主播大秀

Rhan o glawr Man Esgyrn

16 Tachwedd 2009

Mae nofel a gafodd ganmoliaeth uchel yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 yn awr wedi ei chyhoeddi.

Yr oedd Sian Owen, cyfieithydd o Ynys M么n, wedi anfon ei nofel M芒n Esgyrn i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen lle gwnaeth gryn argraff ar y beirniaid.

Disgrifiodd un ohonynt, Geraint Vaughan Jones, yr awdur fel "arddulliwr gorau'r gystadleuaeth" gan ddweud:

"Mae ei gallu i lunio cymariaethau ffres a dychmygus yn rhywbeth i ryfeddu ato."

Anallu i ddatblygu cymeriadau oedd ei hunig wendid yn ei olwg ef.

Yn ail

Yr oedd y ddau feirniaid arall, John Rowlands a Rhiannon Lloyd, yr un mor ganmoliaethus wrth osod M芒n Esgyrn yn ail yn y gystadleuaeth gan roi'r argraff pe na byddai un nofel well fyth yn y gystadleuaeth y byddai gwaith Sian Owen wedi ei wobrwyo.

"Mae gan y nofelydd ddawn dweud o'r radd flaenaf . . . ac y mae gloywder y mynegiant yn rhoi pleser anghyffredin," meddai Rhiannon Lloyd.

Rhoi gwir her

Disgrifiodd John Rowlands hi fel "awdur amlochrog ac uchelgeisiol sy'n rhoi gwir her i'r darllenydd".

"Mae'r mynegiant yn goeth ac yn llawn disgrifiadau mirain sy'n ymylu ar farddoniaeth yn aml," meddai.

Fodd bynnag, gwelai eisiau yr hyn a alwodd yn "llinyn arian thematig" i uno'r cyfan.

Yn awr bydd modd i ddarllenwyr gymharu'r nofel a ddaeth yn ail gydag Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd a gipiodd y wobr.

Honno yn nofel y mae ymateb cymysg iddi ar lawr gwlad ond yr adolygwyr yn eithaf unfryd am ei rhagoriaethau er i Elin Llwyd Morgan yn Barn fynd cyn belled a dweud mai'r peth gorau amdani iddi hi yw y clawr!.

Ysgafn ei chyffyrddiad

Un arall fu'n canmol M芒n Esgyrn yw Angharad Price, un o enillwyr mwyaf nodedig cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd bod M芒n Esgyrn "Mor sicr . . . ei chrefft, ac mor ysgafn ei chyffyrddiad, ni ellir ond rhyfeddu mai hon yw nofel gyntaf Sian Owen."

Dywedodd i'r awdur lunio tapestri coeth o'r "edefynnau sy'n dal pobl ynghlwm wrth ei gilydd ac wrth eu hamgylchfyd."

Mae'r nofel yn troi o amgylch dychweliad merch 39 oed, Carol, i fro ei mebyd.

Ardal Amlwch ar Ynys M么n ydi'r lleoliad gyda digwyddiadau G诺yl y Llychlynwyr yn y dref yn gefndir i'r nofel sy'n ymwneud 芒 pherthynas pobl 芒'i gilydd wrth iddi ddod yn amlwg nad yr hyn a dybiwn ar yr olwg gyntaf yw'r gwirionedd, bob tro.

"Nid oes dim yn amlwg na syml yn eu hanes," meddir.

Cyhoeddir M芒n Esgyrn gan Wasg Gomer. 拢7.99

  • I gyd-fynd 芒 chyhoeddi'r nofel bu Sian Owen yn ateb Holiadur 'Cylchgrawn'.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.