主播大秀

Si芒n Melangell Dafydd - 'wedi creu clasur'

Sian Melangell Dafydd gyda Selwyn Iolen yn dilyn seremoni'r Fedal Ryddiaith

Rhagwelwyd y bydd nofel fuddugol cystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Y Bala yn dod yn un o glasuron llenyddiaeth Gymraeg.

Daeth y ganmoliaeth i nofel Si芒n Melangell Dafydd gan Sioned Williams yn ei hadolygu ar 主播大秀 Radio Cymru.

Nofel yn y person cyntaf yw Y Trydydd Peth sy'n ymwneud a pherthynas oes George Owens 90 oed ac Afon Dyfrdwy a'i gred ef mai ef a'i piau hi.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Wrth gael ei holi gan Iola Wyn am y nofel ar 主播大秀 Radio Cymru fore Sul, Awst 16, 2009, dywedodd Sioned Williams:

"Y peth mwyaf trawiadol oeddwn i'n teimlo am y gyfrol yma oedd ei bod yn waith mor ffres, mor fentrus. Ac mor anghyffredin - yn sicr o ran testun - ac yn grefftus, yn hynod o grefftus o ran ffurf ac iaith."

Yr union beth

Ychwanegodd ei bod yn enghraifft o'r union fath o lenyddiaeth ddylai ennill gwobrau fel y Fedal Ryddaith.

"Dwi'n teimlo ei bod yn wirioneddol anhygoel meddwl mai hon yw nofel gyntaf Si芒n Melangell Dafydd achos mae'n waith mor gywrain a chyhyrog o ran ei hiaith ac yn hollol hudolus a gwreiddiol o ran ei thestun," meddai gan fyd ymlaen i'w disgrifio fel "clasur".

"Rwy'n annog pawb i'w darllen hi achos mae'n mynd i fod yn glasur dwi'n meddwl yn un o weithiau mawr ein ll锚n."

Er nad yw'n nofel draddodiadol gyda dechrau twt, canol a diwedd dywedodd nad yw'n anodd ac yn astrus fel y byddai rhai yn tybio a hynny oherwydd bod "crefft yr awdures mor anhygoel".

Dywedodd fod yr holl haenau sydd yn y nofel "yn ymblethu'n un llif mawr cyfoethog o naratif".

Yn ysu

"Mae yn dipyn o stori. Mae yn stori [ ac ] roeddwn yn ysu am gael clywed mwy am George a'i afon. Mae'n nofel sydd wir yn cydio ynddo chi . Roeddwn i'n ffaelu rhoi hi lawr felly, yn hynny o beth, mae yn rial nofel," meddai.

Canmolodd gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith hefyd nid yn unig am roi bod i'r nofel hon ond am y nifer o lyfrau cystadleuaeth y llynedd s gyhoeddwyd a'r rheini ymhlith y llyfrau Cymraeg gorau i'w cyhoeddi yn ddiweddar.

"Ac mae'r ffaith fod awdur mor ddisglair a Si芒n Melangell Dafydd wedi cael cydnabyddiaeth yn profi gwerth y gystadleuaeth i'n diwylliant yn sicr."


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.