主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur: bore Sul

Dyddiadur dyddiol olaf Lowri Johnston am yr wythnos o Faes B a gigs y Steddfod.






Diwrnod olaf yr Eisteddfod!
Dwi methu credu pa mor gyflym mae'r wythnos wedi hedfan a chyn lleied o amser sydd ar 么l cyn dychwelyd i realiti!

Dwi ddim yn gorfod gweithio heddiw, felly dwi'n cysgu ychydig yn hwyr, ond gan ei bod yn danbaid yn y babell ni allaf aros ynddi'n rhy hir.

Cawod griced
Dwi'n osgoi'r ciw am gawod ar y Maes Ieuenctid ac yn cerdded draw i'r Clwb Criced gerllaw, lle mae'n bosib cael cawod am ddim - chware teg i bobl y Clwb!

Teimlo llawer yn well ar 么l cael cawod ac yn y prynhawn rydyn ni'n teithio draw i Glwb Pont Ebwy i far Abri er mwyn ymlacio yn yr haul gyda pheint o seidr oer wrth wrando ar Aun Tan Lan yn gwneud set acwstig - hyfryd!

Rydyn ni'n aros yno nes i gig y noson ddechrau drws nesaf yn y Clwb.

Mae'r tocynnau wedi'u gwerthu i gyd ac mae'n noson wych, ond dwi wedi blino cymaint erbyn y diwedd, ac mae'n berwi yn y gig gan fod y lle yn orlawn o bobl feddw a chwyslyd yn dawnsio'n wyllt! Joio!

Doniolwch
Allan i aros am fws y Tafod felly, sy'n rhedeg rhwng y Maes Ieuenctid a gigs y Gymdeithas, ond rydyn ni'n penderfynu mynd i n么l bwyd Tsieiniaidd tra'n aros, mewn lle o'r enw'r Wui Wui - enw sy'n ein diddanu am oriau (oce, falle i'r alcohol ei wneud yn ddoniolach!).

Ond, wrth adael y Wui Wui gyda ein Wui Wui Special (!), rydyn ni'n cymryd y tro anghywir ac yn mynd ar goll mewn st芒d o dai yng Nghasnewydd.
Am ffordd i orffen Steddfod!

Chwarae teg, cawsom gymorth gan y bobl leol a ddangosodd y ffordd gywir inni. Dal tacsi yn 么l wedyn, wrth inni golli'r bws olaf yn 么l i'r Maes Ieuenctid, ac yn syth i'r Gorlan am gwpanaid o de!

Mae'r lle'n llawn - mae cymaint mwy o bobl yma nawr nag oedd ar ddechrau'r wythnos.

Gan ei bod hi'n noson olaf - pa ffordd well i orffen na mynd i eistedd o gwmpas y goelcerth?! Fel pob noson arall ynte!

Dydy hi ddim yn arbennig o brysur o gwmpas y t芒n a dweud y gwir a dwi'n ei chael hi'n anodd iawn i gadw fy llygaid ar agor, ond dwi'n goroesi tan tua pump y bore ac yna mae'r gwely'n galw - am y tro olaf am flwyddyn arall!

Llwyddiant mawr
Mae wedi bod yn Eisteddfod wych - er yn wahanol i'r rhai blaenorol, gyda diffyg Maes-B ar y Maes Ieuenctid.

Dwi ddim yn meddwl i hynny wneud cymaint o wahaniaeth 芒 hynny a dweud y gwir gan i'r gigs i gyd fod yn llwyddiant mawr.

Teimlaf, er hynny, i bobl fod yn fwy tueddol o aros ar y Maes Ieuenctid am y noson yn lle mynd i gigs, gan eu bod yn bell.

Roedd hyn yn sicr yn wir ar ddechrau'r wythnos - efallai ddim cymaint erbyn y diwedd.

Byrgyrs neisia yn y byd
Rhaid diolch i bawb am wneud yr Eisteddfod yn gymaint o lwyddiant - yn enwedig y Gorlan am y te, y pot nwdls a'r byrgyrs neisa' yn y byd!

Bu cymaint o uchelbwyntiau yn ystod yr wythnos fel na allai'u rhestru nhw i gyd!
Hwyl am flwyddyn arall... Fe'th welaf chi oll yn y Faenol flwyddyn nesaf!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 主播大秀 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy