主播大秀

Llyfr y Flwyddyn 2010 - rhestr fer

Rhan o gloriau'r tri llyfr

07 Mehefin 2010

Cyfrol o farddoniaeth, nofel a llyfr taith sydd wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2010.

Mewn seremoni yng Ng诺yl y Gelli cyhoeddwyd mai Banerog gan Hywel Griffiths, Naw Mis gan Caryl Lewis a Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn Marw gan John Davies ydi'r tair ar y rhestr fer yn Gymraeg.

Y tri beirniad ydi John Gwilym Jones, Aled Lewis Evans a Branwen Gwyn.

Y llyfrau

  • Banerog gan Hywel Griffiths (Y Lolfa) Detholiad o gerddi caeth a rhydd gan y bardd a'r ymgyrchydd gwleidyddol, Hywel Griffiths. Mae'r gyfrol yn cynnwys cerdd fuddugol y Goron a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008. Mae'r pynciau'n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru.

  • Naw Mis gan Caryl Lewis ( Y Lolfa) Mae'n cymryd naw mis i greu bywyd newydd ond cymer naw mis hefyd i berson farw ... Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a'i chymuned. Dyma nawfed nofel yr awdures a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda'i chyfrol Martha, Jac a Sianco.

  • Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw gan John Davies (Y Lolfa) Cyfrol gynhwysfawr sy'n s么n am 100 o lefydd yng Nghymru y mae'n rhaid i chi ymweld 芒 nhw, yn 么l yr hanesydd John Davies. Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, dyma lyfr sy'n rhoi cipolwg ar safleoedd hanesyddol fel Pentre Ifan a chastell Maenorb欧r; campau peirianyddol fel pontydd Menai a Phont Cysyllte, a chanolfannau twristaidd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen a Phortmeirion.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.