主播大秀

Cant - 100 - adolygiad Iwan Edgar

Ymarfer ar gyfer y ddrama

10 Tachwedd 2010

  • Adolygiad Iwan Edgar o 100 Cant - addasiad Elin Jones o waith Neil Monaghan a Christopher Heimann. Theatr Bara Caws, Pwllheli, Tachwedd 9 2010.

Pump o actorion troednoeth a thipyn o fwg. Cwestiynau mawr bywyd yn bownsio hyd y lle.

Holi a symud ac ymargyfyngu a sgrechian gwrthdrawiadol ffrwydriannol ambell dro.

Golau'n fflachio weithiau a phedwar bocs i eistedd arnynt yn symud fel bo'r theatrio'n gofyn: Peth felna.

Dewis atgof

Y syniad - pawb yn cael dewis un atgof ac yn ail-fyw'r atgof am byth. Pawb wedi marw. Pawb yn gorfod dewis pa atgof .

Pedwar yn cyrraedd o rywle i'r rhywle sydd ar y llwyfan. Y pedwar yn gorfod ymbalfalu am atgofion i dragwyddol gnoi cil arnynt, tra bod y Tywysydd (Darren Stokes) yn dweud wrthynt beth ydyw'r rheolau ac yn cyfrif i gant.

Doedd o ddim yn rhyw gyfrif yn wastad iawn, ond unwaith oedd o'n cyrraedd cant heb i rywun benderfynu ... wel.

Am wn i ni ddylai neb or-resymoli athroniaeth y peth - dim ond ystyried y syniad fel un crasiad ysgafn sy'n gogleisio'r dychymyg.

Wrth i dri o'r pedwar daro ar y syniad iawn mi oedd yna fflach ac mi oeddynt yn diflannu i le bynnag mae pobl yn mynd i ail fyw syniadau dedwydd.

Un peth mae'n debyg oedd yn dda am y sain oedd mod i'n cofio bod yna sain, ond yn cofio fawr ddim beth oedd o. Mi oedd y symud ag 么l hawdd arno, er mae'n si诺r bod yna dipyn o ymdrech wedi bod, yr un modd am yr actio.

Y cymeriadau

P'run bynnag, yn 么l at y cymeriadau:
Roedd Sophie (Mared Elliw Huws) yn hogan a gyrfa lewyrchus, gafodd ryw waeledd yn ei llwyddiant. Er bwrlwm Llundain ac yn y blaen a'r gwaeledd mi gofiodd rywbeth braf a neis a ffwrdd a hi mewn fflach.

Mi ydwyf yn rhyw amau mai fi oedd yn methu canolbwyntio a'm meddwl wedi crwydro fel mod i heb ddyall yn iawn beth oedd wedi ei chysuro.

Wn i ddim un o lle'n iawn roedd Ketu (Ioan Gwyn). Rhywle cyntefig o fewn rhyw lwyth yn y jyngl, a mi ffendiodd bod y byd yn grwn fel "oren" ac am hynny cafodd ei grogi. Wn i ddim a oedd hyn ers talwm, 'oren' ac ym mha jyngl y ceir orennau.
Ond hollti blew ydyw hynny, mi oedd hwn yn cynrychioli'r merthyron sy'n marw dros egwyddorion ac yn cael eu gwefr dragwyddol yn eu haberth.
Bobol bach.

Nia (Sioned Wyn) ar y llaw arall wedi gwirioni'n l芒n wrth fod mewn gwely hefo'i dyn - a fflach amdani. (Ond mi oedd y peth yn cael ei drafod yn neis iawn wir chwarae teg).

Alex (Rhodri Trefor) oedd yr un fethodd a phenderfynu pa atgof cyn y cant. Felly chafodd o ddim golau gwyn a diflannu ac wrth i hynny ddigwydd datgelwyd mai hynny'n union oedd wedi digwydd i'r Tywysydd nes nad oedd yn cofio dim o'i orffennol ar y ddaear.

Am wn i, bydd yna ddau wrthi yn y job o hyn ymlaen pe bai ail ran i'r stori yn y purdan tragwyddol.

A chan fod eraill ar y ffordd i mewn i'r ystafell aros burdanaidd hon, dichon y bydd y lle yn poblogi'n helaeth yn y diwedd hefo torfeydd o bobl eraill fydd yn ddifflach ac yn gogr-droi a methu a phenderfynu cyn cyfrif y cant.

(Ond fel y dywedais ddylai rhywun ddim ond ystyried y syniad fel un crasiad ysgafn sy'n gogleisio'r dychymyg neu mae ychydig yn gymhleth).
Iwan Edgar


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.