主播大秀

Rhiannon Wyn - yn ateb ein holiadur

Rhiannon Wyn

  • Enw:
    Rhiannon Wyn.


  • Beth yw eich gwaith?

  • Stor茂o a sgriptio i Rownd a Rownd, ond 'dw i hefyd wedi sgriptio i Pobol y Cwm.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Check-out chick yng Nghaernarfon, gweini (yn wael) yn Sydney.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • O'r Groeslon, ger Caernarfon.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Llanwnda, ger Caernarfon. Er i mi fod rownd y byd, tydw i heb fynd yn bell!

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Do, er i mi gael cyfnodau o ddiogi ac apathi

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dwedwch ychydig amdano?

  • Mi fues i ar gwrs 'sgwennu ar gyfer pobl ifainc a derbyn comisiwn gan y Lolfa wedi hynny. Mae'n debyg mod i wastad wedi meddwl 'sgwennu llyfr ond heb gael yr hyder na'r ddisgyblaeth o'r blaen.

    Mae hi'n nofel am ferch ifanc unig sy'n byw hefo rhieni boncyrs ac yn gwneud ffrindiau gydag ysbryd dynes sy'n sownd yn ei chartref.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Hon oedd fy nofel gyntaf.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Y Geiriadur Lliwgar. Cyfoeth o wybodaeth ac ro'n i'n gwybod lle roedd yr hwyaden ar bob tudalen cyn ei throi!

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Does gen i ddim copi personol yn anffodus

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Amhosib dewis... dw i 'di cael blas ar llyfrau Khaled Hosseini yn ddiweddar. 'Dw i hefyd yn hoff o John Irving, Haruki Murakami a Nam Le. Yn y Gymraeg, Mihangel Morgan, Caradog Prichard ac Angharad Price.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • 'Dw i'n cofio crio ar draeth ar fy ngwyliau wrth ddarllen O! tyn y Gorchudd gan Angharad Price. Roedd y 'sgwennu mor gynnil a synhwyrus. Dw i'n gobeithio na welodd neb

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Does gen i ddim un yn benodol

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Dychwelyd gan T.H. Parry-Williams, neu If gan Rudyard Kipling.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • "Ac wedi elwch, tawelwch fu

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Hoff ffilm: When Harry met Sally, Amelie, neu American Beauty.
    Hoff raglen: The Sopranos,The West Wing, Frasier a gwell i mi ddeud Rownd a Rownd!

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Hoff gymeriad: Damian Cunningham, y bachgen bach yn Millions gan Frank Cottrell Boyce am ei ddiniweidrwydd, ei anwyldeb a'i ddyfeisgarwch.
    Neu Adrian Mole, mae hwnnw wastad yn gwneud i mi chwerthin. Alla i ddim meddwl am neb 'dw i'n ei gas谩u...

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • A heuir a fedir.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Mifi-mihafan. Ydi o'n cyfri fatha dau air?

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Medru canu nes gyrru ias.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Chwilfrydig,
    Breuddwydiol,
    Sensitif.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Lle mae dechrau?
    ! Meddwl a phoeni gormod am bopeth...

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Che Guevara. Chwydroadwr deallus (a pishyn!)

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Glanio ar y lleuad, yn enwedig ar 么l darllen a gwylio rhaglenni diweddar am y 40 mlwyddiant.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Che Guevara. Beryg y buaswn i'n rhy nerfus i siarad...

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Y daith i'r maes awyr cyn mynd ar fy ngwyliau.. cymysgedd o gyffro a chwilfrydedd. Neu unrhyw daith ar dd诺r. Ma 'na rwbath heddychlon am deithio ar dd诺r.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Cyrri Thai poeth a gwin gwyn oer.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Teithio, gweld ffrindiau, chwarae p锚l-rwyd, nofio, darllen.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Coch.

  • Pa liw yw eich byd?

  • ... dibynnu ar y diwrnod.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Unrhywbeth i adfer parch rhwng pobl a'i gilydd.

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Dw i newydd dderbyn comisiwn i 'sgwennu eto ar gyfer plant ond rhai h欧n y tro yma. Mater o ddechrau arni r诺an...

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Dal i chwilio..!

Gorffennaf 2009


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.