主播大秀

Sian Owen - awdur M芒n Esgyrn

Sian Owen

16 Tachwedd 2009

  • Enw:
    Sian Owen.


  • Beth yw eich gwaith?

    Cyfieithu a golygu, a bod yn fam i dri o blant yn eu harddegau


  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Cynhyrchydd radio, golygydd llyfrau gwyddonol i CBAC.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Cefais fy ngeni yn Llanuwchllyn, ond symudodd y teulu i Sir F么n pan oeddwn yn bump oed.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Marian-glas, ym M么n.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Rydw i ar ganol PhD felly rwy'n dal i'w fwynhau! Ddylai neb roi'r gorau i ddysgu.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
    Awydd gweld fedrwn i.


  • Wnewch chi ddweud ychydig amdano?
    Stori gyfoes am Carol, gwerthwr tai 39 oed, sy'n symud yn 么l i'r dref lle cafodd ei magu ym M么n. Yno mae'n ailgwrdd 芒 Helen sy'n gweithio yn y gwaith cemegol lleol, a Luc, archeolegydd.

    Mae'r stori yn digwydd dros un penwythnos ar ddechrau'r haf, gyda digwyddiadau G诺yl y Llychlynwyr yn y dref yn gefndir i'r cyfan. Yn ystod y tridiau rydych chi'n dod i adnabod y cymeriadau, eu teuluoedd, eu perthynas 芒'i gilydd, ac i ddeall y gorgyffwrdd rhwng ddoe a heddiw. Nid yr hyn a dybiwn ar yr olwg gyntaf yw'r gwirionedd, bob tro...


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Dyma fy nofel gyntaf.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr yn blentyn?
    Roeddwn i'n llyncu llyfrau. Llyfrau'r Famous Five, Swallows and Amazons, Deg i Dragwyddoldeb, Cyfres y Llewod...


  • A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
    Byth.


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Anodd iawn! Mae'n dibynnu ar fy hwyliau. Umberto Eco, Annie Proulx, Richard Feynman, Michael Connolly...


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Mi wnaeth fy mam gyhoeddi dwy nofel i blant, ers talwm iawn. Roedd hynny'n gwneud ysgrifennu llyfr yn bosibilrwydd real i minnau, erioed.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    Beirdd t卯m y Tir Mawr ar Y Talwrn.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Mae hynny fel gofyn pa un yw eich hoff blentyn!


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    What is this life if, full of care, We have no time to stand and stare - W.H. Davies.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Ffilm: Little Miss Sunshine.
    Rhaglen deledu: House, West Wing, Rownd a Rownd (achos bod fy mab yn actio ynddi!)


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Hoff gymeriad: Jean, y ffotograffydd yn The Weight of Water, Anita Shreve
    Cas gymeriad: unrhyw gymeriad sydd wedi'i sgwennu'n arwynebol, fel na alla' i gredu ynddo neu ynddi.


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Deuparth gwaith...


  • Pa un yw eich hoff air?
    Rhyngom.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Paentio portreadau efo paent olew trwchus fel Lucien Freud.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Chwilfrydig, penderfynol, triw.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Bod angen her newydd o hyd.


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
    Yr hen beirianwyr - y rhai gododd y cestyll a'r eglwysi cadeiriol, y pyramidiau a chaerau'r Astec heb gymorth peiriannau modern.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Ar y cwrt sboncen lle digwyddodd yr adwaith cadwynol niwclear dan reolaeth cyntaf erioed, yn Chicago yn 1942.


  • Pa berson 'hanesyddol' hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
    Ferr脿n Adri谩, perchennog bwyty enwog el Bulli ar gyrion Barcelona. Mae'n rhaid trefnu flynyddoedd ymlaen llaw yno, felly mi fuaswn yn gofyn: Pl卯s ga' i fwrdd?


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Croesi unrhyw draeth. Dwi'n gallu meddwl dan gerdded ac mae s诺n y d诺r yn llawn syniadau.


  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
    Pasta bwyd m么r a rioja da.


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Darllen, coginio, crwydro.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Coch.


  • Pa liw yw eich byd?
    Niwtral efo fflachiadau lliwgar.


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Deddf ymfalch茂o yn y pethau bychain mewn bywyd.


  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
    Oes.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Sylweddolodd Tina mai'r hysgi oedd wedi'i deffro, ei dafod yn arw ar ei boch, ac wrth chwilio'r eira am weddill ei ch诺n, diolchodd yn dawel iddo: uwchben, o'r diwedd, roedd y rhyfeddod y teithiodd mor bell i'w weld.
    [Er mwyn i mi gael esgus i fynd i weld yr aurora borealis, o ran ymchwil wrth gwrs...]

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.