主播大秀

Rhiannon Wyn - adolygu ei nofel 'Codi Bwganod'

Rhan o glawr y llyfr

Adolygiad Glyn Evans o Codi Bwganod gan Rhiannon Wyn. Cyfres yr Onnen. Lolfa. 拢5.95.

Nofel ar gyfer plant rhwng naw a 12 oed yw hon ond wedi ei sgrifennu yn ddigon call i ddiddori darllenwyr dipyn h欧n na hynny hefyd.

Mae'r stori'n troi o gwmpas geneth, Erin, sy'n byw yng nghysgod priodas anhapus ei rhieni, yn ymgyfeillachu ag ysbryd Madam Petra, sy'n trigo mewn plasty mae'r teulu newydd symud iddo.

Clawr y llyfr

Yn Saesneg mae'r math yma o sefyllfa anghyffredin yn eithaf cyffredin stori a ffilm a neb yn cael unrhyw anhawster gwthio'i hygoeledd i'r naill du am gyfnod.

Er nad yw mor gyffredin yn y Gymraeg llwydda Rhiannon Wyn i'r argyhoeddi yn gyntaf a chadw'n diddordeb yn ail.

Mwynhau'r cyfle

Yn 么l safonau nofelau Cymraeg heddiw, yn enwedig rhai i blant, mae hon yn ymylu ar fod yn glamp o nofel - dros 250 o ddalennau.

Felly dyw hi ddim yn un i'w darllen ar frys ac mae rhywun yn gobeithio y bydd plant yn mwynhau'r cyfle i dreulio cymaint o amser ymhlith y teulu cecrus a byd digon anhapus Erin y tu allan i'w chartref yn cael ei bwlio yn yr ysgol ymhlith pethau eraill.

Ond er bod bwlio a pherthynas briodasol gas yn elfennau pwysig yn y nofel y mae iddi ei doniolwch hefyd - yn enwedig gyda dyfodiad y Madam Petra ddireidus i fywydau'r cymeriadau.

Gallwch ddychmygu'r math o bethau sy'n digwydd pan na all ond un cymeriad, Erin, weld yr ysbryd a'r ysbryd yn mynnu mynd i'r ysgol gyda hi, er enghraifft.

Byd y cyfryngau

Byd y cyfryngau yw byd Erin gyda'i mam, Sara, yn newyddiadurwraig deledu uchelgeisiol y mae'r bywyd teuluol yn troi o gwmpas ei gyrfa tra bo'i g诺r, Dafydd, yn fwy goddefol. Yn dipyn o bric pwdin, hyd yn oed, a'u priodas yn gwegian.

Mae'r nofel yn cychwyn gyda chartref adnewyddiedig Sara - a Dafydd - yn cael y driniaeth 4 Wal gan y cyflwynydd teledu Robyn Rici - stereoteip y mae ei enw yn dweud y cyfan sydd angen ei wybod amdano.

Ei ferch ef, Lucinda, sy'n gwneud bywyd yn boen i Erin yn yr ysgol.

Cymysgfa fawr

Mae'r doniol, y dwys, yr annhebygol, y cariad, yr ansicrwydd y cenfigen a'r cecru yn gymysgedd sy'n troi'n drwyth blasus iawn.

Ac mae'n codi calon rhywun deall mai'r ail o wyth nofel yng Nghyfres yr Onnen yw hi - yn dilyn Trwy'r Darlun gan Manon Steffan Ros - dim ond gobeithio y bydd y chwech arall yr un mor llwyddiannus.

Yn sicr gall Rhiannon Wyn fod yn ddigon bodlon gyda'i nofel gyntaf hi. Dylai fod yn sbardun iddi ddal ati. Yn sicr mae gan awdur rywbeth i'w gynnig os gall lunio brawddegau fel hon:

"A chododd Erin ei Ribena i ddiolch i'r ddau ohonyn nhw am ei swper hyfryd: i'w thad, am ei roi yn y meicrodon ac i'w mam, am ei dynnu allan."

I'r teledu?

O ddarllen y nofel doedd o ddim yn syndod darllen wedyn mai sgriptwraig deledu (Rownd a Rownd yw'r awdur wrth ei gwaith bob dydd.

Mae'r deialog yma yn naturiol a'r golygfeydd mor 'weledol' fyddai rhywun ddim yn synnu gweld y nofel yn cael ei haddasu ar gyfer y sgrin.

Yr awdur

Un o'r Groeslon, ger Caernarfon, ydi'r awdur ac ar 么l graddio yn Aberystwyth bu'n teithio'r byd.

Mae'n cyflwyno ei nofel er cof am ei thad, Eirug Wyn - er nad yw'n ei enwi yn y cyflwyniad.

Ond yn amlwg bu'n ddylanwad mawr arni:

"Ei brif ddylanwad arna i oedd drwy esiampl: ei ethos gwaith, ei ddisgyblaeth, a'i ymrwymiad pendant i unrhyw dasg," meddai.

"Mi fydda i'n meddwl amdano'n aml wrth ysgrifennu. Ei straeon (gwirion) o cyn mynd i gysgu oedd fy nghyflwyniad cynta i unrhyw fath o ysgrifennu creadigol!" ychwanega.

Gorffennaf 2009

.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.