主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!



Selwyn Iolen Selwyn Iolen
Yn falch o fod yn Archdderwydd cyffredin!
Eisteddfod Genedlaethol Eryri fydd Eisteddfod gyntaf y Prifardd Selwyn Griffith yn archdderwydd. Bydd y mab i chwarelwr o Bethel, Caernarfon, yn cymryd ei le ar faes a fu'n eiddo i un o'r hen feistri chwarel.

Bu ein gohebydd yn holi'r g诺r sy'n ymfalchio yn y ffaith mai 'eisteddfodwr cyffredin" ydi o ac a enillodd ei goron Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, 1989.

  • Mi fydda W J Gruffydd yn dweud ei fod o'n trigo yng Nghaerdydd ond yn byw ym Methel. Ac felly rydw innau'n teimlo hefyd; fy mod i'n trigo yn un lle ond wedi byw erioed yn Bethel.

  • Rydw i'n darllen ar hyn o bryd - mi fyddai'n trio'i ddarllen o unwaith y flwyddyn- Hen Atgofion - W J Gruffydd - ac mi rydw i'n cael rhywbeth newydd ynddo fo bob tro er fy mod i wedi'i ddarllen o ddwsinau o weithiau.

  • Pan oeddwn i'n blentyn yno roedd pob dim yn troi o gwmpas y capel. Roedd rhywbeth yn y capel bob nos; yn seiat neu gwrdd gweddi neu gymdeithas lenyddol neu rywbeth. Roedd hi'n ardal hyfryd, braf i fyw ynddi hi.

  • Chwarelwyr oedd y dynion i gyd a'r gwragedd i gyd yn wragedd t欧. Ychydig iawn o wragedd, os oedd yna rai o gwbl, oedd yn mynd allan i weithio; dyna oedd i gwaith nhw, adre yn paratoi, golchi a smwddio a llnau. A gwneud swpar chwarel wrth gwrs, oedd yn beth pwysig iawn.

  • Mae'n nhw'n dweud fod yna gysylltiad teuluol pell rhyngddo fi a W J Gruffydd. Ond mae o'n bell, bell, bell - yn 么l i Ardd Eden bron.

  • Bydd fy steddfod gyntaf yn y Faenol ac mi rydw i'n hynod falch - ac mi fyddai'n dweud hyn oddi ar y Maen Llog fore Llun - fy mod i'n fab i chwarelwr a hefyd nad ydw i yn ysgolhaig o gwbl ond mai rhyw steddfodwr bach cyffredin ydw i. Rhyw werinwr o steddfodwr os mynnwch chi.

  • Mae gen i gof o fy Steddfod Genedlaethol gyntaf - 1935. Mynd yno efo Mam yn hogyn bach saith oed. Gweld Gwilym R Jones, Talysarn, yn cael ei goroni a Gwyndaf yn cael ei gadeirio - yn y Pafiliwn yng Nghaernarfon.Ac mi ddeudodd Mam imi ddweud - a does gen i ddim cof o hynny fy hun - ond fe ddeudodd Mam imi ddweud ar 么l dod adref, "Dwi iso body n fardd."Dydw i ddim yn credu mod i eisiau bod yn fardd oherwydd yr awen na dim byd ond fy mod i wedi clywed y corn gwlad a gweld y cleddau mawr yna yn y seremoni ac roeddwn inna iso cael bod yn fardd hefyd!

  • Arwyr oedd y testun pan wnes i ennill y goron [yn Llanrwst] ac mi wnes i ddechrau efo Stanley Matthews a gorffen efo Mr Mathews y gweinidog oedd yn arwr i Mam - a Stanley Matthews yn arwr i minnau.

  • Mae gen i dri diddordeb.
    Steddfota
    笔锚濒-诲谤辞别诲
    Crwydro.
  • Yr unig ddiwrnod mewn blwyddyn y bydda i'n gwisgo siwt ydi diwrnod y Cyp Ffeinal. Mae hynny fel arwydd o'r parch sydd gen i at b锚l-droed. Y pleser gefais i o gicio p锚l fy hun a'r pleser dwi'n gael o wylio p锚l-droed rwan. Mi ddoi lawr y grisiau yn y bore yn fy siwt. Selwyn IolenPan wnes i hyn gyntaf un ar 么l priodi dyma Meira yn gofyn i mi, "Lle ti'n mynd heddiw, felly?" "Dwi ddim yn symud o'r t欧," medda fi. "Mae hi'n ddiwrnod Cyp Ffeinal ac mae'n hen draddodiad gen i wisgo dillad parch ar y diwrnod." Ond mi fyddai'n newid at gyda'r nos ar gyfer mynd allan - mae'n gas gen i goler a thei.

