu cofnodi cyfres o gapeli'r Paith.

Y mae'r ddau'n gwirioni ar noson gyntaf yn Buenos Aires ond o gyrraedd eu cyrchfan yng nghwmni'u gyrrwr Mateo (Matthew Rhys), buan iawn y deuant i ddeall bod tensiynau'n llechu dan wyneb eu perthynas.

Heb ddatgelu rhagor am y stori, digon yw dweud y caiff y pedwar prif gymeriad siwrne fythgofiadwy am resymau cwbl wahanol a bod y ffilm o hynny mlaen yn cyfuno rhamant, trachwant, rhyw a thor calon, yn ogystal ag antur annisgwyl, a cameo llwyddiannus gan y gantores Duffy- yma'n siarad cyfuniad o Gymraeg a Sbaeneg.

Heb ramantu

Yn wahanol i nifer o gynyrchiadau diweddar am Batagonia, dydy'r ffilm hon ddim yn rhamantu'r Wladfa - na Chymru - o gwbl. Yn wir, serch gwaith camera godidog Robbie Ryan a'r golygfeydd hudolus (diolch i dywydd bendigedig yn y ddau le), rhan eilradd sydd i'r lleoliadau yn y stori dan sylw ac mae'r cymeriadau sy'n gaeth i'r gorffennol yn darganfod yn fuan mai hawdd iawn yw hiraethu pan fo realiti'n brathu.

Yn wir, dyma'r ffilm gyntaf o'i bath sy'n hepgor golygfa mewn T欧 Te - a rhaid canmol y criw am hynny!

Gwendidau?

Oes yna wendidau? Dim llawer. Ar ddechrau'r ffilm, rhaid cyfadde bod y ddeialog rhwng Gwen a Rhys ychydig yn glogyrnaidd ac yn fy atgoffa mai dau actor cyfarwydd sydd yma'n adrodd eu llinellau ond erbyn iddynt gyrraedd yr Ariannin y mae'r ddau'n argyhoeddi'n llwyr fel cwpwl mewn creisis, gyda Nia Roberts yn arbennig o naturiol a Matthew Gravelle yn parhau i sefydlu'i hun fel un o actorion gwrywaidd mwyaf diddorol Cymru.

Mae diweddglo un stori yn un andros o "ddewr" fel y cyfaddefodd y cyfarwyddwr ei hun, ac yn ymylu ar yr anghredadwy ond sy'n gweithio yng nghysawd y cynhyrchiad hwn.

Mae'r llall, er yn amwys, yn gwbl addas i stori am daith sy'n dal i barhau.

Cerddoriaeth

Yn ogystal 芒 chynnwys cerddoriaeth ragorol gan y cyfansoddwr o Detroit, Joseph LoDuca, y mae'r ffilm yn gyforiog o gyffyrddiadau gweledol go ddigri a'r berthynas hyfryd rwng Cerys ac Alejandro yn adleisio elfennau o'r clasur cwyrci Harold and Maude.

Yn wir, rhaid canmol y ddau actor o'r Ariannin - Marta Lubos a Nahaul Perez Biscayart - am eu perfformiadau disglair trwy gydol eu siwrne swreal trwy Gymru.

Ond beth am "Mateo" Rhys, y top-dog sy'n cael top-billing? Mae'n si诺r i chi ddeall bellach fod yr Hollywood hottie yn chwarae rhan gynorthwyol y tro hwn ac nid drwg o beth fo hynny gan iddo yntau hefyd gynnig perfformiad hyfryd o naturiol fel Gaucho Cymraeg synhwyrus sydd 芒'i draed ar y ddaear, a hynny mewn acen gredadwy sy'n datguddio'i wreiddiau teuluol.

Sy'n fy arwain i holi; pa bryd y cawn ni ei weld mewn antur amaethyddol wedi'i gosod yn Sir Drefaldwyn? Mwy yn y Gymraeg pl卯s Matthew!

C么r meibion

A s么n am Gauchos Cymraeg synhwyrus, i'r rheiny ohonoch wnaeth fopio'n l芒n ar leisiau'r ddeuawd hynod ddymunol Alejandro a Leonardo Jones - "yr Everly Brothers Cymreig", ym marn Gruff Rhys yn Separado! - rwy'n hapus i gyhoeddi bod un ohonynt, Alejandro, yn cyfrannu i leisiau c么r meibion o'r Wladfa yn un o olygfeydd mwyaf tyner y ffilm.

I mi gael dirwyn i ben ar nodyn cwbl ffuantus, mae hefyd yn werth gweld Patagonia er mwyn profi cwpwrdd dillad anhygoel jobbing-actress o'r enw Gwen Jones.

Ffoli ar ffasiwn

Fel merch sydd yn ffoli ar ffasiwn yn ogystal 芒 ffilm roedd cael gwylio'r brif actores dlos hon mewn cyfres o siacedi denim, b诺ts cowboi a ffrogiau hardd - gan gynnwys dillad y cwmni Howies o Sir Aberteifi a'r bartneriaeth Gymreig a Siapaneaidd Eley Kishimoto - yn nefoedd ar y ddaear, ac yn ddihangfa bur ar bnawn Sadwrn o Ionawr. Bravo!

Yn sicr, gwyliwch am y ffilm hynod a hyfryd hon pan gaiff ei rhyddhau'n genedlaethol ar Fawrth 4 achos o'r gymeradwyaeth wresog 芒 dderbyniodd gan gynulleidfa Thetar Mwldan, synnwn i ddim na chaiff daith lwyddiannus iawn ledled Cymru a thu hwnt.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.