主播大秀

Michael Sheen

Michael Sheen

29 Tachwedd 2010

Fampir, blaidd, cyflwynydd teledu, prif weinidog a rheolwr p锚l-droed - ellyllod oll ond ar hyd ei yrfa ffilm llwyddodd Michael Sheen i ddarganfod daioni ym mhob un o'r cymeriadau hyn. Lowri Haf Cooke sy'n dilyn ei yrfa lwyddiannus.

Ym mis Ebrill 2011, bydd Michael Sheen yn wynebu her fwyaf ei yrfa wrth ddychwelyd i'r theatr i chwarae fersiwn fodern o Iesu Grist yng nghynhyrchiad National Theatre Wales o Passion ym Mhort Talbot.

Fel y datgelwyd yn y gyfres deledu Coming 主播大秀 ar 主播大秀 Cymru, pleser o'r mwya iddo bob amser yw dychwelyd i dref ei fagwraeth ond mae gan Sheen dri mis go ddwys o'i flaen, oherwydd yn ogystal 芒 chwarae'r brif ran, ef hefyd fydd yn cyfarwyddo'r sioe dridiau sy'n cynnwys perfformiadau gan drigolion lleol mewn lleoliadau amrywiol ledled Port Talbot.

Yn wahanol i rai, ni theimlodd Michael Sheen erioed gywilydd o'i filltir sgwar, na'r ysfa i ddianc - yn bennaf am iddo dderbyn mai gadael fyddai'n rhaid os am wneud rhywbeth ohono'i hun.

Oherwydd hynny, tueddai i weld prydferthwch lle gwelai eraill hagrwch ac wrth baratoi ar gyfer y cynhyrchiad mae'n awyddus i wneud yn fawr o ddaearyddiaeth hynod y dre ddiwydiannol - gan ymgorffori mynyddoedd Emroch, Dinas a Margam yn ogystal 芒 thraeth maith Aberafan a'r gweithfeydd dur dramatig - er mwyn denu eraill i brofi perspectif newydd o'r dre.

Ei eni yng Nghasnewydd

Serch ei gysylltiad diamheuol 芒 Phort Talbot, yn ninas Casnewydd y ganwyd Michael Christopher Sheen, ar Chwefror 5, 1969, yn fab i Irene a Meyrick.

Roedd y ddau yn reolwyr adnoddau dynol a phan oedd Michael yn bump oed symudodd y teulu - gan gynnwys ei chwaer fach, Joanne - i Lerpwl am dair blynedd gan ddychwelyd i Gymru ac ymgartrefu ym Maglan.

Tras Wyddelig sydd i'r Sheens - neu'r Sheehans yn wreiddiol, a deithiodd i Gaerdydd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae hanes o fwyngloddwyr a gwehyddwyr ymhlith yr achau sydd wedi'u gwasgaru ledled cymoedd de Cymru.

Ceir hefyd dystiolaeth o Hen Famgu go ddramatig ar ochr ei fam a ymunodd 芒'r syrcas a dianc 'r Amerig i ddofi llewod- cyn dychwelyd i Gymru a setlo yn Aberaeron.

Nid y syrcas, na'r theatr, ddenodd Michael i ddechrau, ond y cae p锚l-droed a thra ar wyliau ar Ynys Wyth yn 12 oed cafodd gynnig chwarae i d卯m ieuenctid Arsenal, ond gwrthododd ei dad y cyfle gan y byddai'n golygu symud y teulu i Lundain.

Cynnig rhyddhad

Er ei ddawn cicio p锚l ar gae chwarae Ysgol Gyfun Glanafan, dechreuodd Sheen ymdiddoru ym myd y ddrama, gan ddarganfod bod actio'n cynnig rhyddhad emosiynol a seicolegol yn ogystal 芒 chorfforol ac ymunodd 芒 Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru cyn cael ei dderbyn i goleg yr Old Vic ym Mryste a RADA yn Llundain.

