主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


CefndirCyngerdd Cwmderi

Mae cast Pobol y Cwm yn paratoi i ysgwyd y Pafiliwn eisteddfodol i'w seiliau yn ystod noson sy'n addo bod yn un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd - cyngerdd Deri Ddathlu ar nos Wener, Awst 6, am 8.00.



I ddathlu pen-blwydd y gyfres, a gynhyrchir gan 主播大秀 Cymru a'i darlledu ar S4C, bydd cyn-aelodau ac aelodau cyfredol y cast yn portreadu 30 mlynedd o'r gyfres, flwyddyn wrth flwyddyn, trwy ganeuon poblogaidd y dydd gan olrhain y gyfres o'i dechrau arbrofol i'w safle heddiw fel y gyfres Gymraeg fwyaf poblogaidd.

Llachar a bywiog
Ond nid teyrnged ffurfiol fydd hon, wrth i wynebau cyfarwydd y sebon ddiosg dillad eu cymeriadau am rywbeth llawer mwy llachar a bywiog er mwyn perfformio rhai o anthemau cerddorol y gwahanol flynyddoedd.

A does dim prinder o ddoniau lleisiol gyda llawer o actorion Pobol y Cwm yn gantorion cydnabyddedig.

Mae Huw Euron, sy'n chwarae'r di-glem Darren, yn faswr a hyfforddir gan Stuart Burrows, ac yn enillydd yn y Genedlaethol ei hun. Yn y cyngerdd fe fydd yn perfformio Pan Fo'r Nos yn Hir o'r flwyddyn 1977, y flwyddyn bu Ryan Davies, a gyfansoddodd y g芒n, farw. Yn wir bydd mab Ryan, Arwyn Davies, ei hun yn perfformio ar y nos ac yntau yn un o actorion mwyaf amlwg y gyfres lle mae'n portreadu Mark Jones.

Ac yn deyrnged i'r Jonsiaid , bydd Arwyn, sydd yn gyfansoddwr ei hun, yn perfformio'r g芒n Have You Met Miss Jones?

Daeth Gillian Elisa, sy'n chwarae Sabrina, i amlygrwydd fel cantores bop yn y 70au cyn ymuno 芒 chast Pobol y Cwm.

Fe fydd hi yn ddi-os yn sicr o siglo ambell i sail gyda'i llais pwerus, a fydd wythnos yn ddiweddarach yn difyrru cynulleidfaoedd Gwyl Caeredin.

Band merchedBand merched
Fe ddylai grwp Girls Aloud wylio'u hunain hefyd wrth i Catrin Arwel, Shelley Rees a Helen Rosser-Davies ffurfio band merched yn arbennig i'r achlysur.

Bydd mwy o gerddoriaeth yn dod o gyfeiriad Catrin Brooks, Emyr Wyn, aelod blaenllaw o Mynediad Am Ddim wrth gwrs, Donna Edwards, Lisa Victoria a Rhys Ap Williams ymysg eraill.

"Mae'r cast yn edrych ymlaen yn arw," meddai Medwyn Parri, cynhyrchydd y cyngerdd. "Mae'r nifer o gantorion da sydd yn y cast yn anhygoel. Maen nhw'n griw dawnus iawn a mi fydd hwn ymhell o fod yn deyrnged sych a ffurfiol. Mae pawb yn hyderus y bydd hi'n noson hwyliog iawn."

Bydd ambell wyneb o'r dyddiau cynnar hefyd yn ymuno yn y dathlu, gyda Huw Ceredig, yr enwog Reg Harries, Lis Miles (ei wraig Megan), Gaynor Morgan-Rees (Nerys Cadwaladr), Glan Davies (Clem) ac Islwyn Morris a chwaraeai'r annwyl Mr Tushingham oll yn cymryd rhan.

Bydd Deri Ddathlu yn cael ei ddarlledu ar S4C, Hydref 16, sydd 30 mlynedd i'r diwrnod ers i bennod gyntafPobol y Cwm gael ei darlledu.

Mae tocynnau ar gael trwy wefan yr Eisteddfod ar www.eisteddfod.org.uk neu trwy ffonio 0845 122 1176.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 主播大秀 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy