主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Gigs: The Poppies, Kenavo, Frizbee, Ashokan

Clawr Hirnos gan FrizbeeYn agor gig Cymdeithas yr Iaith nos Fawrth mae The Poppies o Aberystwyth. Band arall Sam Mozz yw The Poppies, ac mae ganddo bresenoldeb da ar lwyfan, gan ddal sylw y gynulleidfa.



Dyma fand unigryw yn y S卯n Roc Gymraeg - er eu bod yn swnio fel sawl band Saesneg arall gyda 'The' yn rhan annatod o'r enw (The Strokes, The Hives ayyb) - a dylanwad Led Zeppelin yn amlwg.

Anghofio gwenu
Mae digon o fynd i'w caneuon a phwyslais ar y dryms a'r bass, a phresenoldeb yr harmonica mewn cwpwl o ganeuon (mae prinder mawr o'r offeryn gwych yma ar y S卯n Roc Gymraeg!).

Dyma fand roc sy'n llawn haeddu ei le a dwi'n edrych ymlaen at glywed mwy ganddynt.

Dwi'n teimlo ar adegau eu bod ychydig yn ddi-fflach ar lwyfan - pob un yn canolbwyntio cymaint ar eu hofferynnau fel eu bod yn anghofio gwenu a chael hwyl.
Cofier - os bydd y band yn mwynhau, bydd y gynulleidfa yn mwynhau!

Gan mai parti maes-e.com yw heno, mae'n amhosib mynd bum munud heb glywed y cwestiwn angenrheidiol hwnnw, "Wyt ti ar y maes?"! Ac mae'r band nesaf - Kenavo - yn cyflwyno Tai Haf i Nic Dafis - y dyn a ddechreuodd y wefan flwyddyn a hanner yn 么l.

Dawnus iawn
Prosiect dau frawd - Rhys a Chynan Llwyd o Aberystwyth yw Kenavo - ac mae'n amlwg bod Cynan yn MC dawnus iawn, gyda llawer o botensial - er nad yw ond yn bymtheg oed.

Dyma'r tro cyntaf i mi glywed Kenavo, a rhaid dweud fy mod i wedi fy mhlesio gan griw sy'n amlwg am gael hwyl, yn enwedig yn ystod y g芒n olaf lle mae Rhys Llwyd yn dod i ymuno 芒'r ddwy ddewr sy'n dawnsio i chwarae'r dryms.

Ar y bass mae Iestyn Jones, sydd hefyd yn chwarae bass i'r Panics, ac mae ei bresenoldeb a'i ddawn amlwg yn rhan mawr o'r perfformiad - er nad yw'n rhan flaen o'r band ar y llwyfan.

Yn dilyn b卯ts hip-hopaidd Kenavo mae Frizbee o Flaenau Ffestiniog.
Mae'r band yma newydd ryddhau eu albwm cyntaf - Hirnos, ac mae'r set heno'n llawn o ganeuon o'r cd yma, gyda ychydig o ganeuon ychwanegol.

Perfformiad gwych gan y band - Dora Gusan a Hirnos yn ddau o'm ffefrynnau i am y noson. Mae'n debyg bydd gan y band ep newydd allan erbyn y gaeaf - gwyliwch allan amdani.

Dawnsio'n wyllt
Ac i orffen y noson mae Ashokan, o Bontypridd. Ar 么l rhyddhau eu halbwm cyntaf Diolch am ddal y gannwyll ddechrau'r flwyddyn, mae'r band yn gweithio ar ganeuon newydd, a cawn flas ar rheina heno.

Mae gan y caneuon newydd s诺n trymach na'r rhai ar Diolch am ddal y gannwyll.

Braf clywed Y boi sydd methu ffonio n么l yn 么l yn fyw ac yn iach, ac mae'r gynulleidfa yn dawnsio'n wyllt trwy gydol y set. Mae'r band yn llawn egni heno, ond teimlaf fod y set wedi gorffen braidd yn sydyn - lle'r oedd yr encore?! Heblaw am hynny, does gen i ddim byd negyddol i ddweud am y band - na'r noson a dweud y gwir. Noson wych yn llawn o fandiau newydd, ifanc a ffresh y S卯n Roc Gymraeg - pob un ar ei orau, a'r gynulleidfa i gyd i'w gweld wedi mwynhau.

Lowri Johnston





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 主播大秀 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy