主播大秀

Eurgain Haf - yn ateb ein cwestiynau

Eurgain Haf

08 Tachwedd 2010

  • Enw: Eurgain Haf


  • Beth yw eich gwaith?
    Swyddog y Cyfryngau gydag elusen Achub y Plant ac awdures yn fy amser sb芒r.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Swyddog y Wasg i S4C a gweithio mewn amryw o westai a chaffis yn gweini.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    O Beinisarwaun, pentref bach yn Eryri sy'n swatio yng nghesail Yr Wyddfa.


  • Lle鹿r ydych chi'n byw yn awr?
    Pontypridd


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Do. Ro'n i'n ffodus i ddod dan ddylanwad athrawon a darlithwyr ysbrydoledig iawn.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dwedwch ychydig amdano?
    Mae'r nofel wedi ei hysbrydoli gan fy mhlentyndod yn Eryri, ardal sy'n frith o chwedlau am dylwyth teg, corachod, cewri, ffynhonnau a thwneli hud.
    Mae sawl cysylltiad 芒'r Brenin Arthur ym Mhenisarwaun gan mai yma y mae Ffynnon Cegin Arthur.
    Nofel ffantasi i blant yw Yr Allwedd Aur wedi ei gosod yn y flwyddyn 2050. Mae'n dilyn hanes Llwyd Cadwaladr, 13 oed, wrth iddo chwilio am y Brenin Arthur a'r allwedd aur i achub dyfodol Cymru rhag pwerau tywyll Gedon Ddu.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Siencyn a'r Clociwr Cas (Dref Wen 2010)
    Siencyn a'r Sipsiwn (Dref Wen 2009)
    Dan Draed Dan Glo (Dref Wen 2009)
    Siencyn a Dan Draed (Dref Wen, 2008)
    Nerth B么n Braich (un o saith o awduresau y nofel gywaith hon) (Gwasg y Bwthyn, 2008)
    Stablau Seren (Dref Wen, 2006)
    Fferm Ffion (Dref Wen, 2005)
    Yn Nes at Baradwys - gol. Angharad Dafis (cyfrannwr) (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
    Chwileniwm - gol. Angharad Price(cyfrannwr) (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2002)


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    The Magic Faraway Tree gan Enid Blyton.


  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?
    O dro i dro, am ysbrydoliaeth!


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Mae gen i nifer ohonyn nhw: Caradog Prichard, Kate Roberts, Sonia Edwards, Angharad Price a Llwyd Owen yn y Gymraeg. Thomas Hardy, Jane Austen, Roald Dahl a Zizou Corder yn y Saesneg.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Y D诺r gan Lloyd Jones.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    T H Parry-Williams.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Hon


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun,
    Neu gydag enaid hoff, cyt没n.
    Eifionydd, R.Williams Parry


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Ffilm: Trioleg Lord of the Rings
    Rhaglen deledu: Holby City


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Hoff: Si么n Blewyn Coch, Llyfr Mawr y Plant
    Cas: Alec d'Urberville o Tess of the d'Urbervilles gan Thomas Hardy. Hen gena' mewn croen!


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Amynedd yw mam pob doethineb.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Sisial.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    I wefreiddio drwy ganu.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Trefnus
    Petrus
    Hapus.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Mae gen i ddawn o wneud pethau'n anodd i mi fy hun!


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
    Caryl Parry Jones. Dw i'n edmygu ei dawn a'i didwylledd.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Does dim byd amlwg. Dwi wedi profi sawl digwyddiad hanesyddol yn fy oes yn barod fel cael Cynulliad i Gymru a phenodi Arlywydd croenddu cyntaf America.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
    Y Brenin Arthur. "Lle ti 'di bod?"


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Dw i wrth fy modd yn cerdded y ci ar hyd y comin ym Mhontypridd sy'n fangre ysbrydol iawn. Dw i hefyd yn hoff o gerdded y daith i ddiwedd Cwm Pennant.


  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
    S诺p pys mam. Does dim i'w guro!


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Cerdded yn Eryri, canu mewn c么r a marchogaeth ceffylau.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Pinc a du.


  • Pa liw yw eich byd?
    Gwyrdd ac oren.


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Sicrhau dyfodol S4C a'r iaith Gymraeg. Hefyd cael gwared ar fagiau plastig.


  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
    Gobeithio.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Hwyr glas.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.