主播大秀

Jerry Hunter- Gwenddydd. Barn Catrin Beard

Rhan o glawr y llyfr

18 Awst 2010

Fel cyfrol gynnes ac "annwyl iawn" y disgrifiodd Catrin Beard nofel fuddugol Medal Ryddiaith Eisteddfod Blaenau Gwent 2010.

Ond wrth bwyso a mesur y nofel ar Raglen Dewi Llwyd ar 主播大秀 Radio Cymru ddydd Sul Awst 15 2010 cyfaddefodd mai "yn betrus" yr aeth at y nofel Gwenddydd gan Jerry Hunter.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ofnai, meddai, y gallai fod yn "eithaf trwm" ac ychwanegodd i'w chalon suddo pan ddarllenodd y broliant pwysfawr.

"Ond mae gan Jerry Hunter arddull a chyffyrddiad ysgafn iawn, iawn," meddai o gael ei siomi ar yr ochr orau.

"Mae hon yn gyfrol gynnes . . . ac yn gyfrol annwyl iawn," meddai.

Dywedodd mai stori brawd a chwaer, plant gweinidog mewn pentref bach, sydd yn y nofel ond y stori yn neidio yn 么l a blaen rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a blynyddoedd y rhyfel ei hun pan yw'r brawd yn cael ei glwyfo'n ddrwg .

"Mae perthynas y brawd a chwaer yn agos tu hwnt . . . a da chi'n credu yn y berthynas," meddai.

Clawr y llyfr

Canmolodd ddisgrifiad yr awdur, heb lithro i ystrydebau, o'r gymdeithas glos Gymraeg hefyd a'i hagweddau at ryfel ac at grefydd.

Gwrthododd un feirniadaeth bod gormod o Saesneg yn y nofel gan ddweud na welai hynny'n broblem o gwbl..

Am y sgrifennu dywedodd na allai gredu "mai brodor o Cincinnati a ddysgodd Gymraeg ar gwrs haf" yw'r awdur a chanmolodd ei lwyddiant nid yn unig yn meistroli'r iaith ond yn treiddio i'r meddylfryd Cymraeg hefyd.

"Gyda hynny, mae ganddo stori sy'n gafael," meddai.

Cyfeiriodd hefyd at y neges fod rhyfel yr un mor ddif盲ol heddiw ag erioed.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.