主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur: bore Mawrth

Lowri JohnstonDyddiadur dyddiol Lowri Johnston o Faes B a gigs y Steddfod.

Dwi wedi bod yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod yma ers blwyddyn gyfan - ers y munud i mi adael Eisteddfod Meifod y llynedd a dweud y gwir. A dyma'r amser wedi dod am wythnos o fwynhau ar y maes ieuenctid unwaith eto!

Yn anffodus i mi, mae'n ymddangos fod Cymru gyfan wedi penderfynu mynychu'r Eisteddfod fore Llun, ac felly fe gymrodd tua awr i ni wneud taith deng munud i ddod mewn i Gasnewydd. Dechrau da?!

Erbyn i ni gyrraedd, roedd y chwys yn diferu a'r amynedd yn brin - diolch byth am y Gorlan ar y maes ieuenctid! Felly ar 么l cwpanaid o de yno i ymlacio ychydig, mae'n amser gosod y babell. A'r cam cyntaf hollbwysig - dewis safle.

Mae'r maes ieuenctid ar safle hyfryd - gyda'r coed yn ychwanegu ychydig o gysgod yn yr haul tanbaid (a drodd yn law yn ddigon cyflym ar 么l i ni gyrraedd.) Felly, gosod y babell (heb ormod o drafferth) ac yna draw i'r maes. Yn y prynhawn, dwi'n dosbarthu cop茂au o'r Byd, ac ar 么l tair awr o gerdded o gwmpas y maes carafannau a'r maes ieuenctid, dwi'n syrthio yn syth i gysgu yn 么l yn y babell!

Ond ddim am sbel, achos mae'n amser mynd i'r gig. Gyda dewis eang o gigs bob nos, mae'n rhaid pwyso a mesur yn ofalus iawn pwy i'w gweld - ond does dim rhaid i mi feddwl yn galed nos Lun - a gig Drumbago, Heather Jones a Bechdan Jam sy'n mynd 芒 hi. Felly dal y bws draw, a mwynhau am y noson, cyn mynd n么l i'r maes ieuenctid i gymdeithasu o gwmpas y goelcerth.

Rhaid dweud, doeddwn i ddim yn si诺r iawn beth i'w ddisgwyl yn Eisteddfod Casnewydd. Mae'r maes ieuenctid yn wahanol flwyddyn yma, heb bresenoldeb Maes B, ond dwi ddim yn meddwl bod hyn yn gwneud gormod o wahaniaeth i'r naws. Yr argraff dwi wedi cael hyd yn hyn yw bod pobl ddim yn ffwdanu mynd draw i'r gigs, oni bai eu bod wir eisiau gweld rhyw fand arbennig.

Y gigs agosaf i'r maes ieuenctid yw gigs Cymdeithas yr Iaith (ac mae'r cwrw llawer yn rhatach yno mae'n debyg!) - mae'n bosib cerdded yno ond mae bws yn mynd yno yn ddigon aml. Y gwahaniaeth mwyaf i mi flwyddyn yma yw pellter popeth o'i gilydd - rhaid dal bws o'r maes ieuenctid i fynd i faes yr Eisteddfod, ac un arall i'r maes carafannau. Dwi'n teimlo mod i wedi treulio rhan fwyaf o'n amser hyd yn hyn yn aros am y bws yma a dweud y gwir!
Canlyniad y noson gyntaf felly?

Wel, noson dda iawn a dwi methu aros am weddill yr wythnos - aw锚 ynte!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 主播大秀 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy