主播大秀

Eurgain Haf - Yr Allwedd Aur

Rhan o glawr y llyfr

08 Tachwedd 2010

Chwilio am Arthur

Nofel wedi ei gosod yn y flwyddyn 2050 yw llyfr diweddaraf Eurgain Haf.

Erbyn hynny mae Cymru mewn trafferthion amgylcheddol dybryd a'r bae yn boddi, y Senedd yn suddo a chwareli'r wlad wedi eu troi'n ffatr茂oedd i chwalu cof y Cymry o'u gorffennol.

Diflannodd Ynys M么n yn llwyr a "De Orllewin Prydain" yw'r enw ar Gymru bellach ac mae ffyrdd uwchddaearol yn cael eu hadeiladu fel bod pobl yn gallu osgoi Cymru yn llwyr.

Cyhoeddir y nofel yng nghyfres Strach gan Wasg Gomer ac mae wedi ei hanelu at blant rhwng 7 ac 11 oed.

Clawr y llyfr

Ond er wedi ei gosod yn y dyfodol mae adlais hen chwedl ynddi hefyd gan mai'r un dyn 芒 all helpu bellach Cymru o'i strach ydi'r Brenin Arthur.

Ef yn dal i ddisgwyl am yr alwad i achub ei wlad.

Ond pwy sy'n mynd i ddod o hyd iddo a sut?

Wele Llwyd Dafydd yn camu mlaen. Mae o'n byw "gyda'i ewythr a'r pryfed lludw" yn nhyddyn Porth Afallon a than orchymyn Jac Offa, Prif Weinidog newydd Prydain, mae swyddogion y llywodraeth yn cymryd camau'n barod i chwalu'r tyddyn er mwyn adeiladu ffordd uwchddaearol er mor benderfynol yw Ewythr Bedwyr i beidio gwerthu.

O Benisa'rwaun, Gwynedd, y daw yr awdur ardal 芒 chysylltiadau clos 芒'r Brenin Arthur .

"Mae'r nofel hon wedi ei hysbrydoli gan fy mhlentyndod a'm magwraeth yn Eryri, ardal sy'n frith o chwedlau a choelion am dylwyth teg, corachod, cewri, twneli tanddaearol a chysylltiadau Arthuraidd," meddai.

"Yn blentyn, treuliais sawl awr yn chwilio'n ddyfal gyda'm ffrindiau am dwneli tanddaearol ac olion y tylwyth teg ac er na ddois i fyth o hyd iddyn nhw, y gobaith yw i mi danio fy nychymyg ar hyd y daith."

Llyfrau ffantasi

Ychwanegodd ei bod wrth ei bodd yn darllen llyfrau ffantasi fel Harry Potter a The Lord of the Rings.

Yn Yr Allwedd Aur mae llawer o elfennau'r straeon hynny; pwerau tywyll Gedon Ddu sy'n benderfynol o ddinistrio Cymru, y Meidrolfyd a'r Hudfyd rhyfedd.

"Mae Yr Allwedd Aur yn annog y darllenydd i fentro ar daith arbennig iawn - taith lle nad yw popeth yn ymddangos fel y dylai. Taith rhwng dau fyd, y Meidrolfyd a'r Hudolfyd," meddai'r cyhoeddwyr.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.