Tra'n fyfyriwr yn RADA, enillodd ran pianydd ifanc yn gyferbyn 芒 Vanessa Redgrave yn When She Danced (1991), gan ddechrau gyrfa lewyrchus ar lwyfan, yn cynnwys cyfnod ddechrau'r Nawdegau gyda chwmni Cheek By Jowl, cyn denu cl么d - a gwobrau niferus - am ei berfformiadau yn Peer Gynt (1994) a Henry V (1997) gyda'r RSC, cynhyrchiad Peter Hall o Amadeus yn yr Old Vic (1998) a Look Back in Anger (1999).

Ers chwarae Lodovico yng nghynhyrchiad Oliver Parker i'r sinema o Othello yn 1995 creodd Sheen yrfa ffilm nodedig yn Hollywood ac ymhlith ei ffilmiau cynnar yr oedd Mary Reilly (1996) gyda Julia Roberts a Wilde (1997) gyferbyn 芒 Stephen Fry, Jude Law a Ioan Gruffudd, Gladiator (2000), a The Four Feathers (2002) gyda Mel Gibson a Heath Ledger.

Bleidd-ddyn

Yna, yn 2003, daeth tro ar fyd - yn bersonol ac yn broffesiynol. Disgleiriodd fel bleidd-ddyn o'r enw Lucian yn yr antur iasoer Underworld, gyferbyn 芒'i gariad Kate Beckinsdale - mam eu merch fach, Lily, a aned ym 1999.

Daeth diwedd i'w perthynas pan ddechreuodd Beckinsdale ganlyn cyfarwyddwr y ffilm honno, Len Wiseman.

Mae Beckinsdale a Wiseman bellach yn briod ac yn byw yn Los Angeles - sefyllfa arweiniodd Sheen i sefydlu yno am ran ran helaeth o'r flwyddyn er mwyn cynnal perthynas 芒 Lily, sy'n golygu ei fod yn gwneud llai o waith theatr nag a fu, a mwy o waith ffilm - gan gynnwys rhannau mewn ffilmiau i blant, fel y Fampir Aro yn y gyfres Twilight (2009-2012) a llais y Gwningen Wen yng nghynhyrchiad Tim Burton o Alice in Wonderland (2010).

Tony Blair

Ond hefyd, tra'n chwarae Caligula ar lwyfan y Donmar Warehouse yn 2003, derbyniodd wahoddiad i chwarae rhan y Prif Weinidog Tony Blair mewn dramateiddiad ar gyfer y teledu o'r cytundeb honedig a wnaethpwyd rhwng Blair a Gordon Brown ynglyn ag arweinyddiaeth y Blaid Lafur, The Deal.

Awdur y ddrama oedd Peter Morgan, ac yn dilyn y darllediad hwnnw ar Sianel 4 daeth Sheen yn enw tipyn mwy cyfarwydd ymhlith gwylwyr teledu ym Mhrydain.

Yn 么l yr hanes, creodd Sheen argraff wael iawn ar Morgan i ddechrau - yn bennaf oherwydd i'w amserlen theatr amharu ar gyfnod ffilmio The Deal - ond mae'n amlwg i'r Cymro ei hudo gan i'r berthynas ddatblygu'n un allweddol yng ngyrfa'r ddau wrth i Morgan ysgrifennu dau ddilyniant i The Deal; The Queen yn 2006 a The Special Relationship yn 2010 a rhan David Frost yn y ddrama lwyfan Frost/Nixon a addaswyd yn ffilm lwyddianus gan Ron Howard yn 2008.

Yn dilyn The Deal llwyddodd Sheen i ehangu ei ap锚l ac ennill cl么d pellach gyda dau berfformiad o ddynion obsesiynol ar deledu; y dioddefwr OCD yn Dirty Filthy Love ar ITV (a sgwennwyd gan yr actor o'r Fflint, Ian Pauleston-Davies) a pherfformiad trydanol yn Fantabulosa! o seren gymhleth y ffilmiau Carry On, Kenneth Williams, ar 主播大秀4.

