主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Michael Francis (chwith) a Peter Lloyd amser cinio Teithiau Cerdded
Ebrill 2005
Aeth 16 o Gymdeithas Edward Llwyd ar ymweliad 芒 Gwarchodfa Gwastadau Gwent ger Casnewydd ar daith gerdded addysgol o dan arweiniad Gareth Beynon.
Roedd hi'n oer a bu'n bwrw glaw yn ddi-baid trwy'r dydd pan ymwelodd 16 aelod gwydn o Gymdeithas Edward Llwyd 芒 Gwarchodfa Gwastadau Gwent ger Casnewydd ar gyfer taith gerdded addysgol o dan arweiniad Gareth Beynon.

Sefydlwyd y warchodfa i wneud iawn am effeithiau Argae Bae Caerdydd ac o'r man cychwyn yn Yr As Fach gellid gweld y T欧 Mawr a meindwr uchel yr eglwys, y mae ei hanes yn mynd yn 么l i Arglwydd Normanaidd o'r 12fed ganrif.

Gellir gweld enghraifft odidog o seddau caeedig yn yr eglwys (nad aethom iddi). Gwerthwyd tir o gwmpas y Maenordy yn y 18fed ganrif a heddiw mae'n dal i gynhyrchu incwm blynyddol o 拢20 yr un i drigolion lleol sy'n gymwys. Mae'r warchodfa wedi'i chynllunio'n dda gyda llwybrau troed a chuddfannau gwylio, ac mae'n wledd i'r adaregydd brwd. Mae'r hen oleudy yn sefyll o hyd, gyda golygfeydd o Portishead a Clevedon i'w gweld yn glir dros aber Afon Hafren.

Roedd Gareth wedi trefnu i ni weld arferion pysgota eog traddodiadol ac ar 么l taith fer mewn ceir ac ar droed daethom at y "Bysgodfa" lle mae teulu'r Williams bellach yn byw mewn t欧 crand ar lan y m么r. Wrth ochr y t欧 mae pont lanio hen fferi'r Pill a Phriordy o'r 12fed ganrif. Caeodd y Priordy oherwydd erydu glan y m么r ond mae ei weddillion i'w gweld yn glir o hyd.

Mae'r hen hawliau pysgota a fu'n werthfawr iawn wedi'u cyfnewid ond gellir gweld o hyd y "Putchers" hynny yw, y term lleol am gaets tair siambr y byddai'r pysgod yn nofio i mewn iddo. Roedd y rhain ar reseli ar ongl o 20 gradd ac roedd y tair siambr yn rhoi ffordd o raddio'r gwahanol rywogaethau o bysgod a ai i mewn iddynt. Cipolwg diddorol ar hen ffordd o fyw.

Er gwaethaf y tywydd roedd ein hwyliau'n dda a chafwyd amser difyr. Diolchwn i Gareth am ddiwrnod diddorol.

Tryleg (Trellech) 5ed o Fawrth 2005
Arweinydd: Helen Tilsley
Mae gen i ddiddordeb mewn ceffylau erioed (nid wy'n un o garfan gefnog y Subaru - oedd gen i Landrover 25 oed !!) a sbardunwyd gan ymweliadau bore oes 芒 theulu a chyfeillion ar ffermydd yng Ngheredigion a Sir Ddinbych. Yn aml rwyf wedi gwylio cyw farchogion yn cael gwersi; hanner awr o arthio "Pen i fyny! Edrychwch ymlaen!" a'r gweddill - ac yn rhy aml mae'n digalonni rhywun ac yn ffrwyno uchelgais.

Ond mae'n amhosibl bod yn fedrus a chael y gorau o farchogaeth o fewn ffiniau diogel y cylch dressage; rhaid mentro i gefn gwlad agored am gwpl o oriau o leiaf ar gymaint o wahanol geffylau ag sy'n bosibl ac yng nghwmni marchogion mwy profiadol er mwyn gwneud cynnydd - a gall eich cynnydd fod yn gyflym a'r cyffro yn fodd i newid bywyd. Pan ewch yn 么l i'r ystafell ddosbarth, mae'r gwersi gymaint yn fwy perthnasol.

Rwy'n si诺r bod yr un peth yn wir i bobl sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r teithiau cerdded a drefnir gan Gymdeithas Edward Llwyd yn mynd 芒'r dysgwr yn llythrennol i gefn gwlad agored lle gall pobl sy'n rhugl eu Cymraeg roi help (ond byth bod yn nawddoglyd) i'r bobl hynny sy'n dysgu ac yn gwella.

Mae Helen Tilsley yn enghraifft wych o un sydd wedi dilyn y llwybr hwn. Wedi ei geni yn Llundain i rieni o Gymru ond bellach yn byw yn Nhryleg, Sir Fynwy, mae gan Helen swydd brysur sy'n gwneud gwersi Cymraeg rheolaidd yn amhosib. Ond trwy astudio personol a gwrando ar radio a theledu Cymraeg ac yn anad dim bod yn ddigon dewr i fynd allan a chael hyd i gyfleoedd i siarad Cymraeg, mae wedi dod yn rhugl, a phrofodd yn arweinydd medrus iawn ar daith gerdded ardderchog ar 5ed o Fawrth 2005.

Esboniodd Helen mai Treleg oedd tref fwyaf Cymru ar un adeg, ac mae rhai o weddillion hen batrwm y strydoedd i'w gweld o hyd. Mae cloddio archeolegol yn digwydd yn rheolaidd ac yn araf deg rhoddir darnau o'i hanes at ei gilydd.

Gellir cerdded rhan o'r hen brif ffordd, a elwir L么n Hen Lan, hyd heddiw, a soniodd Helen am y cysylltiadau diwydiannol gyda Fforest Ddena. Mae hen ffynnon, y credid gynt fod iddi rinweddau meddyginiaethol, i'w gweld o hyd. Roedd y tywydd yn oer (ar adegau bu bron iddi fwrw eira) ond ni wnaeth hynny ddifetha'r golygfeydd trawiadol ar draws y wlad i Fannau Brycheiniog.

Ar y ffordd adref aethom dros gamfa a gwelwyd carreg fawr wedi'i gosod yn y terfyn. Roedd twll wedi'i dorri mewn un ochr ac esboniodd Helen y byddai'r twll yn cael ei lenwi 芒 finegr yn ystod cyfnod y pla, fel bod modd diheintio arian cyn ei gyfnewid.

Roedd y daith gerdded yn ardderchog a mwynhaodd pawb. Diolch Helen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy