主播大秀

Gorsedd y Beirdd

Gorsedd y Beirdd

Hanes Gorsedd y Beirdd ac arwyddoc芒d y gwisgoedd.

Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd (neu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.)

Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd. Mae'r lliwiau'n dynodi'r gwahanol raddau o fewn yr Orsedd ac fel ag y mae tri phaladr yn Arwyddnod yr Orsedd, mae yna hefyd dair urdd o fewn yr Orsedd:

  1. Urdd Ofydd - gwisg werdd - sy'n cynnwys Bardd Ofydd, Cerdd Ofydd a Ll锚n Ofydd. Derbynnir i'r urdd hon rai sydd wedi llwyddo yn nau arholiad cyntaf yr Orsedd neu rai a dderbynnir er Anrhydedd.
  2. Urdd Bardd, Ieithydd, Cerddor neu Lenor - gwisg las - ar gyfer rhai a lwyddodd yn nhrydydd arholiad yr Orsedd. Gall graddedigion a lwyddodd yn y Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg, neu Gerddoriaeth wneud cais i'w derbyn i'r urdd hon.
  3. Urdd Derwydd - gwisg wen. Cyfyngir hon i feirdd, llenorion, cerddorion, ysgolheigion, gwyddonwyr neu gelfyddydwyr, naill ai o blith rhai sydd yn aelodau o'r Orsedd yn barod neu o blith y rhai y tu allan iddi, am waith o safon genedlaethol gydnabyddedig.

Mae rhai a enillodd Gadair neu Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael eu hadnabod fel Prifeirdd ac maent yn llawryf am eu penwisg. Prif lenorion yw enillwyr Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ac etholir yr Archdderwydd o blith y rhain a'r Prifeirdd. Rhaid i bob ymgeisydd am urdd yn yr Orsedd fedru Cymraeg.

Ymhlith aelodau'r Orsedd mae Bryn Terfel, Ioan Gruffudd a Matthew Rhys, y cyn chwaraewr rygbi, Gareth Edwards a'r athletwraig Tanni Grey-Thompson.

Fis Awst 2011 bydd yr Orsedd yn trafod newid radical i'r Orsedd er mwyn sicrhau bod pawb sy'n dod yn aelod o'r Orsedd yn gwneud hynny "ar yr un gwastad".

Y cynnig yw dileu'r dosbarthiad Ofydd a Derwydd a dim ond derbyn y rhai sy'n ennill prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd i'r Wisg Wen.

Fe fyddai'r Gorseddigion yn dal i wisgo lliwiau gwahanol, gyda'r lliwiau'n cynrychioli arbenigedd eu cyfraniad neu'u dawn mewn maes arbennig. Mae'r Orsedd hefyd yn trafod y posibilrwydd o greu lliw newydd, ar gyfer y rheini a dderbynir ar sail eu harbenigedd neu'u cyfraniad i gymdeithas neu fyd y campau.

Yr Archdderwydd

Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Caiff ei ethol am gyfnod o dair blynedd ac mae'n gyfrifol am arwain seremon茂au'r Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod - sef Seremon茂au'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio. Yr Archdderwydd presennol yw T. James Jones, neu Jim Parc Nest o roi ei enw yn yr Orsedd.

Cychwyn yr Orsedd

Ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain, y sefydlwyd yr orsedd i gychwyn yn 1792 gan 诺r o'r enw Iolo Morganwg a oedd yn awyddus i roi gwybod i'r byd bod na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y Cymry a'r diwylliant Celtaidd.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif y cysylltwyd Gorsedd y Beirdd yn swyddogol 芒'r Eisteddfod a hynny mewn Eisteddfod yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae'r cysylltiad yn parhau hyd heddiw.

Cylch yr Orsedd

Cerrig yr Orsedd ar Faes Eisteddfod Caerdydd 2008 Gwelir Cylch yr Orsedd, sef cylch o feini, mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld 芒'r dref neu'r ardal honno. Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.


O'r Maes

Manon Rhys a Jim Parc Nest yr Archdderwydd

Yr wythnos a fu

Yr holl straeon, erthyglau am y prif enillwyr a chyfraniadau dyddiol Gwilym Owen.

Canlyniadau

Cordydd

Gwyliwch eto

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r prif seremon茂au.

Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.

Sain a Fideo

Robat Powell

Clipiau archif

Clipiau arbennig o archif 主播大秀 Cymru gan gynnwys cadeirio Robat Powell yn 1985.

Hanes

Eisteddfod yn Nghaerdydd yn 1960

Eisteddfodau

Lleoliadau ac enillwyr y gorffennol a chlipiau archif.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.