主播大秀

Waldo Williams - argraffiad newydd o 'Dail Pren'

20 Ionawr 2011

Hanner cant a phedair o flynyddoedd ers cyhoeddi unig gasgliad o farddoniaeth Waldo Williams mae Gwasg Gomer wedi paratoi argraffiad cain newydd o Dail Pren

.

Mae'n wybyddus i Waldo Williams fod yn amharod iawn i gyhoeddi casgliad o'i gerddi ei hun a dim ond ar 么l dwyn cryn bersw芒d arno y gwelodd y gyfrol olau dydd yn 1956.

Mae'r amgylchiadau yngl欧n 芒 hynny yn cael sylw yng nghyfrol newydd ddwyieithog Alan Llwyd, Stori Waldo Williams Bardd Heddwch .

Clawr Dail Pren

Y mae i Dail Pren ap锚l arbennig i garwyr barddoniaeth Gymraeg.

Bardd poblogaidd

Yn ystod fy nghyfnod gyda phapur newydd Y Cymro un o'm gorchwylion oedd cael atebion i un o'r holiaduron bondigrybwyll yna a anfonir i bobl yn eu holi am eu hoff awdur, hoff fardd, hoff linell o farddoniaeth ac yn yblaen.

Daeth yn amlwg yn fuan iawn mai'r enw a fyddai'n cael ei gynnig fynychaf wrth holi am fardd neu linell o farddoniaeth fyddai un Waldo Williams.

Ar sail y dystiolaeth cwbl anwyddonol honno gellir dweud fod Waldo Williams yn un o'n beirdd mwyaf poblogaidd - ac fe ddywed y beirniaid llenyddol ei fod yn un o'n beirdd mwyaf hefyd. Os nad y mwyaf.

Mae'n werth darllen beth sydd gan Alan Llwyd i'w ddweud amdano er mwyn gweld pam.

Cynnig ateb

Mae Mererid Hopwood hefyd yn cynnig ateb i "cyfrinach ap锚l Dail Pren".

". . . i mi, un o'r atebion heb os, yw grym diffuantrwydd y canu," meddai gan ein cymell i ddarllen y gyfrol "o glawr i glawr" yn hytrach na phigo yma ac acw fel mae rhywun yn tueddu i'w wneud gyda chyfrolau barddoniaeth.

Mae'n garedig 芒 ninnau llai yn crebwyll yn cyfaddef hefyd nad yw yn "deall y cwbl sydd gan Waldo i'w ddweud" ond ei bod yn credu; "o adael i'w eiriau ef siarad yn y clyw ac yn y galon, ei bod hi'n bosib amgyffred y neges."

Ychwanega: "Mae'r taerineb sydd ym mhob llinell yn ein cario ni gydag ef ac yn ein galluogi ni i ddirnad ei weledigaeth."

Ysgrif, yn hytrach na beirniadaeth lenyddol yw ei rhagymadrodd hi lle mae'n cyfaddef bod "treulio awr fach yng nghwmni awdur Dail Pren yn codi ysbryd y ddarllenwraig hon o leiaf".

Y teitl

A beth am y teitl yna, Dail Pren?

Mae Alan Llwyd yn ei lyfr ef yn cyfeirio at lyfr Edward Carpenter, The Healing of Nations and the Hidden Sources of their Strife y byddai teulu Waldo yn gyfarwydd iawn ag ef ac meddai Alan Llwyd:

"Ceir yr ymadrodd 'i iachau y cenhedloedd' yn Llyfr y Datguddiad (22:2), a chaiff yr adnod berthnasol ei dyfynnu'n rhannol ar ddechrau llyfr Carpenter: 'a dail pren oedd i iachau y cenhedloedd'. Arhosodd yr ymadrodd gyda Waldo drwy'i holl fywyd, gan roi iddo, yn y pen draw (ynghyd 芒 sylw gan John Keats), y teitl i'w unig gasgliad o gerddi . . .

"Gobeithiai Waldo Williams hefyd y gallai ei farddoniaeth fod yn fodd i iachau ei genedl, yn rhannol o leiaf os nad yn gyfan gwbl," meddai gan ddyfynnu Waldo yn dweud wedi ei chyhoedd:

"Gobeithiaf y bydd Dail Pren yn gymorth ymarferol i'm cenedl yn nryswch yr oes hon."

A go brin, hyd yn oed heddiw, i'r dryswch hwnnw ddiflannu gan wneud Dail Pren yr un mor berthnasol hanner can mlynedd yn ddiweddarach ag oedd y cyfnod y mae Alan Llwyd a Mererid Hopwood yn cyfeirio ato. Glyn Evans

  • Cyhoeddir Dail Pren - cerddi Waldo Williams gan Wasg Gomer. 拢7.99.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.