主播大秀

Llyfr y Flwyddyn - rhestr hir 2010

Yr awduron Cymraeg oedd yn bresennol noson cyhoeddi'r rhestr hir. Eu henwau ar ddiwedd y stori

20 Ebrill 2010

Mae pum nofel ar restr hir Llyfr y Flwyddyn 2010 a hefyd gasgliad o straeon meicrio a darnau amrywiol gan y nofelwraig Manon Rhys.

Ond dim ond un o brif nofelau Eisteddfod Genedlaethol Y Bala sydd wedi ei chynnwys, nofel y Fedal Ryddiaith Y Trydydd Peth gan Sian Melangell Dafydd gyda nofel Gwobr Goffa Daniel Owen, Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd heb blesio'r panel dewiswyr ddigon.

Dau gasgliad o farddoniaeth sydd ar y rhestr.

Ar y rhestr hefyd mae cyfrol fawreddog y Dr John Davies a Marian Delyth, Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn Marw.

Barn y beirniaid

Cyhoeddwyd dewis y tri beirniad, John Gwilym Jones, Aled Lewis Evans a Branwen Gwyn, mewn digwyddiad yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor, ar nos Fawrth Ebrill 20 mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Wrth gyhoeddi'r rhestr dywedodd Aled Lewis Evans:

"Credaf fod y Deg Uchaf eleni yn groestoriad arbennig o'r holl rychwant o lyfrau Cymraeg sydd ar gael bellach, gyda bri arbennig ar ryddiaith doreithiog eleni.

"Gwelwn yma gyfrolau coeth eu mynegiant a chyfoes eu sefyllfaoedd. Hefyd barddoniaeth gaeth a rhydd, a llyfrau ffeithiol difyr ag 么l ymchwil trwyadl arnynt. Credaf y gallwn ymfalch茂o yn y Deg Uchaf eleni, a mwynhau a sawru safon bob un o'r cyfrolau."

Dyma'r rhestr gyflawn gyda nodiadau yr Academi am y llyfrau:

