主播大秀

Angharad Price - Adolygiad o Caersaint

Rhan o'r clawr

30 Mawrth 2010

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

  • Adolygiad Sioned Williams o'r nofel Caersaint gan Angharad Price. Y Lolfa. 拢8.95.

Clywais Angharad Price yn trafod natur y nofel Gymraeg ers datganoli mewn darlith ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar.

Bu'n olrhain dylanwad datblygiadau gwleidyddol diweddar Cymru ar gyfrolau'r ddegawd ddiwethaf ac fel rhan o'i hymchwil bu'n holi nifer o nofelwyr a gafodd canlyniad positif refferendwm 1997 effaith ar eu gwaith.

Roedd y rhan helaeth ohonynt yn gwadu'n chwyrn bod yna unrhyw gysylltiad, a hynny'n cyferbynnu'n llwyr a'r llu o ymatebion llenyddol a gafwyd i fethiant 1979.

Ym marn mwyafrif yr awduron a holwyd, roedd refferendwm 1979 "yn brofiad pwysicach" i lenorion Cymru, a'r broses o ddatganoli gwleidyddol ers 1997 "heb esgor ar fawr o'r gwrthdaro sydd ei angen i greu stori afaelgar."

Anghyffredin o afaelgar

Mae ail nofel hir-ddisgwyliedig Angharad Price yn un anghyffredin a afaelgar ac er bod Caersaint yn bortread llenyddol bywiog o Gaernarfon, ei lliw a'i hanes a'i chymeriad unigryw, gellid hefyd ei hystyried yn gyfrol sy'n ymateb i'r Gymru ddatganoledig.

Mae'r darlun a geir ynddi o gymdeithas Gymraeg gyfoes 么l-ddatganoledig yn bwrw golwg ymhell y tu hwnt i furiau hynafol y dref.

Mae'n nofel realaidd sy'n weddol syml o ran ei ffurf ond mae ynddi haen gyfoethog o ystyr sy'n codi pwyntiau awgrymog yngl欧n 芒 pherthynas llywodraethu a chymuned mewn llawer i dref yng Nghymru.

Mae'r ffaith bod enwau lleoliadau Caernarfon wedi eu newid a'r Cofi wedi troi'n sant a'u hiaith yn Besanti, yn hwyluso ac yn atgyfnerthu'r argraff bod y lleol yn cynrychioli'r cyffredinol yn y nofel hon.

Cymeriad anarferol

Jamal Gwyn Jones, neu 'Jaman' fel mae'n cael ei nabod gan drigolion y dre, sy'n ein cyflwyno i gymdeithas Caersaint. Mae'n brif gymeriad anarferol - llanc cyffredin sy a chefndir digon amheus sy'n dychwelyd i'w dre frodorol wedi iddo etifeddu t欧 hen wraig y bu'n ei chynorthwyo tra ar wasanaeth cymunedol.

Mae e o dras ethnig gymysg a heb gwlwm teuluol. Trwy gymeriad Jaman mae'r nofel yn herio'r darlun traddodiadol cyfforddus o gymdeithas Gymraeg lle mae pawb yn nabod teulu pawb.

Mae'r nofel hefyd yn codi cwestiynau anghyfforddus yngl欧n 芒 chynrychiolaeth a pheirianwaith gwleidyddol yn y Gymru newydd pan fo Jaman yn sefyll yn erbyn dyn busnes dylanwadol, Medwyn Parry, fel ymgeisydd i fod yn faer.

Ceisio rhoi llais i'r saint cyffredin mae Jaman a'i gefnogwyr, yn wyneb syniadaeth wleidyddol ac economaidd Med, sy heb ei wreiddio yn niwylliant y trigolion.

Y Gymru gyfoes

Er ei bod yn bortread campus o dref a chymuned a thafodiaith arbennig, nofel am y Gymru gyfoes yw hon: Mae'r ffatri rhannau ceir wedi ei dymchwel a'r Doc yn llawn o fflatiau moethus. Mae'r dafarn wedi newid ei henw ac yn troi'n fwngrel abs岷價d (y Shamleek, sy'n "bartneriaeth Gymreig -Wyddelig gyda chymorth grant Amcan Un.")

