主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Adolygiad : Noson Stand Yp Maes C

Logo maes CGaynor Jones bu'n adolygu'r Stand Yp gyda Dewi Rhys, Huw Marshall, Emyr Roberts a Tudur Owen

Nos Sadwrn olaf amdani de a chyfle imi brofi noson stand-yp Cymraeg am y tro cyntaf, er bod y nosweithiau hyn wedi ennill eu plwyf yn yr Eisteddfod ers llawer blwyddyn bellach.

Yn anffodus naill ai roedd pawb wedi ymadael am adref eisoes, neu doedd yr arlwy ddim yn apelio, a chynulleidfa feicro ddaeth ynghyd i glwb Whiteheads ger Parc Tredegar. Prin 20 ohonom oedd yno, ond chwarae teg cynhaliwyd y sioe, er taw gwaith anodd yw codi hwyliau mewn gwagle.

Cymerwyd yr awenau gan yr MC profiadol Dewi Rhys. Roeddwn yn disgwyl perfformiad ymosodol gan hwn a dyna a gafwyd. Lambastiwyd pawb, o gast Pobol y Cwm, i Si芒n Lloyd, o gyflwynwyr Planed Plant, i Gofis dre'. Roedd ambell i ergyd yn taro deuddeg ond ar y cyfan jobyn rhwydd yw difr茂o'r gwrthrychau yma. Rydym yn euog o wneud hynny yn feunyddiol a doedd dim byd beiddgar na newydd yma.

Daeth Huw Marshall i'r llwyfan nesaf. Mae'r dyn yma mor ddoniol a chiw traffig hir ddigyffro yn ceisio gadael maes yr Eisteddfod. A dweud y gwir byddai'n well gen i eistedd yn y ciw bondigrybwyll na gorfod eistedd drwy routine arall gan hwn.

Nesa' Emyr Roberts. O'r diwedd dyma rhywun oedd wedi gweithio ar ei gyflwyniad, a dynnodd y bachan yma pawb allan o'i het - Rhodri Morgan, Ieuan Wyn, John Bwlchllan, a Jonsi ymysg eraill. Mae ganddo'r ddawn i ddynwared pob cymeriad i'r dim.

Yn sicr uchafbwynt y noson oedd Tudur Owen, bachan dwi erioed wedi ei weld ar lwyfan o'r blaen. Yn syth mi gysylltodd 芒'r gynulleidfa trwy wneud hwyl am ben ei hun mewn gwahanol sefyllfaoedd. Llwyddodd i symud o un stori sefyllfa i'r llall yn llyfn ac yn slic.

Mae yna lygedyn o obaith felly i stand yp Cymraeg gyda bois fel hwn ac Emyr Roberts yn ein diddanu. Ond ar hyn o bryd mae'r rhagolygon yn go ddu gyda gormodedd o ddigrifwyr sobor o wael yn camu ar lwyfan i borthi eu hegos yn hytrach na'r gynulleidfa.

Gaynor Jones





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 主播大秀 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy