主播大秀

Sian Melangell Dafydd: Y Trydydd Peth

Rhan o glawr y llyfr

Adolygiad Kate Crockett o Y Trydydd Peth fan Si芒n Melangell Dafydd. Cyfrol Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2009. Gwasg Gomer. 拢6.99.

Rhaid cyfaddef fy mod wedi teimlo cryn gynnwrf o weld Si芒n Melangell Dafydd yn codi ar ei thraed yn y Pafiliwn i hawlio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau.

Clawr Y Trydydd Peth

Ar 么l clywed y disgrifiad o'r gwaith buddugol, ac awgrym gan y beirniad eu bod yn credu bod y gwaith yn seiliedig ar brofiad personol, roeddwn yn disgwyl gweld dyn mewn gwth o oedran yn cael ei anrhydeddu.

Ond na, pwy oedd yno ond awdur ifanc, un yr wyf yn ymwybodol ei bod yn ysgrifennu - a hynny o ddifrif, ac yn gweithio ar nofel Saesneg ar 么l derbyn grant gan yr Academi - ond un nad ydw i wedi darllen dim o'i gwaith erioed.

Ac o glywed canmoliaeth y beirniaid i'w gwaith, Y Trydydd Peth, roedd fy nisgwyliadau yn uchel iawn.

Casgliad o atgofion

Ymson hir yw'r gwaith hwn: casgliad o atgofion dyn 90 oed o'r enw George Owens, ac yn fframio'r cyfan mae ei berthynas ag Afon Dyfrdwy.

Cred yr henwr mai ef sydd biau'r afon, ac mae'r gred honno'n destun gwawd yn y gymdeithas leol. Ond mae George yn teimlo'n un 芒 Dyfrdwy ac fe 芒 ati i'w nofio ar ei hyd.

Wrth iddo ddilyn trywydd yr afon mae'r atgofion yn llifo'n 么l a thalp o hanes yn dod yn fyw. Efallai na chrwydrodd George ymhell ond mae ei adnabyddiaeth - ac wrth gwrs adnabyddiaeth yr awdur - o'r ardal yn ddiguro.

Ni allwn ond edmygu crefft Si芒n Melangell Dafydd wrth lunio'r gwaith hwn. Mae cyfoeth o wybodaeth yn llifo trwy atgofion George - am hanes, am natur, am yr afon ei hun, am gymunedau a hen arferion y dyffryn, ac am y cymeriadau lleol a'u hiaith - a'r cyfan wedi'i gyfleu yn gelfydd, yn llifo'n rhwydd fel yr afon ei hun.

Does fawr o linyn stor茂ol i'r gwaith heblaw am hanes bywyd George ei hun, a'r portread o'i briodas led anhapus gyda Nan. Hi sy'n gwmni iddo - y back-up vehicle - wrth iddo nofio'r afon a gallwn deimlo siom George wrth iddo ddod i ddeall nad yw ei wraig hyd yn oed yn credu mai ef yw gwir berchennog yr afon.

Nid Nan, ond merch a fu yn y Parc yn ystod y Rhyfel sy'n destun atgofion mwyaf tyner George ond, eto, ar y daith ar hyd yr afon mae Nan a George yn rhannu'r "pethau bychain sy'n gwneud bywyd yn haws rhwng g诺r a gwraig" - fel cytuno ar bwy oedd yn gwneud y sgonsen orau.

I mi, y portread credadwy hwn o'r briodas oedd un o uchelbwyntiau'r gwaith; hynny a sylweddoliad George ar 么l cyrraedd aber yr afon ar ddiwedd y daith:

"Na, dwi'n ddim byd sbesial ond rydw i'n berchen y Ddyfrdwy ac mae hynny'n rhywbeth."

Nid ar ruthr

Heb fawr o blot, dydy Y Trydydd Peth ddim yn llyfr i'w ddarllen ar ruthr, ac o'm safbwynt i roeddwn yn gweld eisiau'r elfen stor茂ol sy'n gwneud i mi awchu am droi'r tudalennau mewn nofel afaelgar.

Ond wedi dweud hynny, does dim dwywaith na ddaeth awdur talentog dros ben i'r amlwg gyda chyhoeddi'r gwaith hwn.

Darllenais y gyfrol yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac wrth ddilyn yr afon Ddyfrdwy wrth deithio yn 么l a 'mlaen rhwng Y Bala a'm llety yn Llangollen, roeddwn wedi dotio at ddychmygu George yn y d诺r gerllaw; ac rwy'n dal i ryfeddu at gamp yr awdur wrth blethu'r st么r yna o wybodaeth leol i greu cyfrol wreiddiol a chofiadwy.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.