Sicrhaodd y ddau berfformiad ddau enwebiad BAFTA ac yn dilyn ei bortread o David Frost gyferbyn 芒 Frank Langella fel Richard Nixon ar lwyfan Theatr Gielgud y West End ac yna ar Broadway, saethodd ei yrfa i'r stratosff锚r gan olygu y caiff ddewis unrhyw ran y dymuna'i chwarae, ar ffilm neu ar lwyfan, erbyn hyn.

Brian Clough

Efallai mai'r rhyddid hwn sy'n egluro'i benderfyniad i bortreadu un o ffigurau enwoca'r byd p锚l-droed Prydeinig, Brian Clough, yn The Damned United - sef addasiad o gofnod ffuglennol David Peace o gyfnod trychinebus Clough yn rheolwr ei g芒s dim, Leeds United.

Fel gyda Tony Blair a Kenneth Williams, llwyddodd Sheen i gynnig llawer iawn mwy na dynwarediad difyr o gymeriad eiconig.

Diolch i ymchwil trylwyr a meistrolaeth lwyr o'r acen ac ambell ystum, llwyddodd i gyflwyno Clough fel gwrth-arwr llawn gwendidau y gallai'r gwyliwr gydymdeimlo'n llwyr ag ef.

Yn 2010 daeth diwedd i berthynas hir-dymor arall; gyda'r ddawnswraig Lorraine Stewart ac yn dilyn adroddiadau yn y wasg cyhoeddwyd fod Sheen yn canlyn yr actores Rachel McAdams o Ganada - gwlad y bu'n ffilmio ynddi ar gyfer y gomedi rhamantus Jesus Henry Christ, gyferbyn 芒 Toni Collette (Muriel's Wedding) fydd allan yn 2011.

Llwyddodd hefyd yn 2010 i ennill cynulleidfa ehangach trwy gyfrannu i'r gyfres gomedi boblogaidd 30 Rock gyda Tina Fey ac Alec Baldwin, tra hefyd yn ffilmio'r dilyniant i'r clasur cyfrifiadurol Tron. Caiff y blocbyster 3-D hwnnw, Tron: Legacy ei ryddhau toc cyn Nadolig 2010 gyda Jeff Bridges yn dychwelyd i chwarae rhan Kevin Flynn gyferbyn 芒 chymeriad o'r enw Castor y mae Sheen wedi'i ddisgrifio fel, "Albino Ziggy Stardust".

Pan ddychwelodd i Gymru i hel ei achau ar gyfer y 主播大秀, derbyniodd hefyd y brif ran yn yr addasiad ffilm o nofel Owen Sheers, Resistance, sy'n cynnig diweddglo gwahanol i'r Ail Ryfel Byd ac sydd wedi'i osod - a'i ffilmio - yng ngororau Sir Fynwy, fydd hefyd allan ddiwedd 2011.

Wynebu Hamlet

Yn goron ar y cyfan - ac yn dilyn y cynhyrchiad Passion ym Mhort Talbot yng ngwanwyn 2011 - mae Sheen wedi ymrwymo i lwyfaniad newydd yr Young Vic o Hamlet, dan gyfarwyddyd Ian Rickworth. Cydweithiodd y ddau yn y gorffenol ar gynhyrchiad o Betrayal Harold Pinter i'r Theatr Genedlaethol, a'r hyn sydd yn apelio at y ddau ydy'r syniad o gyflwyno dehongliad newydd o ddrama sydd wedi'i llwyfanu hyd syrffed a'i thrin fel un cwbl anghyfarwydd.

Yn sicr, dyna drosiad da o waith gorau Sheen hyd yma; wrth daclo eicon or-gyfarwydd, mae e'n cynnig darlun sydd mor agos ati nes disodli'r cymeriad gwreiddiol ac o ymrafael ag anghenfil, mae e'n datgelu dyn y gallwn oll uniaethu ag ef.

Tra bo Meyrick Sheen yn adnabyddus yn lleol am ei ddynwarediad di-hafal o Jack Nicholson mae ei fab yn llawn edmygedd gan nad yw ef erioed wedi gallu dynwared neb - ei ddawn ef, yn hytrach, yw dryllio'r ddelwedd a gwefreiddio'r gwyliwr gyda'r gwir.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.