Dyw'r cyfryngau cenedlaethol yn talu sylw i ddim ond sgandal yn hytrach na sylwedd yr ymgiprys gwleidyddol a does gan y gyfundrefn wleidyddol newydd sy fod i ddod a grym yn agosach at y bobl ( sefydlu maer) ddim bwriad i'w cynrychioli.

Mae'r brodorion yn barod i farnu ond yn amharod i weithredu - a hynny am eu bod wedi eu gorchfygu ym mrwydrau'r gorffennol (methu atal y ffordd osgoi er gwaetha ymgyrch brotest.)

Darlun cyhyrog

Ceir darlun cyhyrog o drigolion y dref - selogion tafarn y Mona, trigolion Brynhill, a chymeriadau Caffi Besanti nad yw'n unwaith lithro i ystrydeb.

Diolch yn bennaf i ddawn arbennig i gyfleu llif naturiol sgwrs y trigolion a'u tafodiaith goeth mae cymeriadau'r nofel yn fyw ac yn fywiog ac mae eu hymateb i'r datblygiadau sy'n digwydd yn eu tref yn teimlo'n naturiol, heb fod yna ymdeimlad bod geiriau na barn wedi eu gwthio i'w cegau.

Mae modd ymhyfrydu yn y portread crafog o Medwyn Parry ac ymgolli yn ffraethineb y ddeialog ddychanol yn aml;

"Mae 'na s么n mai j锚l gawn ni," meddai Miriam , "Os na cheith Phase 2 blanning."
"J锚l?" rhythais arni.
"Pam ddim?" meddai Trefor. "Mi fasa'n change gweld yr Asembli'n codi rhywbeth saff! Mentar hyn a mentar llall ydi hi fel arfar. Meddylia," chwarddodd cyn plannu ei ddannedd yn y cig, "Saeson wedi talu hannar miliwn yr un am luxury apartments yn Phase 1, ac yn cael llond j锚l o saint a bangor-ayes ar stepan eu drws nhw."

Crwn a dynol

Mae'r cymeriadau canolog yn rhai crwn ac yn ddynol, heb fod yn rhy arwrol nac yn rhy afiach. Efallai bod y darlun o Med ychydig yn fwy cartwnaidd ond teimlais nad oedd hynny'n wendid gan taw darlunio teip y mae'r awdures yma yn hytrach nag unigolyn arbennig.

Fel y dangosodd yn ei chyfrol arobryn O! Tyn y Gorchudd , mae dawn arbennig gan Angharad Price hefyd i gyfleu tirlun, ac mae disgrifiadau o'r strydoedd prysur sy'n amgylchynu'r Castell a'r golygfeydd dros Afon Menai hefyd yn rhoi gwir fywyd i Gaersaint:

"Codai toeau a thyrau'r hen dref bron gyferbyn 芒 mi, a rhaid fyddai dringo'n uwch cyn ei gweld yn ei gogoniant. Camais ymlaen hyd y serthaf o'r' ddau lwybr, heibio i lwyni eithin oedd ar fin ail-flodeuo, nes cyrraedd y rhan lle moelai'r graig yn gnawd rhychiog. Hen graig annymunol yr olwg oedd hi, a'r hafnau cynoesol yn rhoi gwedd ddioddefus iddi, a'r cylchedd cennog melynwyrdd fel hen gleisiau...Codai yn ei noethni Cyn-gambriaidd uwchben y dref, a doedd dim rhyfedd mai "Bryn Hyll" oedd enw'r saint ar y lle."

Tensiynau ehangach

Mae nifer wedi dyfynnu c芒n boblogaidd Geraint Lovgreen am Gaernarfon, Yma wyf innau i Fod, wrth drafod y nofel hon. Atseiniodd linell o'r g芒n yn fy mhen innau hefyd wrth ei darllen: "Ond y rhein a'u hiaith eu hunain sy'n cadw'r dref yn fyw, fel pob tre ddifyr arall yn y byd."

Yn y nofel arbennig hon, mae Angharad Price yn llwyddo i ddefnyddio cymeriad unigryw a phenodol Caersaint er mwyn trafod tensiynau diwylliannol a gwleidyddol ehangach y Gymry ddatganoledig.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.