  • Os oedda chi'n medru cael p锚l roedda chi'n medru chwarae g锚m. Dydw i ddim yn gweld cymaint o blant heddiw yn chwarae allan ond yn chwarae yn t欧 yn pwyso rhyw fotymau efo'r teledu a ballu..

  • Stanley Mathews oedd fy arwr mawr i - er mai chwarae yn g么l oeddwn i!

  • Tudalennau cefn y papurau newydd - er nad oeddan ni'n dallt y geiriau, roeddan ni'n deall y lluniau!

  • Roeddan ni'n troi clytiau o dir yn Bethel - Parc y Wern oedd un darn o dir a dyna fu ffugenw pan enillais i'r Goron - roeddan ni'n troi Parc y Wern yn Goodison Park a Main Road a Wembley hyd yn oed . . . ac yn dychmygu clywed y plant yma yn gweiddi 'Come on Stan' arnaf fi!

  • Roeddwn i'n adrodd pan yn blentyn - i fyny i rhyw ddeuddeg oed. Ond roeddwn i'n tueddu i anghofio.

  • Yn ysgol Tan y Coed [Penisa'r-waun] y gwnes i feirniadu adrodd am y tro cyntaf. Dwi'n cofio'r noson. Roedd hi'n noson loergan a dwad ar feic o Bethal ac mi fu bron iawn imi a throi'n 么l wrth Charley Bridge yn meddwl pa hawl oedd gen i, i feirniadu adrodd a minnau bron iawn rioed wedi sefyll o flaen cynulleidfa. Ond mi ddiolchis i sawl gwaith wedyn i Humphrey Williams [a'i perswadiodd i feirniadu] na wnes i d dim troi n么l achos erbyn hyn rydw i wedi beirniadu dros 400 o steddfodau. Pe byddwn i wedi troi'n 么l y noson yna mi fydda'r bennod yna fy mywyd wedi gorffen heb iddi ddechrau.

  • Mae fy nyled i'n fawr iawn i'r plant y cefais i'r fraint o'u dysgu nhw; lle'r oeddwn i'n cael y syniadau i wneud darnau adrodd iddyn nhw.

  • Bob tro byddai'n mynd ar fy ngwyliau mi fyddai'n mynd a hen Gyfansoddiadau y Pumdegau efo mi a darllen y beirniadaethau. Ac mae'n syndod fel y byddai'r beirniadaethau yr adeg honno gan rai fel Meuryn a John Gwilym Jones yn fwy addysgiadol o lawer na'r beirniadaethau ydych chi'n gael heddiw - roeddech chi'n cael beirniadaeth gyflawn gan gynnwys geiriau roedda chi wedi'u camsillafu.

  • Tilsli oedd yn beirniadu [Y tro cyntaf i Selwyn Griffith gystadlu ar gyfansoddi darn adrodd i blant gan anfon tri darn i Eisteddfod Bethel]ac roedd o'n methu'n glir 芒 dewis rhwng y tri felly dyma fo'n eu rhoi i'w fab Gareth oedd yn wyth oed a gofyn iddo fo ddewis y gorau o'r tri. Ac mi ddewisodd Gareth rhyw ddarn bach Bai ar Gam. Felly gan Gareth Tilsley y cefais i'r wobr gyntaf erioed am sgwennu darn adrodd i blant!

  • Mi ddechreuais i gystadlu am gadeiriau - ac roedd hi'n ffordd hwylus o ddodrefnu t欧 achos cadeiriau esmwyth oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw. Ond roedd y wraig yn ffraeo bod nhw wahanol liwiau a ddim yn matsio!

  • Roeddwn i wrth fy modd efo gwaith Rhydwen Williams. T Glynne Davies hefyd. Pan yn blentyn y cerddi cyntaf roeddwn i wrth fy modd eu darllen oedd cerddi Crwys a phetha felly. Petha bach syml, sentimental fel Melin Trefin. Roeddwn i wrth fy modd hefyd efo gwaith Cynan. Rydw i'n credu mai Mab y Bwthyn Cynan oedd y bryddest wnes i fwynhau orau. Yn enwedig y rhan; Duw ydyw awdur popeth hardd/ Efe yw'r unig berffaith fardd/ Onid ei delynegion ef yw'r coed a'r nant ac yn y blaen.

  • Mae gen i ddigon o ffydd y down ni drosti [problemau y Steddfod] Dwi ddim yn gweld yr hen wlad yma yn mynd heb Eistedddfod Genedlaethol hyd yn oed yn 2007 . . .

