主播大秀

Beryl Davies - Emynau'r Mynydd. Adolygiad

Rhan o'r clawr

14 Hydref 2010

  • Adolygiad Janice Jones o Emynau'r Mynydd a Dylanwad Bore Oes gan Beryl Davies. Cyhoeddwyd gan yr awdur. tt. 80. 拢7.99

Dyma gyfrol o waith Beryl Davies sy'n cynnwys deugain o emynau, nifer o donau ar eu cyfer, pymtheg o gerddi a phytiau diddorol eraill.

Ar glawr y llyfr mae dyfrliw hyfryd o Gapel Soar y Mynydd gan Brian Crowdie ac mae gan yr adolygwraig hon gywilydd cyfaddef nad yw erioed wedi ymweld 芒'r capel hwn sydd yn gymaint symbol o ddycnwch a ffydd yr ysbryd ymneilltuol Cymraeg.

Clawr y gyfrol

Wrth ddarllen cyflwyniad Beryl Davies i'r gyfrol, daw'n amlwg ei bod yn un o bobl 'Y Pethe' a'i bod, yn ogystal 芒 pharchu'r capel a'i holl weithgareddau, yn gwerthfawrogi addysg a diwylliant ac yn cael pleser mawr wrth ymgymryd 芒'i dyletswyddau niferus yn ei milltir sgw芒r a thu hwnt.

Cynhwysir nifer o ddarluniau yn y gyfrol; yn eu plith un o'r harmoniwm a ddefnyddiwyd yng Nghapel Soar y Mynydd.

Dywed Beryl Davies iddo gael ei ddefnyddio gan Y Pentocostiaid yn Lerpwl cyn cyrraedd Soar y Mynydd.

"Gresyn," meddai, "na fuasai'n gallu dweud ei hanes!"

Ymysg y deugain o emynau a gynhwysir yn y gyfrol mae yma emynau ar gyfer nifer o achlysuron arbennig, fel G诺yl Dewi, Sul y Mamau, Sul y Blodau, Bedydd, Sul y Cofio a Carol y Nadolig.

Ceir hefyd emynau sy'n adlewyrchu meddylfryd eangfrydig un sy'n Gristion i'r carn ac yn berchen cydwybod gymdeithasol.

Yn yr emyn Dros Gyfiawnder', er enghraifft, gweler y pennill hwn:

Dyro, Arglwydd, i'n gwedd茂au
Gyrraedd atat Ti yn awr -
Ein gwedd茂au dros gyfiawnder
I bob un ar ddaear lawr.

Cyflwynir cysyniadau tebyg mewn nifer o emynau fel Awn Ati ac Ehangu Gorwelion ble caiff y gynulleidfa ei hannog i "garu, Arglwydd,/ D'Achos Di yn fwy na'r man".

Emyn sy'n f'atgoffa o Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd yw Yr Hyfryd Ddiwrnod, yr emyn gyntaf i Beryl Davies ei chyfansoddi, meddai.

Gwrthgyferbynnir yr adlais o waith Ann Griffiths a ganfyddais gyda'r defnydd o alaw gyfoes The Carnival is Over ar gyfer y gwaith.

Mae Beryl Davies wedi bod yn llwyddiannus mewn llawer i eisteddfod, ac mae'r darn canlynol o feirniadaeth gan Dafydd John Pritchard yn adlewyrchiad o'i hap锚l.

Dywedi bod un o'i chyfansoddiadau, "yn cynnwys cadarnach diwinyddiaeth na nifer o'r emynwyr eraill heb wneud sioe o'r peth".

Yn sicr, dyma emynau diffuant a dealladwy, gyda ffydd yr awdur yn pefrio trwy uniongyrchedd eu mynegiant.

Cynhwysir yn y gyfrol hefyd gasgliad o sonedau a cherddi eraill, nifer ohonynt yn gerddi cyfarch.

Ceir rhigwm i Gapel Soar y Mynydd wedi ei gyfansoddi'n Saesneg yn wreiddiol ac yna wedi ei drosi i'r Gymraeg.

Mae yna hefyd gerdd amserol i Haf Bach Mihangel a chynhwysir ysgrif fuddugol Eisteddfod Gadeiriol Pumsaint 1989 ar y testun Amser sy'n cynnig tipyn i gnoi cil arno.

Yn olaf, mae Galarnad Gwenno, cerdd y daethpwyd o hyd iddi gyda hen lun o Ann, mam Gwenno, a oedd yn perthyn i nain Beryl Davies.

Bu farw Ann yn 1942 ac mae galarnad ei merch yn gerdd hynod deimladwy a gonest yn ogystal 芒 bod yn ddarn o hanes cymdeithasol. Meddai Gwenno am ei mam:

Ni ddaeth cardotyn ar ei hynt,
Na bonedd mawr ei fri,
Heb gael eich croeso yr un fath,
Mam, fel'na oeddech chwi.

Mae hon yn gyfrol bersonol a sensitif ond mae natur afiaethus yr awdur yn treiddio trwyddi gyda defnydd o ddisgrifiadau lliwgar a phwrpasol nad ydynt yn gwyro tuag at y blodeuog na'r gorsentimental.

Cyfl毛ir profiadau bywyd trwy lygaid un sydd yn berchen ffydd Gristnogol gadarn a gobeithio y bydd mwy o gynulleidfaoedd yn gallu manteisio ar waith Beryl Davies trwy gyfrwng y gyfrol hon.
Janice Jones


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.