主播大秀

Mari Emlyn - Llythyrau'r Wladfa 1945 - 2010

29 Tachwedd 2010

  • Adolygiad Lona Jones o Llythyrau'r Wladfa 1945 - 2010. Golygwyd gan Mari Emlyn Gwasg Carreg Gwalch. 拢9.95.

Detholiad o lythyrau rhwng trigolion y Wladfa a Chymru yw hon, chwaer gyfrol i un a ymdriniai a llythyrau'r cyfnod 1865 - 1945.

Mae llythyrau yn genre unigryw o lenyddiaeth, erbyn ein dyddiau ni, peth personol yw llythyr, peth nad ydym o reidrwydd am ei gyhoeddi.

Nid oedd hyn bob amser yn wir ac fe ystyrid y llythyr ar un cyfnod fel math o ysgrif ac eid ati i'w ysgrifennu yn gain gan ofalu am eglurdeb parthed y digwyddiadau a'r bobl y sonnid amdanynt. Enghraifft wych o hyn yng Nghymru, wrth gwrs, yw llythyrau Morysiaid M么n.

Clawr y llyfr

Ond llythyrau preifat yn eu hanfod yw'r llythyrau a geir yn y gyfrol hon a chydnebydd y golygydd hynny yn y rhagymadrodd.

Y drwg yw, wrth gwrs, fod hynny yn effeithio ar y mwynhad, rhaid ichi fod yn aelod o'r cylch i wir fwynhau y gyfrol hon oherwydd y mae'n rhaid wrth gryn dipyn o wybodaeth gefndirol.

Y mae Mari Emlyn wedi rhagweld hynny a darparu nodiadau manwl ar y llythyrau a bu hynny yn fantais fawr i mi a byddai'n fwy na theg dweud y dylwn fod wedi darllen y gyfrol gyntaf yn ogystal.

Fe dybiais fod gennyf dipyn o wybodaeth am y Wladfa, wedi darllen llyfrau Bryn Williams pan yn blentyn ac wedi gwrando llawer arno yn dweud ei hanes gan ei fod ef a'i wraig yn gyfeillion i fy rhieni, yn wir, fe roedd tad Eunice yn gyfaill i'm taid.

Yr wyf wedi darllen cyfrolau eraill megis Yr Hirdaith gan Elvey MacDonald yn ogystal ond, yn anffodus, nid oedd gennyf ddigon o wybodaeth am deuluoedd y Wladfa i wir fwynhau'r gyfrol ac fe lwyddodd y gyfrol i lychwino rhamant y lle imi trwy danseilio darlun oedd gennyf o'i phobl fel pobl liwgar a diddorol.

Cwyno a hel achau

Hyd y gwelaf, eu dau hobi mawr yw cwyno a hel achau. Mae eu cwyn a'u gofid am barhad yr iaith yn yr Ariannin yn ddigon naturiol a da gweld eu bod yn gweithio yn ddyfal trosti. A maent yn llygad eu lle i ddweud na fydd yr iaith yn ddiogel yno hyd oni fyddant yn cynhyrchu eu hathrawon a'u gweinidogion eu hunain heb orfod eu mewnforio o Gymru.

A mae'n bosibl mai rhan o'u hiraeth am Gymru yw'r cwyno yn ogystal. Mae, ar dro, yn ddiddorol, mae'n dangos, er enghraifft, effeithiau ansefydlogrwydd gwleidyddol ar fywydau pobl go iawn a hynny mewn dull difyr, yn wir, yr oedd y Gwladfawyr yn ymddangos ar eu mwyaf byw pan yn trafod costau byw uchel a phrotestiadau sifil.

Ac eto, digon undonog yw bywyd ar un ystyr, cylch bach o bobl yn gogrdroi yn yr un rhigolau sydd yma ond diau bod hynny yn anochel gan mai am gymdeithas fechan yr ydym yn s么n wedi'r cwbl.

Mae'r hel achau hefyd yn ddealladwy, yn enwedig pan oedd disgynyddion teuluoedd yn dechrau anfon llythyrau at ei gilydd ond, y drwg yw, dim ond i'r teulu ei hun y mae achau yn ddiddorol ac fe ellid, mi dybiaf, fod wedi chwynnu mwy ar y manylu hwn.

Yn rhyfeddol

Y mae'r achydda yn ddealladwy mewn ffordd arall hefyd, y mae'n adlewyrchu ymdeimlad y bobl o berthyn, o fod yr un etifeddiaeth 芒 ni a gall fod yn ffordd o gyflwyno pobl i'w gilydd.

Y mae'n rhyfeddod, wrth gwrs, fod pobl yn dal i fedru cyfathrebu yn synhwyrol a disgynyddion pobl a adawodd Gymru dros ganrif yn 么l, mae'r parhad ar y cwlwm wedi bod yn anhygoel ac y mae'r gwaith o'i gadw yn amlwg yn llafur cariad i'r ddwy ochr a rhan o'r llafur cariad hwnnw yw gwaith y golygydd, oherwydd mae'r llyfr hwn yn fricsen bwysig yn y wal sydd yn noddi cysylltiad Cymru a'r Wladfa.

Mae yn noddi yr hyn sydd eisoes yn bodoli a gallasai esgor ar fwy. Y mae'n gwbl hawdd dychmygu rhywun yn darganfod perthynas coll trwy'r gyfrol ac yn dechrau gohebu 芒 hwy a diddorol oedd gweld i Mari Emlyn gynnwys ebyst a dulliau modern eraill o gyfathrebu.

Y mae i'w chanmol am ei phenderfyniad i wneud hynny.

Y syndod mwyaf un

A'r syndod mwyaf un efallai? Dro ar 么l tro, y mae'r gwladfawyr yn ymddiheuro am eu Cymraeg ysgrifenedig. Nid yw eu horgraff yn berffaith o le yn y byd a difyr yw gweld 么l Sbaeneg arni. Mae'n wir dweud, yn ogystal, fod olion arddull Fictoraidd yn amlwg ddigon ar y Gymraeg a ddefnyddiant ond yr hyn sydd yn synnu dyn yw cystal eu Cymraeg.

Dyma bobl sydd, at ei gilydd, nid yn unig yn medru treiglo a chyfrif yn gywir yn y Gymraeg ond yn medru ei defnyddio hi heb ei glastwreiddio a theithi 'r Saesneg.

Dyma Gymraeg cywirach a mwy naturiol Gymreig na Chymraeg aml i awdur a chyfryn-gi modern yng Nghymru!
Lona Jones


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.