  • Llwyddiant y Steddfod ydi ei bod hi'n mynd i bob man yn ei thro. Ond o bosib y gellid sefydlu rhyw bedwar lle gwahanol ar ei chyfer. Roedd Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yn llwyddiannus rhyfeddol -er bod na rai eraill yn dweud nad oedd hi mor llwyddiannus cyn belled ag yr oedd stondinau a phethau felly yn y cwestiwn.

  • Steddfod dda i mi ydi Steddfod ddifyr yn y Babell L锚n. Dyna sy'n gwneud steddfod hapus i mi. Ond rwan mae petha'n mynd i newid imi.

  • Fel Archdderwydd, a'r profiad rydw i wedi'i gael yn gwisgo'r clogyn mawr trwm yna, dwi'n gobeithio na fydd hi'n rhy boeth.

  • Y foment fwyaf cynhyrfus [o'i seremoni goroni] oedd y foment roedda chi'n codi ar eich traed a'r goleuadau yn chwilio amdanoch chi ac wedyn y foment roedda chi'n cyrraedd y llwyfan a throi rownd i wynebu'r gynulleidfa. Ond mae'r seremoni i gyd yn wefreiddiol.

  • Dwi wedi cael galwadau ff么n gan rai o Lerpwl yn gofyn fedrwch chi wneud rhywbeth i'r Steddfod beidio dwad yma. Mae na fwy o lythyrau wedi dod yn gwrthwynebu'r Steddfod fynd i Lerpwl gan bobl sy'n byw yn Lerpwl nag sydd yna o rai o'i phlaid hi hyd y gwela i.

  • I mi, yn bendant, fe ddylid cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghymru ac ar dir Cymru. Dydw i ddim yn credu yn onest y byddai hi, yn enwedig y dyddiau yma, yn llwyddiant yn Lerpwl.

  • Tasa'r Steddfod ar y lleuad fe fydda'n rhaid i mi fynd yno. Fedra i ddim gwrthod. Mae'n si诺r gen i y byddai yna amryw o aelodau'r Orsedd yn mynd ar streic ond mi fasa'n rhaid i mi fynd yno [i Lerpwl], yn rhinwedd fy swydd.Ond dydw i ddim yn i gweld hi'n mynd yno rywsut - dydw i ddim yn meddwl y bydd yn rhaid inni wynebu'r broblem yna.

  • Mae'n sefyllfa anodd. Pe bydde chi'n i gael o ar y bwrdd o'r blaen ei bod hi'n Lerpwl neu nunlle; be da chi'n mynd i wneud?

  • Dwi'n lecio m么r dipyn bach yn ryff [i hwylio arno] ac mi es i unwaith yn un swydd rownd Cape Horn imi gael storm iawn na fyddwn i byth yn i anghofio hi. Ond diawch, roedd y m么r mor dawel . . .

  • Dydw i ddim yn bwyllgorddyn - er imi fod yn glerc cyngor plwyf am 46 o flynyddoedd . . . ond mi rydw i wedi bod mewn mwy o bwyllgorau efo'r Steddfod yma na a fus i weddill fy oes.

  • Mae'n anrhydedd ichi gael bod yn Archdderwydd - yn enwedig i rywun cyffredin fel fi. Llun gan Arwyn Roberts Ond eto mae yna gyfrifoldeb hefyd. I mi dydi'r Archdderwydd ddim yn bwysig - yr unigolyn ei hun. Pwy sy'n bwysig ydi'r sawl sy'n cael ei anrhydeddu gan yr Archdderwydd. Y bardd fydd yn codi ar i draed; enillydd y fedal. Fy mraint i ydi mai fi sy'n cael eu anrhydeddu nhw yn enw'r Orsedd. Ond y nhw sy'n bwysig a'r bobl fyddai'n dderbyn yn aelodau o'r Orsedd.

  • Os byddai'n teimlo yn eigion fy nghalon y dylwn i ddweud rhywbeth [mewn anerchiad o'r Maen Llog] mi wna i . . .ond nid er mwyn ennill penawdau ac nid er mwyn cael fy llun mewn papur newydd ond am fy mod i'n teimlo'n wirioneddol.

  • Dydw i ddim yn wleidydd o gwbl - ac mae yna rai Selwyn Iolen eraill llawer mwy cymwys na mi i drin 芒'r pethau gwleidyddol hynny. Ac yn wir, a dydi'r bobl gyffredin - y gwir steddfodwyr - ddim yn dod yno i gael gwleidyddiaeth ond i gael diwylliant. Mae gennym ni lefydd eraill fel y Cynulliad ar gyfer trafod gwleidyddiaeth.

  • Os na fyddai'n beirniadu [mewn steddfodau bach] mi ai yno fel gwrand盲wr.

    Holwyd Selwyn Iolen gan Glyn Evans




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy