主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Barddoniaeth y cwrw

Catrin a Sian wrth y bar"Dydio'n beth braf medru trafod pethau yn y Steddfod dros beint fel hyn?"






Cafodd y bar ar faes yr Eisteddfod gymeradwyaeth frwd bardd cadeiriol y llynedd, Twm Morys a oedd ymhlith y fintai gyntaf ar y maes i godi'r bys bach ddydd Sadwrn.

Iechyd daA pha gwmni gwell iddo na phrifardd arall, Myrddin ap Dafydd, un o'r beirniaid a swynwyd gan awdl Twm y llynedd a'r ddau yn rhagweld llwyddiant mawr i'r fenter newydd hon.



Lleoli da
Byddai ambell i sinig yn dweud fod y ddau far ar y maes wedi'u lleoli gyda rhywfaint o ddoethineb - y drws nesaf i'r Babell L锚n - lle'r oedd Twm a Myrddin yn oelio'r awen, a'r llall y drws nesaf i safle'r 主播大秀.

Ond un peth yw lleoliad peth arall yw cynnyrch - a chafodd lager Carreg - oedd ar werth gyda'r Guinness a'r Carlsberg a'r Brains SA - ganmoliaeth hael Phillip Evans o Benybont-ar-Ogwr yr oedd ei wraig yn derbyn tystysgrif ym Mhabell y Dysgwyr ddydd Sadwrn.

PhillipYn ddi-Gymraeg dywedodd Phillip mai dyn cwrw yn hytrach na lager yw ef ond fod i Carreg flas digon chwerwaidd gan beri ei fod yn apelio at ddant yfwyr cwrw hefyd.

"Mae 'da fe ben da ac mae'n ffres a blas rhywfaint yn Almaenaidd arno fe," meddai wedi ei lwnc ystyriol cyntaf.

Efallai nad oedd ei eiriau yn farddoniaeth ond yr oeddan nhw yn siwr o fod yn fiwsig i glustiau eraill sy'n debyg o hel wrth y bar a chanmolodd Myrddin a Thwm, hwythau, ansawdd y Guinness.

Maen nhw wedi addo cyfraniad barddonol am y bar i Gymru'r Byd cyn diwedd yr wythnos - wrth i'r awen chwyddo a'r Guinness dreiddio.

Yn y cyfamser, trosglwyddodd Twm englyn am gwrw Steddfod gan Hwfa M么n i'n hytyriaeth:
Ai gwyl maent yn ei galw? - Gwyl yfed
Gwyl ofer y cwrw,
A'r gynghanedd yn feddw,
Araf y llusg, ar fy llw!

"Saith marc," meddai Myrddin.

Medd-ygol!
A "reit brysur," oedd disgrifiad Catrin Edwards y tu 么l i'r bar fore Sadwrn. Yn dod o Landdona, Sir F么n, mae hi yn astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd pan nad yw yn gwneud gwaith buddiol fel hyn.

DisgwylGyda hi y tu 么l i'r bardd roedd Sian Williams o Ddinbych sy'n fyfyrwraig meddygaeth yng Nghaerdydd.

Bydd sawl un o selogion y bar yn falch o dderbyn ei ffisig hi yn ystod yr wythnos!
Iechyd da.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 主播大秀 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy