主播大秀

100 - taith gaeaf 2010 Bara Caws

Ymarfer ar gyfer 100

03 Tachwedd 2010

Disgwyl am dragwyddoldeb

Pum person yn disgwyl cael eu derbyn gan Farwolaeth i dragwyddoldeb yw'r cymeriadau yng nghynhyrchiad Tachwedd a Rhagfyr 2010 Cwmni Bara Caws.

Addasiad yw 100 o ddrama a gafodd ganmoliaeth fawr pan berfformiwyd hi gyntaf yng Ngwyl Caeredin 2003 a theithio'r byd wedyn.

Mae wedi ei throsi i'r Gymraeg gan Elin Jones. Yr awduron gwreiddiol oedd Neil Monaghan, Diene Petterle a Christopher Heimann.

Cychwyn ar ei thaith o amgylch Cymru Tachwedd 9 yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli.

Mae'n addo bod yn ddrama go wahanol a ddisgrifiwyd pan berfformiwyd hi gyntaf fel cyfuniad o draethawd athronyddol a chomedi gyda llawer o ymwneud corfforol rhwng y cymeriadau.

Mae'r ddrama yn cychwyn gyda phump o bobl yn wynebu tragwyddoldeb ac yn disgwyl cael eu derbyn gan Farwolaeth. Eglurir iddyn nhw bod yn rhaid iddynt ddewis ennyd o'u bywyd i'w hail fyw byth bythoedd drosodd a thosodd. Dyna yw tragwyddoldeb.

Wrth gwrs, mae'n bwysig dewis yr atgof cywir gan y bydd popeth arall yn diflannu am byth.

"Mae'n ddrama sydd yn gymysgedd rhithiol o symud a syniadau ac yn rhoi cyfle i'r cwmni gydweithio ag actorion a choreograffydd newydd a chynnig cynhyrchiad gweledol, gwahanol, i'n cynulleidfa," meddai Linda Brown o Gwmni Bara Caws.

Wrth ddewis ac i ail fyw'r eiliadau tragwyddol defnyddia'r actorion ond eu cyrff.

"Cludir ni o swyddfa yn Llundain i ras feiciau modur, o ddyfnder coedwigoedd yr Amazon i ymyl dibyn bodolaeth wrth i'r unigolion geisio cipio un em werthfawr o flerwch eu byw a'u bod," meddai Linda.

Y daith

  • 9 Tach (Mawrth) 7.30 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758 704 088
  • 10 Tach (Mercher) 7.30 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
  • 11 Tach (Iau) 7.30 Neuadd J.P Bangor Dyfan Roberts 01248 382 141 12 Tach
  • (Gwener) 7.30 Neuadd Gymuned Llanrwst Menter Iaith Conwy Siop Bys A Bawd, Llanrwst 01492 642 357 01492 641 329
  • 13 Tach (Sadwrn) 7.30 Theatr Twm O'r Nant Siop Clwyd Gaynor Morgan Rees 01745 813 431 01745 812 349
  • 16 Tach (Mawrth) 7.30 Galeri, Caernarfon Swyddfa Docynnau 01286 685 222
  • 17 Tach (Mercher) 7.30 Theatr Harlech Swyddfa Docynnau 01766 780 667
  • 18 Tach (Iau) 7.30 Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Gwen Edwards 01766 830 435
  • 19 Tach (Gwener) 7.30 Canolfan Bro Aled, Llansannan Eilir Jones 01745 870 415
  • 20 Tach (Sadwrn) 7.30 Theatr John Ambrose, Rhuthun Siop Elfair, Rhuthun 01824 702 575
  • 23 Tach (Mawrth) 7.30 Neuadd Ysgol Y Berwyn, Y Bala Derek Williams 01678 540 236
  • 24 Tach (Mercher) 7.3o Theatr Felin Fach Swyddfa Docynnau 01570 470 697
  • 25 Tach (Iau) 7.3o Canolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys Samantha Chamberlain 01443 219 589
  • 26 Tach (Gwener) 7.30 Canolfan Y Chapter Swyddfa Docynnau 02920 311 050
  • 27 Tach (Sadwrn) 7.30 Canolfan Y Chapter Swyddfa Docynnau 02920 311 050
  • 1 Rhag (Mercher) 7.30 Ysgol Uwchradd Bodedern Ysgol Bodedern 01407 741 000
  • 2 Rhag (Iau) 7.30 Canolfan Y Celfyddydau, Aberystwyth Swyddfa Docynnau 01970 623 232
  • 3 Rhag (Gwener) 7.30 Theatr Taliesin, Abertawe Swyddfa Docynnau 01792 602 060

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.