主播大秀

Gareth William Jones

Gareth William Jones

Holi awdur Mewnwr a Maswr

  • Enw:
    Gareth William Jones.


  • Beth yw eich gwaith?
    Wedi ymddeol ac yn mwynhau ysgrifennu ar gyfer plant.


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Athro; Trefnydd gweithgareddau diwylliannol; Swyddog Celfyddydau mewn addysg; Darlithydd yng Ngholeg y Drindod.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Bethesda, Dyffryn Ogwen.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Bow Street Ceredigion.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Mi wnes i fwynhau Ysgol Dyffryn Ogwen yn fawr iawn oherwydd roedd athrawon arbennig yno. Ac mi wnes i fwynhau fy addysg yng Ngholeg y Drindod yn fawr iawn oherwydd mi wnes i ffrindiau am oes ac mi ges i wraig yno.


  • A wnewch chi ddweud ychydig am eich llyfrau?
    Hyd yma cyhoeddais naw llyfr i blant. Llyfr ffeithiol oedd y cyntaf yn rhoi gwybodaeth am awduron llyfrau plant.

    Ysgrifennais saith nofel yn y gyfres Mewnwr a Maswr sef nofelau am anturiaethau efeilliaid sy'n hoff o rygbi a chyhoeddais Caru Nodyn sef nofel am ferch sy'n dod i garu'r piano oherwydd cath o'r enw Nodyn.


  • Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
    Ysgrifennu nofel am blentyn yn chwarae golff a gyhoeddir y flwyddyn nesaf i gyd-fynd a chwpan Ryder. Ac mae gen i nifer o syniadau eraill am nofelau i blant yn cyniwair yn y meddwl.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Llyfr o'r enw Dyddiau Ysgol gan J.M. Edwards sef detholion o waith Daniel Owen.


  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?
    Mae o'n dal ar y silff ond erbyn hyn rydw i'n gallu darllen y gwreiddiol!


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Islwyn Ffowc Elis yn y Gymraeg ac Ian McEwan yn Saesneg.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Mae rhannau o Un Nos Ola Leuad yn dal i wneud imi grio. Gadawodd Brave New World, Aldous Huxley argraff ddofn arna'i.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    T H Parry-Williams.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    T欧'r Ysgol.


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    Dymor hud a miri haf
    Tyrd eto i'r oed ataf.
    Williams Parry.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Apocolypse Now a Y Clwb Rygbi.


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Brutus yn y ddrama Julius Caeser a Iago yn y ddrama Othello.


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Bu^m edifar fil o weithiau
    Am lefaru gormod geiriau.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Iawn


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Canu'r piano yn dda.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Byrbwyll;
    Di-amynedd;
    Cymwynasgar.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Y ffaith fy mod i wedi cael cyflwr o'r enw Wegener's Granulomatosis.


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
    William Shakespeare am ei allu athrylithgar.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Bod yn bresennol mewn cyfarfod o Senedd Owain Glynd诺r.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
    William Shakespeare; Ai chi ysgrifennodd pob un o'r dram芒u a gyhoeddwyd yn eich enw?


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    O Bow Street i'r Borth am fy mod i yn mynd yno i chwarae golff.


  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
    Cinio dydd Sul fy ngwraig - cyw i芒r neu gig eidion.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Garddio, mae gen i glamp o d欧 gwydr. Chwarae golff a chwarae gyda'r wyrion.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Glas.


  • Pa liw yw eich byd?
    Glas.


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Bod rhaid dysgu Cymraeg os ydych chi'n byw yng Nghymru.


  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
    Oes. Lyfr am blentyn yn chwarae golff.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Edrychodd allan o'r ffenest a gwelodd y peth rhyfeddaf a welodd erioed.

Mehefin 2009


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.