  • Banerog gan Hywel Griffiths (Y Lolfa) Detholiad o gerddi caeth a rhydd gan y bardd a'r ymgyrchydd gwleidyddol, Hywel Griffiths. Mae'r gyfrol yn cynnwys cerdd fuddugol y Goron a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008. Mae'r pynciau'n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru.
  • Cornel Aur gan Manon Rhys (Gwasg Gomer). Casgliad o straeon, cerddi a ll锚n meicro. Dyma gyfrol hirddisgwyliedig, annisgwyl Manon Rhys, awdur Cwtsho, Cysgodion, Tridiau ac Angladd Cocrotshen, Y Palmant Aur, ynghyd 芒'r nofel Rara Avis a gyrhaeddodd Restr Fer Llyfr y Flwyddyn, 2006.
  • Cymer y Seren gan Cefin Roberts (Gwasg Gwynedd) Nofel ddirgelwch i oedolion. Trwy gyfres o ddigwyddiadau cyffrous, aiff Cefin Roberts 芒 ni o bentref bach tawel yn Arfon i un o ddinasoedd llawn rhamant yr Eidal. Mae Emrys Pritchard wedi bod yn ei feio'i hun byth ers diflaniad ei unig ferch, Mari Lisa - cannwyll ei lygad - ac mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth iddo ar 么l i Carys, ei wraig, ei adael.
  • Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw gan John Davies (Y Lolfa) Cyfrol gynhwysfawr sy'n s么n am 100 o lefydd yng Nghymru y mae'n rhaid i chi ymweld 芒 nhw, yn 么l yr hanesydd John Davies. Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, dyma lyfr sy'n rhoi cipolwg ar safleoedd hanesyddol fel Pentre Ifan a chastell Maenorb欧r; campau peirianyddol fel pontydd Menai a Phont Cysyllte, a chanolfannau twristaidd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen a Phortmeirion.
  • Fel Aderyn gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa) Nofel sy'n dilyn hynt a helynt Mina a'i theulu yn ystod yr ugeinfed ganrif. Cawn hanes ei mam a'r modd y collodd ei g诺r yn yr Ail Ryfel Byd. Cawn hefyd stori Sybil, sy'n dod yn feichiog yn dilyn perthynas gydag athro, yn ogystal 芒 Leusa, merch i bysgotwr, sy'n cael bywyd caled ar 么l cael ei cham-drin gan ei thad. Nofel gofiadwy wedi'i lleoli yn ardal Tywyn/Aberdyfi.
  • Lewis Edwards gan D. Densil Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru) Astudiaeth gynhwysfawr o waith Lewis Edwards (1809-87), pennaf ysgolhaig Cymru'r bedwaredd ganrif bymtheg ac un a gododd safonau y Gymru Ymneilltuol a'u gosod ar seiliau dysg rhyngwladol. Yn Fethodist Calfinaidd o ran ei fagwraeth a'i argyhoeddiadau, yfodd yn ddwfn o dduwioldeb ei gyfnod.
  • Llwybrau gan Haf Llewelyn (Cyhoeddiadau Barddas) Cyfrol cyntaf y bardd o Ardudwy, Haf Llewelyn. Casgliad o gerddi ar destunau amrywiol a geir yn y gyfrol gyda llawer ohonynt yn rhai personol sydd wedi'u dylanwadu gan hanes a daearyddiaeth y gymdeithas amaethyddol lle'i magwyd.
  • M芒n Esgyrn gan Sian Owen (Gwasg Gomer) Nofel a dderbyniodd glod uchel yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen 2009. Nofel afaelgar, grefftus am ddiffyg cyfathrebu. Stori gyfoes am Carol, gwerthwr tai 39 oed sy'n dychwelyd i'r dref lle cafodd ei magu. Yno mae'n ailgyfarfod 芒 Helen sy'n gweithio yn y gwaith cemegol lleol, a Luc, archeolegydd.
  • Naw Mis gan Caryl Lewis ( Y Lolfa) Mae'n cymryd naw mis i greu bywyd newydd ond cymer naw mis hefyd i berson farw ... Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a'i chymuned. Dyma nawfed nofel yr awdures a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda'i chyfrol Martha, Jac a Sianco.
  • Y Trydydd Peth gan Si芒n Melangell Dafydd (Gwasg Gomer) Mae George Owens yn 90 oed ac yn myfyrio ar natur d诺r: ar yr H a'r O, ond hefyd ar y "trydydd peth" annirnad hwnnw sy'n gwneud d诺r yn dd诺r. A dyma olrhain hanes perthynas George ag enghraifft benodol o'r elfen honno, sef afon fawr ei gynefin, afon Dyfrdwy. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, 2009.

Y cam nesaf fydd cyhoeddi Rhestr Fer o dri theitl yng Ng诺yl y Gelli ddydd Sul 6 Mehefin 2010 wedyn bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2010 nos Fercher Mehefin 30 am 1900 yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Yr un noson cyhoeddir dewis y bobl o'u hoff lyfrau hwythau o blith y deg yn dilyn pleidlais gyhoeddus gyda thlws Golwg 360 yn cael ei gyflwyno i'r enillydd.

Y Rhestr Hir Saesneg

  • Cyhoeddwyd hefyd y rhestr hir o ddeg llyfr Saesneg y gystadleuaeth.
  • A Single Swallow gan Horatio Clare (Chatto & Windus)
  • Self-Portrait as Ruth gan Jasmine Donahaye (Salt Publishing)
  • I Spy Pinhole Eye gan Philip Gross (Cinnamon Press)
  • The Woman at the Window gan Emyr Humphreys (Seren)
  • The Meaning of Pictures gan Peter Lord (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Pocket Notebook gan Mike Thomas (Heinemann)
  • The Compilation of the Four Branches of the Mabinogi gan Nikolai Tolstoy (The Edwin Mellen Press)
  • The Songbird is Singing gan Alun Trevor (Parthian)
  • Wan-Hu's Flying Chair gan Richard Marggraf Turley (Salt Publishing)
  • Carry Me 主播大秀 gan Terri Wiltshire (Macmillan)
Y tri beirniad: John Gwilym Jones. Branwen Gwyn ac Aled Lewis Evans

  • Yn y prif lun: Yr awduron Cymraeg oedd yn bresennol noson cyhoeddi'r Rhestr Hir. John Davies, Caryl Lewis, Manon Rhys, Densil Morgan, Haf Llewelyn, Cefin Roberts, Sian Owen, Manon Steffan Ros.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.