主播大秀

Gareth William Jones - diwedd Mewnwr a Maswr

Rhan o glawr y llyfr

Mae cyfres o lyfrau a fu'n hynod o bblogaidd dros y pum mlynedd diwethaf am anturiaethau dau chwaraewr rygbi wedi ei dirwyn i ben.

Myrddin ap Dafydd oedd oedd awdur y llyfr cyntaf yn y gyfres Mewnwr a Maswr ond pasiodd y b锚l i Gareth William Jones a sgrifennodd y saith llyfr arall ar gyfer plant 10 i 12 oed.

Newydd ei chyhoeddi mae'r wythfed nofel - a'r olaf - Gwisgo'r Crys Coch.

Mae'r gyfres yn dilyn helyntion dau frawd yn eu harddegau, Llion a Ll欧r, ar y meysydd rygbi a'u ffrindiau sy'n cael eu hyfforddi gan dad y ddau, Ifor Madog.

Cyhoeddir y gyfres gan Wasg Carreg Gwalch "Myrddin ap Dafydd gafodd y syniad am y gyfres yn y lle cyntaf a Myrddin ysgrifennodd y gyntaf sef Brwydr y Brodyr a gyhoeddwyd ym mis Mai 2004," meddai Gareth William Jones sy'n byw yn Bow Street ger Aberystwyth.

"Er mai rhoi difyrrwch gyda helyntion anturus yw prif amcan y nofelau, wrth gwrs, dwi hefyd wedi gyflwyno ambell i thema i'r darllenwyr ifanc gnoi cil arnynt," ychwanegodd. Yn Dau Ddewis er enghraifft - y nofel gyntaf iddo ei hysgrifennu - rhaid i'r bechgyn ddewis rhwng eu teyrngarwch i'w cyfeillion a'u huchelgais personol.

"Yn y nesaf, Siom, Syndod a Sws rwy'n trafod wynebu siom a delio 芒'r siom honno," meddai.

"Wedyn, yn T芒n ar Groen bwlio drwy ff么n symudol oedd y thema ac yn Ffrainc Amdani dyletswydd tuag at rieni ydi'r thema," meddai.

Yn y nofel olaf, Gwisgo'r Crys Coch yn ogystal a chyflwyno doniolwch a hwyl chwarae rygbi mae'n trafod cadw cyfrinach a'r pwysau mae hynny'n ei achosi.

"Mi fydd hi'n chwith troi cefn ar Llion a Ll欧r a'u ffrindiau, Tractor, Milgi a Combein ac mae hi'n biti meddwl na chawn ni byth wybod os bydd carwriaeth Llion ac Angharad na charwriaeth Ll欧r a Megan yn blodeuo ond mae'n bryd symud ymlaen," meddai.

Cyn y Nadolig cyhoeddodd nofel i ferched, Caru Nodyn y bu ymateb rhyfeddol iddi meddai gyda llythyrau gwerthfawrogol oddi wrth ddarllenwyr ifanc.

"Ac yn wyneb y llwyddiant hwn hoffwn sgrifennu nofel debyg iddi eto yn y dyfodol - ond y prosiect nesaf yw nofel am blentyn yn chwarae golff!" meddai.

Dywedodd Gei fod yn gobeithio cyhoeddi honno mewn pryd i ddathlu dyfodiad Cwpan Ryder i Gymru.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.