主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd

Ganwyd: 6 Hydref 1973

Magwyd: Caerdydd

Addysg: Ysgol Melin Gruffudd, Caerdydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glant芒f


Yr actor o Gymru sy'n un o s锚r Hollywood

Wyddech chi?: Mewn cyfweliad, fe restrodd Ioan ei ddiddordebau - gan gynnwys rygbi, y comed茂wyr Morecambe a Wise a'r rapiwr Eminem.

Eisoes yn ei yrfa, mae o wedi llwyddo i achub Kate Winslett o'r Titanic, ymddangos ar y sgr卯n yng nghwmni dros gant o g诺n a llefaru geiriau Duw mewn ffilm wedi'i hanimeiddio!

Ganwyd Ioan yng Nghaerdydd yn fab i athrawon sef Peter a Gillian Gruffudd ac fe ddechreuodd ei yrfa fel plentyn ar yr opera sebon Pobol y Cwm.

Yr hynaf o dri o blant, fe symudodd i Aberd芒r yn blentyn ifanc ond dychwelodd y teulu i Gaerdydd yn ddiweddarach.

Cafodd gyfle i ddatblygu sgiliau llwyfan yn fuan iawn wrth berfformio mewn cerddorfeydd ieuenctid a dram芒u ysgol cyn cael ei gyfle mawr cyntaf ar Bobol y Cwm. Bu'n gweithio yng Nghwm Deri am dros chwe mlynedd cyn mynd i RADA yn 18 oed. Ar 么l graddio, derbyniodd wahoddiadau yn fuan iawn i ymddangos ar y teledu mewn rhaglenni megis A Mind to Kill a ffilmiau fel Relative Stranger.

Yn 1997 fe gafodd sylw mawr am ddwy ran gefnogol sef yn 'Wilde' gyda Stephen Fry ac yna yn y ffilm fawr Titanic yn chwarae rhan Harold Loewe o'r Bermo syn achub cymeriad Kate Winslett a sawl un arall o'r d诺r rhewllyd ym M么r Iwerydd.

Yn dilyn y rhain, fe ddaeth gwahoddiadau lu ac ef oedd y brif ran yn y gyfres deledu Hornblower a Solomon yn y ffilm Gymraeg a enwebwyd ar gyfer Oscar Solomon a Gaenor.

Mae ei waith diweddaraf yn cynnwys prosiectau mor amrywiol 芒 chyfres ddadleuol Sianel 4 Love in the Twentieth Century a chwarae llais Duw yn y ffilm animeiddio G诺r y Gwyrthiau.

Ef hefyd rannodd y sgrin gyda chant o g诺n yn ffilm Walt Disney 102 Dalmatians.

Er nad ydy o wedi derbyn enwebiad am Oscar eto, fe dderbyniodd wisg wen yr Orsedd yn Eisteddfod Maldwyn a'r Cyffiniau yn 2003. Ewch i edrych ar y lluniau yma.

Yn 2004 fe ymddangosodd Ioan Gruffudd fel Lancelot yn y ffilm am Frenin Arthur (a chwaraewyd gan Clive Owen). Ymddangosodd Ioan Gruffudd a'i gariad ar y pryd, ond sydd bellach yn wraig iddo, Alice Evans yn y premier i'r ffilm yng Nghymru, yng Nghaerdydd ar nos Fercher, Gorffennaf 28, 2004.

Yn 2005 bu Ioan Gruffydd yn serennu yn y ffilm Hollywoodaidd Fantasitc Four.Mae'r actor mor hapus gyda'r ffilm gyntaf fel ei fod wedi cytuno i ffilmio dwy arall yn y gyfres Fantastic Four hefyd.

Rhyddhawyd yr ail ffilm yn y gyfres, Fantastic Four: Rise of the Silver Surfer ym mis Mehefin 2007.

Mae'r actor yn hapus yn byw yn Los Angeles ac nid yw am ddychwelyd i Gymru ar hyn o bryd, gan fod ei yrfa fel actor yn mynd o nerth i nerth.

Priododd ef ac Alice Evans ym Mecsico ar ddydd Gwener, 14 Medi 2007.

Beth yw eich barn chi am Ioan Gruffydd? Ydych chi'n mwynhau ei berfformiadau yn ei ffilmiau diweddaraf? Dywedwch wrthon ni trwy lenwi'r ffurflen isod.

  • Adolygiad o Fantastic Four

  • Cyfrannwch

    Dafydd Griffiths, byw rhwng Crwbin a Bancffosfelen
    Rwy'n dwli ar y perfformiad ar y Fantastic 4 a Rise of the Silver Surfer. Fe hoffwn i gael llun ohonot a dy lofnod os gweli'n dda, a hoffwn gael llofnod Jessica Alba, Chris Evans a Michael Chilis.
    Mon Jan 14 21:23:33 2008


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy