主播大秀

Medal Americanwr

04 Awst 2010

Jerry Hunter

Y tramorwr cyntaf i ennill prif wobr lenyddol

Mae'r tramorwr cyntaf i ennill un o brif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu dod i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith heno.

Ond nid yw ennill gwobrau am sgrifennu yn y Gymraeg yn rhywbeth newydd i'r Americanwr Jerry Hunter - y mae eisoes wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Wrth gymharu'r ddwy fuddugoliaeth dywedodd:

"Wel, mae'r Steddfod yn Steddfod yn tydi. Prif 诺yl y genedl Gymreig ynde? Does yna ddim byd fel Steddfod o ran dathlu," meddai.

Ond ychwanegodd nad yw erioed wedi cystadlu yn yr Eisteddfod o'r blaen.

"Dwi wrth fy modd efo'r Stedddfod mae'n rhywbeth gwych am y Gymru Gymraeg ond rydw i wastad wedi cael cystadlu yn rhywbeth dipyn bach yn od ac nid yn rhywbeth naturiol i mi ond mae ffrindiau wedi bod yn fy annog i wneud a fy ngwraig [Judith Humphreys yr actores] - ond yr oeddwn i eisiau ei gadw mewn dr么r ac ond yn y diwedd, er mod i'n dal rhwng dau feddwl pan welais i mai Jim Jones oedd yr Archdderwydd - yr yda ni'n ffrindiau da ac mi [feddyliais] y byddai'n neis i weld o ar y llwyfan ac felly dyma fi'n i mentro hi! " meddai.

Ond nid nofel a sgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth anfonodd i mewn ond un wedi ei gorffen cynt.

"Ond roeddwn i'n gweld bod y testun y gweddu," meddai ac yn gyfle hefyd i wneud gwaith ailwampio ar y drafft cyntaf.

Ond er nad oedd wedi cystadlu o'r blaen dywedodd ei fod wedi sgrifennu llawer o bethau creadigol na welodd olau dydd fel ffordd o ymlacio wedi gorffen ei waith academaidd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

"Dwi di sgwennu llawer iawn o bethau creadigol ers blynyddoedd ond heb eu cyhoeddi nes imi gyhoeddi nofel i blant yn ddiweddar.

"Ond sgwennu i mi fy hun oeddwn i. I fwynhau ac i ymalcio ar 么l aros i fyny tan berfeddion nos yn sgwennu rhyw ddarlith neu rhyw erthygl academaidd.

"Mae'n braf weindio'i lawr efo rhywbeth fel hyn. Mae'n hwyl ac mae'n braf ddim gorfod poeni gormod am y ffeithiau ac 么l nodiadau a rhyw bethau diflas fel'na," meddai.

"Sgwennu o ran pleser i mi fy hun oeddwn i nid i blesio neb arall," meddai.

Gyda'i nofel fuddugol wedi ei lleoli yn ystod yr ail Ryfel byd dywedodd iddo fedru manteisio ar ddyddiaduron ei ddiweddar fam yng nghyfraith, Jane Humphreys, a oedd yn nyrs ar y pryd, ar gyfer y cefndir ond prysurodd i ddweud nad yw'r cymeriad Gwen yn y nofel wedi ei seilio arni hi.

"Ond yr oedd darllen ei dyddiadur yn fodd imi agos谩u at y profiad hanesyddol felly roedd yn help aruthrol," meddai.

Yngl欧n 芒'r elfen ganoloesol yn y nofel o ran tarddiad dywedodd:

"Mae gan lenyddiaeth ganoloesol sawl ffordd o drafod be da ni'n i alw heddiw yn shell shock neu post traumatic stress. Yn niwedd chwedl Branwen mae milwyr yn mynd i anghofio am yr hyn sydd wedi digwydd a'r stori am Myrddin Wyllt yn mynd yn wallgof a rhedeg i ffwrdd.

A beth oeddwn i'n drio'i wneud oedd cyfuno'r stori honno a stori mwy diweddar brawd a chwaer yn ystod yr Ail Ryfel Byd," meddai.

"Ac ar 么l dechrau sgwennu roeddwn yn gweld mai stori am frawd a chwaer yw hi yn anad dim - perthynas sydd ddim yn cael sylw gymaint gan awduron," ychwanegodd.

"Yr ydym yn s么n o hyd am bobl sy'n dioddef yn sgil y rhyfel yn Irac neu Affganistan ond yn anad dim mae'r nofel am berthynas brawd a chwaer a sut yr effeithir ar berthynas o'r fath yna a'i gweddnewid oherwydd rhyfe," meddai.

Ac yngl欧n ag ymateb ei deulu yn yr America i'w lwyddiannau yng Nghymru dywedodd gan chwerthin: "Maen nhw'n dechrau arfer efo'r holl bethau rhyfedd dwi'n wneud yma yng Nghymru!"

Jerry Hunter yn trafod gyda'r Wasg

Y feirniadaeth

Meddai o'r llwyfan Elfyn Pritchard yn traddodi ar ran ei gydfeirniaid, John Gruffydd Jones a Caryl Lewis:

"Y Gwenddydd yn y teitl yw chwaer Myrddin, y gwr a ddihangodd, yn 么l y chwedl, wedi brwydr Arfderydd yn y flwyddyn 573 ac a dreuliodd weddill ei oes yn byw yn wyllt yng Nghoed Cerlyddon.

"Yr hyn a wnaeth yr awdur oedd rhoi gwisg led fodern i'r chwedl gan mai'r cyfnod yw'r Ail Ryfel Byd ac mae'n ddarlun o broblem oesol milwyr a'u teuluoedd, ac yn ddarlun arbennig o adwaith pobl i erchyllterau rhyfel gan ddwyn allan y gore neu'r gwaethaf ym mhawb.

"Nofel ydyw am berthynas brawd a chwaer, pant y mans, Robert, sy'n filwr a glwyfwyd yn y rhyfel a Gwen sy'n nyrs mewn ysbyty milwrol.

"Mae'r modd y darluniwyd y cymeriade hyn a'r berthynas rhyngddyn nhw, ynghyd a'r datblygiad araf pwrpasool yn y nofel yn uchafbwynt y gystadleuaeth.

"Mae yna ysgrifennu cyhyrog a rhai golygfeydd iasol o gofiadwy.

"Y mae hi hefyd ar ganol testun y gystadleuaeth - Adfywiad.

"Mae'r tri ohonom, i fwy neu llai gradde, yn credu y bydde gwybod stori Myrddin - a hanes Nebuchadnesar hefyd o ran hynny - yn rhoi dimensiwn arall i'r darllenydd ac yn dyfnhau profiad wrth fynd drwy'r nofel hon, ond nad yw'n gwbl angenrheidiol gan ei bod yn sefyll ar ei thraed ei hun.

"Nid yw heb ambell wendid, sef peth ysgrifennu llac ac yn y fersiwn a ddaeth i'r gystadleuaeth mae yna or ddefnydd o'r saesneg, nid yn y rhanne o ymson lle mae pwrpas iddo, ond yn y ddeialog.

"Gall darllenydd dderbyn bod person neu bersone yn siarad Saesneg heb ddefnyddio ond awgrym i gyfleu'r iaith.

"Ond mae ei rhagoriaethe yn llwyr orbwyso unrhyw wendide sydd ynddi ac yn ein trafodaeth fe gadarnhawyd barn y tri ohonom fel unigolion fod Gwenddydd gan M. W. nid yn unig yn orau'r gystadleuaeth, ond yn llawn deilyngu medal ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd."


Blogiau 主播大秀 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.