主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Cas-newydd: Gwilym dydd Iau

Gwilym OwenMae Gwilym Owen yn darlledu ar y Post Cyntaf bore o faes Prifwyl Casnewydd:






Llifeiriant Rod. . .
Casgliad o friwsion bach ysgafn, pryfoclyd, y bu imi eu blasu ar y maes yma sydd gen i heddiw.

Fel canfod y gwleidydd lliwgar hwnnw, Rod Richards, sydd yma'n gweithio yn 么l y s么n fel sylwebydd cyfryngol.

Llif RodMae o wedi penderfynu mynd o gwmpas y lle yn cario llif gadwyn - chainsaw i chi a fi.

Ond llif heb beiriant na dim arall ydi hon. Yn wir, mae hi mor aneffeithiol a gwleidydd diblaid a diswydd.

Ond mae'n gimic sy'n tynnu sylw.

Rhydd fynediad
Un arall sydd wedi tynnu sylw ato'i hun yr wythnos hon ydi Robin Llywelyn. Mae o wedi ennill gwobr goffa Daniel Owen am nofel a gobeithio y medra io ddarllen hon.

Mae o hefyd wedi bod yn llymeitian ar y maes yn ei wisg orseddol a rŵan mae o wedi argymell y dylai'r Cynulliad roi digon o arian i'r Steddfod fel gall pawb ddod i mewn heb dalu.

Ysgwn i a fydd o'n gweithredu'r un athroniaeth tua Phorthmeirion.

Doethinebu?
Golygfa drista'r Steddfod hyd yma, i mi, oedd dod ar draws stondin fach yn arddangos pum math o dylluanod .

Dyna lle'r oedd y pumawd yn syllu'n freuddwydiol ar y cannoedd o'u cwmpas a rhyw olwg drist arnyn nhw fel petaen nhw'n gofyn iddyn nhw'u hunain; Ysgwn i ddaw Hogia'r Wyddfa heibio i'n gweld ni.
Tw whit Tw hw.

Cwm-gymeriad
A dyna ichi'r hen 主播大秀 wedyn yn trefnu sesiynau trafod i ddathlu pen-blwydd Pobol y Cwm yn 30 oed.

Rhoi cyhoeddusrwydd cadarnhaol i'r hen gyfres annwyl mae'n debyg oedd y nod.

Och a gwae, be ddigwyddodd? Huw Ceredig yr actor a Meic Povey yr awdur yn rhoi swadan galed i'r criw presennol ac yn awgrymu eu bod nhw wedi colli'r plot.
Biti garw.

Hap a damwain
A biti hefyd na fuasai trefnwyr Hapnod, loteri fawr newydd yr Eisteddfod wedi gallu cyhoeddi dogfen ymuno 芒'r fenter mewn Cymraeg cywir.

Gyda chymaint o bryder am y rheol Gymraeg y dwthwn hwn mae'n drueni fod cynifer o frychau ar y ffurflen liwgar.

Wele'r dydd
Gweld hefyd fod Hafina Clwyd yn y Western Mail wedi penderfynu mai Y Dydd ac nid Y Byd fydd teitl y papur dyddiol Cymraeg newydd.

Ac roeddwn i wrth fy modd gweld y camgymeriad.

Y Dydd, wedi'r cyfan, oedd unig raglen newyddion Gymraeg go iawn sy wedi bod ar y teledu yng Nghymru erioed.

Ac er y dylwn i ddatgan diddordeb personol mae colled fawr ar ei h么l hi a dwi'n siŵr mai teimlo'r golled honno yr oedd Hafina wrth fynd ati i sgriblo.
Go dda chi.

Bydded goleuni
Ac i orffen, un sylw bach personol arall.
Yn y cyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod yn y Babell L锚n nos Fawrth rhyfedd oedd nodi fod yna ddigonedd o oleuni ar y swyddogion ar y llwyfan ond bod y gynulleidfa druan yn eistedd yn y tywyllwch.

Wn i ddim a oedd hynny yn drefniant arwyddocaol ai peidio.

Gobeithio nad felly y bydd hi yn y cyfarfod blynyddol y bore ma.

Yn wyneb haul llygad goleuni mae piau hi bawb.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 主播大秀 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy