主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Matthew Rhys
Matthew Rhys

Ganwyd: Tachwedd 1974

Magwyd: Caerdydd

Addysg: Ysgol Gynradd Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.


Actor enwog o Gymru sy'n prysur wneud enw iddo'i hun yn Hollywood.

Cafodd ei fagu yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Fe ymunodd 芒 Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru pan oedd yn 16 oed a dwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1993, fe symudodd i Lundain i ddilyn cwrs actio yn RADA.

Roedd yn llwyddiannus hyd yn oed cyn iddo raddio gan gymryd egwyl o'r coleg er mwyn actio yn y ffilm House of America a'r gyfres deledu Backup.

Fe ddychwelodd i Gaerdydd yn 1998 er mwyn actio yn y ffilm Bydd yn Wrol. Fe enillodd y ffilm y teitl 'Ffilm Orau' yn BAFTA Cymru ac enillodd Matthew y teitl o 'Actor Gorau'. Fe deithiodd i Seland Newydd i actio yn Green Stone ac i Rufain yn 1998 i chwarae rhan Demetrius yn y fersiwn ffilm o'r ddrama Titus Andronicus gan Shakespeare. Yn bell oddi cartref, ei gyd-actor oedd Cymro arall, Sir Anthony Hopkins.

Erbyn hyn, mae e'n hynod o brofiadol ac mae ganddo restr hir o ffilmiau i'w enw; Fakers (2004), Deathwatch (2002), The Abduction Club (2001), Peaches (2000), Shooters (2000) a Sorted (2000).

Ymysg y pentwr llwyddiannus o ffilmiau hyn, fe gymrodd ran hefyd yn y ffilm animeiddiedig Y Mabinogi sef addasiad o chwedlau mwyaf diwylliannol Cymru. Ef oedd llais y cymeriad Lleu. Fe actiodd hefyd yn y ffilm Dal Yma/Nawr (2004), sef ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer S4C sydd yn cynnig gwedd newydd ar draddodiad barddol hynaf Ewrop. Ymhlith yr actorion eraill yn y ffilm hon mae Rhys Ifans, Ioan Gruffudd a Si芒n Phillips.

Nid yw Matthew Rhys yn ddiarth i'r theatr ychwaith, fe actiodd ochr yn ochr 芒 Kathleen Turner yn The Graduate y cynhyrchiad cyntaf erioed o'r ddrama. Yn sicr yn gyfarwydd 芒'r West-End, mae o hefyd yn gyfarwydd 芒 llwyfan cwmni RSC (Royal Shakespeare Company) ac mae o wedi chwarae rhannau Brenin Lear a Romeo.

Yn fwy diweddar, i nodi hanner canmlwyddiant ers marwolaeth Dylan Thomas, perfformiodd Matthew Rhys fel Llais Cyntaf yn y ddrama Under Milk Wood yn 2003, gan berfformio yn Abertawe - tref enedigol Dylan Thomas ac yn y New Theatre yng Nghaerdydd - yn y ddinas lle magwyd Matthew. Yn eironig, mae'n ddrama a chafodd ei phoblogeiddio gan Gymro arall, Richard Burton.

Roedd Matthew Rhys yn rhan o agoriad swyddogol Gwersyll newydd yr Urdd yng Nhanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd yn Nhachwedd 2004 gyda Bryn Terfel. I ddarllen mwy am hyn ac i edrych ar y lluniau - cliciwch yma.

Ym mis Mai 2007, roedd Matthew Rhys yn ffilmio The Edge of Love, y ffilm lle mae'n chwarae rhan y bardd Dylan Thomas. Bu ef a'r ddwy actores Keira Knightley a Sienna Miller yn ffilmio ar leoliad yng Nghei Newydd a Thalacharn, yng ngorllewin Cymru a bu sibrydion yn y wasg a'r cyfryngau bod Matthew Rhys a Sienna Miller yn cael perthynas.

  • Cliciwch i weld lluniau'r actorion yng Ngheredigion.

    Rhyddhawyd y ffilm hon yn y sinemau ar draws y Deyrnas Unedig ym Mehefin 2008.

  • Darllenwch adolygiad o'r ffilm
  • Holi Matthew Rhys

    Mae Matthew Rhys yn parhau i wneud enw iddo'i hun yn Los Angeles ac wedi sicrhau rhan yn actio ochr wrth ochr ag actorion mawr Hollywood fel Calista Flockhart a Rachel Griffiths mewn cyfres newydd Brothers and Sisters sydd ar y sgrin fach yn y Deyrnas Unedig.

    Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Awst 2008, cafodd yr actor ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd i'r wisg wen. Cliciwch i ddarllen rhagor am y stori hon.


  • Cyfrannwch

    Bara o Llandyfriog
    Mae Matthew heb os nac onibai yn actor gwych ac yn ymroi i rhan Dylan Thomas yn llwyr. Yn ogystal a hyn mae wedi llwyddo i gadw ei draed ar lawr tra'n gweithio ochr yn ochr gyda'r mawrion.

    Beca o Gaerdydd
    Rydw i'n meddwl bod mae Matthew Rhys yn actor ardderchog a person hyfryd hefyd! Rydw i'n edrych ymlaen i weld y ffilmiau newydd 'Love and Other Disasters' a 'The Decameron: Angels and Virgins' blwyddyn nesa a dwi'n gwybod bydd Matthew yn gwych yn y ffilmiau! ((sorry if the Welsh isn't so good- I'm a learner!))


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy