主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

TudurDylan Jones Cadeirio Tudur Dylan
Cadair yr un i'w ddwy ferch
Cael cadair yr un i'w ddwy ferch oedd rhan o'r pwrpas y tu 么l i gystadlu am Gadair Eisteddfod Genedlaethol Eryri i Tudur Dylan Jones.

Ac yntau, wedi ennill yn barod gadair yn 1995 penderfynodd y byddai'n weddus cael cadair i'r ail o'i ddwy ferch!

Tudur Dylan Jones"Mae gen i ddwy ferch 'da chi'n gweld ac roeddan nhw wedi bod yn llygadu'r gadair rydw i wedi'i hennill ac fe ddywedodd un ohonyn nhw, ar 么l clywed - neithiwr dd'wedo ni wrthyn nhw; 'Un yr un.' A dyna gadw'r ddesgil yn wastad," meddai.

Trosglwyddo etifeddiaeth yw thema'r awdl a hynny'n cael ei ddarlunio trwy gyfrwng tad yn cyflwyno'r "etifeddiaeth" Gymreig ar ffurf straeon i'w ferch fath - merch fach sydd, meddai Tudur Dylan Jones, yn gyfuniad yn ei feddwl o'i ddwy ferch ef ei hun;Catrin, 15, a Siwan, 11.

Tudur Dylan Jones"Efallai ei bod hi'n ofn gan bob un ohonom ni yn y pen draw ein bod ni'n heneiddio a bod straeon oeddem ni'n arfer eu cofio yn mynd yn angof. Ac os nad ydi un genhedlaeth yn dweud ei stori, pa bynnag stori ydi hi - stori eu hardal hwy, stori eu cenedl hwy - os nad yw cenhedlaeth yn dweud y stori, yna mae'r stori yn mynd yn angof ac mae yna bwynt yn dod pan yw hi'n rhy hwyr a does gan neb y stori.

"Mae hi i fyny i'r genhedlaeth nesaf wedyn beth maen nhw yn i wneud 芒'r stori ac a ydyn nhw yn dweud y stori wrth y genhedlaeth sy'n dod wedyn," meddai.

Tudur Dylan JonesWrth gael ei holi gan Gwilym Owen ar gyfer 主播大秀 Radio Cymru aeth Tudur Dylan Jones ymlaen i gymharu cyfansoddi awdl a rhedeg marathon - dwy gamp y mae'n ymh茅l 芒 hwy ac yntau wedi rhedeg ym Marathon Llundain deirgwaith.

"Mae marathon a sgwennu awdl yn debyg tu hwnt. Mae eisiau dipyn o stamina i wneud y ddau a phan yda chi wedi cyrraedd y diwedd dydi o ddim ots, yn y pen draw, ydych chi wedi ennill. Mae'n ddigon i wybod eich bod chi wedi llwyddo i wneud hynny.

"Yr ydw i wedi digwydd ennill yma heddiw, enillai byth efo marathon," meddai.

Am y pleser o ennill, dywedodd:
"Yr ennill pennaf ydi teimlo eich bod chi wedi llwyddo i ddweud be da chi eisiau'i ddweud. Os ydi'r beirniaid yn cytuno 芒 chi, fod yr hyn yda chi wedi'i ddweud yn apelio atynt nhw - yna mae hynny'n fonws," meddai.

Tudur Dylan Jones' Trwy bleidlais mwyafrif yr enillodd ei ail gadair genedlaethol.

Disgrifiodd Alan Llwyd ef fel bardd cyfareddol "a roddodd i ni awdl wych" a chanmolodd Emyr Lewis gynildeb yr awdl a'r ffaith "fod ynddi gymhlethdod a dyfnder ystyr sy'n dyfnhau ar bob darlleniad."
Canmolodd hefyd ei darluniau ar gynghanedd.

Ond er ei fod yntau yn canmol yr hyn a alwodd yn "gyfanwaith caboledig gan fardd tywyllodrus" dywedodd Peredur Lynch, a draddododd y feirniadaeth ar y llwyfan, mai i ymgeisydd arall, Lusudarus, y rhoddai ef y gadair "o drwch blewyn".

Ond yr oedd Alan Llwyd ac Emyr Lewis yn bendant mai Drws y Coed - sef Tudur Dylan Jones - haeddai'r wobr gydag Emyr Lewis yn datgan fod "bwlch sylweddol" rhwng ei awdl ef a'r gweddill.

  • Y tro cyntaf y cadeirwyd Tudur Dylan Jones ei dad, JohnTudur Dylan Jones Gwilym Jones, oedd yr archdderwydd a arweiniai ddefod y cadeirio. Eleni, yn gofiadur newydd yr Orsedd, yr oedd ei dad yn edrych, yn llythrennol, dros ei ysgwydd yn ystod y ddefod!


i ddarllen adroddiad o'r Eisteddfod

Mwy o storiau Dydd Gwener


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy