主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Nodiadau: dydd Llun

Twm MorysNodiadau dyddiol o faes yr Eisteddfod. Dydd Llun - diwrnod het newydd!







Yn ogystal ag am ei farddoniaeth mae Twm Morys yn adnabyddus am ei hetiau trawiadol hefyd.

Ond bydd yn rhaid iddo fynd yn bell iawn cyn dod o hyd i het gystal 芒'r un mae'n ei gwisgo yng Nghasnewydd ddechrau'r wythnos hon.

Ac fe aeth o'n bell i gael hon hefyd.

"Ym Mecsico," meddai pan y'i holwyd lle'i cafodd.

"Mi brynais i ddwy ac mae'n nhw'n gwasgu'n fach, fach, ar gyfer eu cadw."

Dim angen bod ofn yr hetiau yna felly.

Swn mawr - ty bach
"Ty bach y merched oedd hwnna," oedd yr eglurhad a gawsom am s诺n rhyfeddol sy'n tarfu bob hyn a hyn ar weithgareddau Ystafell y Wasg yng nghefn y Pafiliwn.

Mae'n swn digon difyr i'w ddadansoddi. Yn destun sgwrs a rhyfeddod.

Yn gyfuniad o swn cyfogi, ffrwydrad gwynt deheuol, tuchan ymgarthiol a gwewyr esgor.

Ond dydi'r swn ddim yn adlewyrchiad o gwbl ar foesau'r menywod sy'n defnyddio'r lle.

Eglurwyd inni mai "Toiled Gwyrdd" yw hwn yn sugno carthion yn hytrach na'u golchi gyda dwr i'r ffosydd cyhoeddus.

Dyfais felly sy'n halogi'r amgylchedd gyda swn wrth ei harbed trwy gynilo ar ddwr.

Problem iaith
Yn y maes parcio mae'r "iaith" yn bwnc trafod rhwng dau steward sy'n gwagswmera wedi prysurdeb y dydd.

"I didn't realise that Welsh was so widely spoken," meddai hi.

Gan ymateb wedyn i rhyw sylw gan ei chydymaith gyda'r geiriau:
"Yeah - but the fact that I speak Welsh doesn't mean I understand it."

Pwnc trafod i addysgwyr yng nghlydwch Pabell y Cymdeithasau fan yna.

Pabell ar goll
Ie, Pabell y Cymdeithasau.

A dyna ichi un o ddirgelion Casnewydd. Lle mae hi?

Er craffu ar fap o'r maes, ei droi o ben i waered, edrych arno o'r ochr, chwilio'r mynegai ar ei gefn does yna ddim s么n am un o hoff babelli'r Wyl lle mae'r gwynt y trafod bob amser yn boethach na hyd yn oed cynhesrwydd croeso.

Erbyn nos Sul roedd rhai yn ofni iddi gael ei dileu.

Ond na'n wir, o holi un o dywyswyr y Maes cafwyd ar ddeall mai ystafell yn Nhy Tredegar yw'r babell eleni - ac mae hwnnw y peth hawsaf un i ddod o hyd iddo ar y Maes!

Lleoli
Mewn trafodaeth gyda stondinwr heddiw ynglyn 芒 ble di'r lle gorau i gael pabell ar faes Steddfod.

Y farn gyffredinol oedd ei body n fanteisiol bod gyferbyn ag un o'r lleoedd bwyta neu'n agos i doiledau gan fod pawb yn mynd i fynychu'r lleoedd hynny rywdro yn ystod y dydd!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 主播大秀 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy