主播大秀

Gwlad yr Addewid

12 Awst 2010

Ymarfer  ar gyfer Gwlad yr Addewid gyda Tim Baker y cyfarwyddwr

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genwedlaethol 2010

  • Adolygiad Meg Elis o Gwlad yr Addewid gan Ed Thomas, cyfieithiad Sharon Morgan. Theatr Genedlaethol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol 2010.

Mae'n beth da dod at ddrama adnabyddus heb fod wedi gweld cynhyrchiad arall ohoni ymlaen llaw ac, felly, yn weddol rydd o ragdybiaethau.

Mae'n beth drwg dod at ddrama wedi diwrnod caled o eisteddfota, gyda'ch pen yn chwyrlio o syniadau a delweddau, a'ch traed a'ch aelodau eraill yn mynnu eich atgoffa o'ch oed.

Yn y ddau gyflwr uchod y gwelais Gwlad yr Addewid - er imi dymheru mymryn ar yr ail gyflwr trwy gyrraedd Abertyleri yn gynnar a thrwy hynny allu treulio amser yn eistedd ac ymlacio yn y theatr cyn mynd i mewn .

Ac, yn naturiol, sgwrsio gyda staff y lle - dau ddyn ifanc o'r ardal, a'r sgwrs yn troi at y newid aruthrol fu pan gaeodd gwaith Glynebwy.

Roedden nhw eu hunain yn cyfaddef mai prin y gallent, hyd yn oed yn awr, amgyffred brynti'r ergyd. Sut oedd modd i mi wneud hynny, meddyliais wrth fynd i weld y ddrama hon am effeithiau dirwasgiad ar ardal arall ddiwydiannol?

Rydym wedi symud fymryn tua'r gorllewin o Flaenau Gwent ond does dim eisiau gwrando ar lawer o'r ddrama cyn gwybod yn union lle'r ydych chi - ardal ddiwydiannol Cwm Tawe.

Na, doedd o ddim wedi ei gyhoeddi yn unman ar y set, a allasai fod yn gartref bregus, bl锚r mewn unrhyw ardal 么l-ddiwydiannol. Y geiriau oedd yn gosod y ddaearyddiaeth. Roedd rhythm yr acenion, y cytseiniaid yn dangos yn glir bod yr awdur yn gwybod o'r gorau lle'r oedd - ac yn anad dim, yn y cynhyrchiad hwn, fod y cyfieithydd yn hollol sicr o'i lleoliad a'i hieithwedd. Gallech flasu'r iaith, a'i theimlo. Roedd hi'n pefrio drwodd.

Trwy beth? Yn anffodus, mae'n rhaid dweud mai pefrio drwy ymdrechion ambell i gymeriad i'w hynganu yr oedd. Nid yn gymaint Sara Harris-Davies, yng nghymeriad y fam, ond yn sicr, roeddech yn ymwybodol fod pob un o'r actorion oedd yn portreadu'r tri phlentyn yn ymladd brwydr gyda'r dafodiaith - ac yn colli, weithiau.

Digwyddais grybwyll hyn yn nes ymlaen - a chael yr esgus mai gogleddwr oedd un o'r actorion. Cystal datgan yn groyw yma nad oes ffliwsan o ots o lle daw actor. Fel y dywedodd John Mortimer pan wrthwynebodd rhyw actores ddweud llinellau ei chymeriad am eu bod yn treisio pa bynnag oedd ei chred ffasiynol hi ar y pryd - "It's called acting, dear" ac os nad yw actorion Cymraeg wedi dysgu'r wers honno, mae rhywbeth mawr o'i le.

Ond fe ddylai actorion a'r gynulleidfa fod yn gyfarwydd gyda'r sefyllfa a ddarlunnir: cymdeithas 么l-ddiwydiannol yn wynebu chwalfa. Unigolion sy'n dal i berthyn i deulu ac - efallai - cymdeithas - ac yn ceisio dal yn wydn at yr hyn sy'n eu clymu ynghyd. A rhyw freuddwyd bell yn wastad ar y gorwel.

Cyfl毛wyd hyn yn dda trwy ddefnyddio'r tafluniau o blant bach hapus yn chwarae - naws "home movies" diniwed - a chysgod y tad diflanedig yn awgrymu llawer.

Wrth i'r ddrama fynd rhagddi, yr oeddwn yn teimlo y gallesid bod wedi bod yn fwy cynnil gyda defnyddio'r taflunio ond yn yr achos hwn, roedd yn gweithio'n dda.

"Pwy ydw i?"
"Beth yw cartref?"
Llinellau i'w hynganu, ie - ond hefyd, dyma holl hanfod y gwaith. Amau hunaniaeth y mae'r plant, bod yn ddibris ohono, ar yr wyneb, wrth iddyn nhw wagsymera trwy eu dyddiau, yfed, ffraeo, gweld ambell fflach o obaith am swydd yn y gwaith glo brig sy'n fygythiad mewn mwy nac un ffordd - a breuddwydio yn wastad.

Codi'r t欧 cardiau a dynghedwyd yn wastad i'w chwalu. Fyddan nhw'n gwybod "pwy ydw i" yn America? Ddon nhw o hyd i "gartref" wrth ddilyn Jack Kerouac?

Ynteu ai'r fam sydd wedi gweld pethau gliriaf er gwaethaf ei dryswch?

Mae cwestiynau mawr yn cael eu trin yn Gwlad yr Addewid, ac enbydrwydd y rhwygiadau yn dod yn fwyfwy amlwg tua'r diwedd: yn llythrennol felly, mewn dwy ffordd bwysig.

Wrth i Gwenny a Sid gael eu llyncu'n llwyr gan y freuddwyd, y rhwyg ieithyddol sy'n cyfleu hyn gryfaf. Gallwn ddychmygu bod hyn wedi gweithio'n dda yn y gwreiddiol, gyda'r tyndra rhwng yr Americaneg a Saesneg brodorol y cwm ond y mae'n fwy grymus fyth yn y Gymraeg, ac yn ychwanegu dimensiwn llymach at y rhwyg.

Pan fo Sid, o'r diwedd yn ceisio tynnu'n 么l ac yn ymdrechu i ddarbwyllo Gwenny golledig mai breuddwyd yw'r cyfan, gwneud hynny trwy gyfrwng ei famiaith y mae ac y mae'r geiriau grymus yn peri i'r gynulleidfa hefyd deimlo'r golled.

Daw rhwyg arall hefyd - rhwyg llythrennol wrth i'r set gael ei darnio, ac i lawer o'r chwarae ddigwydd yn, rhwng a thros yr hollt enfawr a grewyd.

Dydw i ddim mor hollol si诺r a weithiodd hyn cystal.

Yn y trafodaethau mynych fu yn ystod wythnos yr Eisteddfod ynghylch y Theatr Genedlaethol, gwnaed mwy nac un cyfeiriad at setiau, a rhai yn amau a yw'n bryd bellach canolbwyntio llai ar wychder a/neu gymhlethdod setiau, a thalu mwy o sylw i hanfodion eraill.

Mae'n ddadl ddiddorol o berthnasol yng nghyswllt y ddrama hon, oherwydd y gwahanol gynyrchiadau a fu - a'r cyfeiriad ysgafn gan Ed Thomas ei hun yn y rhaglen at gyllideb y sioe wreiddiol.

Ysgafn, hwyrach - ond mae'r pwynt yn un pwysig a'r teimlad llethol a gefais wrth wylio Gwlad yr Addewid, yn enwedig tua'r diwedd, oedd ein bod yn cael ein byddaru gan y set a'r sain.

Oedd, roedd angen cyfleu'r trais a'r chwalfa - ond o du'r set a'r actorion fel ei gilydd, doedd dim amrywiaeth goslef, ac y mae hyn, o'i estyn am ormod o amser, yn difetha'r union dyndra yr anelir ato.

Pan fydd rhywun yn meddwl wrtho'i hun (mewn ystyr ffigurol) "byddwch ddistaw, i ni gael clywed y geiriau", mae'n arwydd bod y cynhyrchiad ar drywydd anghywir. Ac mewn drama fel hon, lle mae'r cyfieithiad yn gampwaith, mae hynny'n drueni.


Blogiau 主播大秀 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.