主播大秀

Beth yw'r Eisteddfod

Pafiliwn

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg rhwng 4 ac 11 Awst 2012, yn Lland诺 sydd rhwng Llanilltud Fawr a'r Bont-faen.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2011 ar gyrion tref Wrecsam.

G诺yl gelfyddydol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, yn y de a'r gogledd bob yn ail yw'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'n ddigwyddiad allweddol yn y calendr Cymreig a gellir ei disgrifio fel g诺yl dalent genedlaethol mewn cystadlaethau amrywiol o ddawnsio i lefaru, canu i fandiau pres a'r cyfan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn rhan o'r 诺yl, cynhelir cyngherddau nosweithiol, ac yn 2011 roedd yr artistiaid yn y Pafiliwn yn cynnwys Tri Tenor Cymru Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins, Caryl Parry Jones, Meic Stevens a Huw Chiswell, Ysgol Glanaethwy, Cerddorfa Siambr Cymru, Sh芒n Cothi, y pianydd Ll欧r Williams a llawer mwy. Cynhelir gigs amrywiol bob nos, dram芒u, comedi ac arddangosfeydd o gwmpas yr Eisteddfod ac oddi ar y maes swyddogol. Ceir manylion llawn am y cyngherddau nos ar wefan swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Pryd mae'n digwydd?

Cynhelir yr Eisteddfod yn flynyddol, yn ystod wythnos gyntaf fis Awst, o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn.

Croeso i bawb

Mae croeso i bawb i'r Maes, o'r Eisteddfodwyr selog i'r rhai chwilfrydig sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae rheol uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac er bod yr holl gystadlu'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i'r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae offer cyfieithu ar gael i'w casglu ger y Ganolfan Groeso wrth y brif fynedfa i'r Maes.

Beth i ddisgwyl?

Mae'r Eisteddfod yn denu, ar gyfartaledd dros 150,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos (136,000 yng Nglynebwy 2010 ond 164,689 yn Y Bala yn 2009).

Y Pafiliwn mawr pinc yw canolbwynt yr 诺yl - yno mae'r cystadlu'n digwydd o gerddoriaeth a barddoniaeth i lefaru a dawnsio. Daw'r cystadlu i ben gan amlaf tua 4.30pm fel bod y prif seremon茂au yn gallu cael eu cynnal ar y llwyfan - y Coroni ar ddydd Llun, Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth, y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher, a'r Cadeirio ar y dydd Gwener. Ar nos Fercher a nos Wener yr Eisteddfod mae'r cystadlu'n ail gychwyn ar 么l y seremon茂au ac yn parhau tan yr hwyr.

Pris mynediad

Tocyn Diwrnod i'r Maes yn 拢17 i oedolion (拢18 os am gadw sedd yn y Pafiliwn yn ogystal 芒 mynediad i'r Maes), 拢15 i bensiynwyr, 拢10 i blant 12 -18 oed a myfyrwyr dan 21 oed (gyda cherdyn NUS) a 拢5 i blant dan 12 oed (am ddim i blant dan 3 oed). (Prisiau 2011)

O gwmpas y Maes a thu hwnt

Os nad y cystadlu sy'n mynd 芒'ch bryd chi, gallwch dreulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod heb fynd i mewn i'r Pafiliwn pinc, gan bod cymaint o bebyll eraill i ymweld 芒 nhw. Theatr y Maes, arddangosfeydd celf a chrefft, y Babell L锚n, Maes D (Pabell y Dysgwyr) yn ogystal 芒 stondinau ac arddangosfeydd yn gwerthu dillad, gemwaith, llyfrau, CDs a nwyddau o bob math. Mae nifer o stondinau bwyd o gwmpas y maes, a bariau yn gwerthu alcohol hefyd.

Mae cyfleusterau ar gyfer teuluoedd gyda babanod a phlant bach ar gael ym mhabell Twf ar y Maes a thoiledau addas i bobl anabl.

Beth sy' mlaen Mae pethau'n digwydd ar y Maes ac o gwmpas yr ardal yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dram芒u, cyngherddau, barddoniaeth a chomedi, perfformiadau gan grwpiau lleol a nifer fawr o gigs amrywiol bob nos. Bydd mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Eisteddfod Wrecsam yn cael eu hychwanegu i'r safle hwn yn fuan.

Maes D - Mae 'D' yn sefyll am 'Dysgwyr' - Wedi ei leoli ar faes yr Eisteddfod dyma babell i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r gweithgareddau yma yn amrywio o sgyrsiau difyr i chwarae gemau i gystadleuthau.

Maes C - Wedi ei leoli ar y maes carafannau, nid nepell o Faes yr Eisteddfod. Mae'r adloniant nosweithiol a gynhelir yma wedi ei anelu at y teulu cyfan.

Mwy o fanylion am Eisteddfod Wrecsam 2011.


O'r Maes

Manon Rhys a Jim Parc Nest yr Archdderwydd

Yr wythnos a fu

Yr holl straeon, erthyglau am y prif enillwyr a chyfraniadau dyddiol Gwilym Owen.

Canlyniadau

Cordydd

Gwyliwch eto

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r prif seremon茂au.

Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.

Sain a Fideo

Robat Powell

Clipiau archif

Clipiau arbennig o archif 主播大秀 Cymru gan gynnwys cadeirio Robat Powell yn 1985.

Hanes

Eisteddfod yn Nghaerdydd yn 1960

Eisteddfodau

Lleoliadau ac enillwyr y gorffennol a chlipiau archif.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.