主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
W J Gruffydd - yn 90 oed
Cerddi a ddarllenwyd yn ei barti pen-blwydd
Mewn cyfarfod arbennig yng nghapel Noddfa, Llanbedr Pont Steffan darllenwyd nifer o gerddi yn deyrnged i'r prifardd a'r cyn archdderwydd, W J Gruffydd, ar achlysur ei ben-blwydd yn 90 oed.

Parti'r pen-blwydd Mae W J Gruffydd - neu Elerydd - yn aelod ac yn Weinidog Anrhydeddus yn Noddfa.

Yn y cyfarfod, ar Fedi 24, 2006, croesawyd WJ a Mrs Gruffydd, eu mab Wyn a'i briod Gwyneth, a Mair eu merch, gan y Parchedig Jill Tomos.
Yr emyn cyntaf a ganwyd oedd Preseli o waith y bardd ei hun.

Cyfansoddwyd geiriau'r ail emyn yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Beryl Davies, Llanddewi Brefi.

Cyflwynwyd anrheg gan y Parch Jill Tomos i W.J.ar ran yr eglwys ac mewn parti wedyn yr oedd cacen gyda llun o W J Gruffydd ar ei hwyneb.

Cacen Fe'i cyfarchwyd gan Dafydd Lloyd Jones a Beryl Davies - gyda Janet yn darllen cyfraniad Beryl yn ei habsenoldeb.

Yr oedd cerdyn mawr a gyflwynwyd ar ran yr Y sgol Sui yn cynnwys lluniau o hoff hanesion y plant a'r bobl ifainc o'r Beibl.

Y Cerddi
  • I "W. J." yn ddeg a phedwar ugain
    gan Dafydd Lloyd Jones, Llambed:

    Ymlwybraist drwy galedi
    A hirlwm bro dy eni
    I lwyfan ll锚n a phulpud ffydd
    A'th wreiddiau 'mhridd Cwm Cedni.

    Yng ngweithdy'r crydd cest gyfle
    I'th drwytho yn y pethe
    'Roedd 'sgidiau Tomos yn dal d诺r
    Bedyddiwr ydoedd ynte.

    Llawryfau ddaeth yn gyson
    Dwy goron o'r copaon.
    Yn Ffair G诺yl Grog a'i sbri a'i s诺n
    Ffortiwn oedd hanner coron.

    Llafuriaist yn ddiarbed
    O lan i lan yn Nyfed
    Cest gwmni Tomos Nant-Gors-Ddu,
    A the'n y t欧 da Marged.

    Swynaist dorfeydd Prif Wyliau
    A'r myrdd o'r gwych bulpudau
    Ond yng Nghaersalem rhennaist fraint
    Y saint ar eu penliniau.

    O'r werin cefaist seiliau
    Yng ngwaddol dy gyndeidiau
    Yn wir foneddwr, sugnaist faeth
    Frawdoliaeth gwlad y bryniau.

    Boed dy ben-blwydd yn ddedwydd
    Un teilwng o Archdderwydd.
    Nid mynd yn hen, ond mynd yn h欧n
    Fel gwin yn ei aeddfedrwydd.

    Bendithiwyd di a theulu
    Sy'n nerth a chysur iti,
    Fe geidw Wyn a Mair a Jen
    Y w锚n yn dy ffenestri.

  • Emyn a gyfansoddwyd ar gyfer dathlu pen-blwydd y Parchedig Brifardd W J Gruffydd (Elerydd) yn 90 oed

  • gan Beryl Davies, Llanddewi Brefi:

    Diolch Arglwydd am dy weision
    Fu'n traddodi drwy eu hoes,
    Fel bod eraill yn cael clywed
    Am bwysigrwydd gwaed y Groes.
    Ger dy fron, down yn llon
    I gydnabod rhain o'r bron.

    Diolch Arglwydd am wladgarwyr,
    Am lenorion ac am feirdd;
    Wnaeth amddiffyn drwy eu doniau
    Draddodiadau pur a heirdd.
    Glendid fu ddaeth i ni,
    Drwy ein hetifeddiaeth gu.

    Diolch Arglwydd am ymroddiad
    Gweinidogion cryf eu ffydd
    Dreuliodd eu bywydau'n gyfan
    I'th foliannu Di bob dydd,
    'N ddiwah芒n seinient g芒n
    Dan ddylanwad 'r Ysbryd Gl芒n.

    Dyro Arglwydd inni barchu
    Eu cyfraniad gwerthfawr hwy,
    Ac i fyw yn debyg iddynt
    Drwy'n bywydau ninnau mwy,
    Ti gei glod, Ddwyfol Fod,
    Tra bo byd a nef yn bod.

  • Penillion a gyfansoddwyd gan Beryl Davies, ar gais aelodau Capel Noddfa, Llambed, ar gyfer yr achlysur.

  • Cyfeirir ym mhennill naw at hanesyn a geir yn Meddylu, W. J. Gruffydd.

    Degawd sy'n brin o ganrif
    Ers geni W.J.
    Y g诺r wahoddwyd yma
    Am baned bach o de.

    A Jane sydd wrth ei ochr
    Fel bu am amser maith,
    Brenhines aelwyd gynnes
    A chwmni ar y daith.

    Fe dreuliodd ei blentyndod
    Ym mhentref bach Ffair Rhos,
    Lle cafodd ysbrydoliaeth
    Fel bardd, mewn bro mor dlos.

    Dyn addfwyn ac urddasol
    W锚l bawb pan yn y dref,
    A hawdd dynesu ato -
    O gofio pwy yw ef!

    Mae'n gyn Archdderwydd Cymru;
    Anrhydedd fwya'n gwlad
    I'r bachgen bach amddifad
    A gollodd fam a thad.

    Ei daid a'i nain a'i magodd
    A thlawd fu bore oes,
    Ond etifeddodd gyfoeth -
    Cael nabod G诺r y Groes.

    Ni chofiodd am enwadaeth
    Wrth droedio drwy ein tir,
    Gan draethu yr efengyl
    O leiaf drwy dair sir.

    Dros hanner canrif dreuliodd
    Mewn gyrfa werthfawr iawn -
    Yr hon oedd alwedigaeth;
    A'i fywyd oedd yn llawn.

    Hen atgof 'nawr yw bore
    'R arholiad yng Nghaerdydd
    Cael te a rhai biscedi
    Pan rois y Glas hwy'n rhydd!!

    Petrusais pan ofynnwyd
    Im sgwennu cerdd i chwi,
    O gofio'ch dawn aruthrol-
    Pwy druan oeddwn i?!

    Weinidog Anrhydeddus,
    Mae'n bleser dweud ar go'dd;
    Cofion anwylaf atoch,
    A diwrnod wrth eich bodd.

    A heno cewch fyfyrio
    Ar ddydd fu'n olrhain hynt
    Sut daeth y bardd Elerydd
    I Fro Dawel o Fwlch y Gwynt.
    Beryl Davies, Llanddewi Brefi.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Hanes W J Gruffydd

  • O Ffair Rhos i'r Maen Llog - adolygiad


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy